Enwogion Sir Aberteifi/Dafydd ab Ieuan
Gwedd
← Dafydd ab Gwilym | Enwogion Sir Aberteifi Bywgraffiadau gan Griffith Jones (Glan Menai) Bywgraffiadau |
Dafydd ab Llwyd → |
DAFYDD AB IEUAN, oedd yn byw yn Llwyndafydd. Croesawodd Iarll Rismwnt pan ar ei ymdaith trwy'r wlad i gyfarfod â'i wrthwynebydd, Risiart III. O herwydd ei lettygarwch, derbyniodd gan yr Iarll "corn hirlas," yr hwn sydd i'w weled yn awr yn y Gelli Aur.