Enwogion Sir Aberteifi/Thomas Bevan
← Arthen | Enwogion Sir Aberteifi Bywgraffiadau gan Griffith Jones (Glan Menai) Bywgraffiadau |
William Bold → |
BEVAN, THOMAS, oedd un o'r cenadon Protestanaidd cyntaf i ynys Madagascar. Yr oedd yn enedigol o ardal Neuaddlwyd, ac yn aelod o'r Eglwys Annibynol yno, ac yn un o ysgolheigion yr hyglod Dr. Phillips. Ordeiniwyd ef a'i gydlafurwr, Dafydd Jones, yno, yn genadon i Mada- gascar, Awst, 1817. Gadawsant Brydain ddiwedd y flwyddyn hdno, a chyrhaeddasant Mauritius yn mis Ebrill y flwyddyn ganlynol. Tiriasant yn Madagascar yn Awst, a chawsant dderbyniad croesawgar gan Fisatra, brenin Tamatave. Daeth mab y brenin yn un o'r deg neu ddeuddeg o ysgolheigion oedd ganddynt yn yr ysgol a sefydlasant yno. Wedi gwel- ed argoelion y llwyddasai y gwaith da, aeth y cenadon drosodd i Mauritius i ymofyn eu gwragedd a'u plant, oblegid ynó y gadawsent hwy. Mr. Jones a ddychwelodd yn ol gyntaf, ac yn fuan derbyniodd y newydd prudd, gan un o'r masnachwyr, fod gwraig a phlentyn ei gyfaill Mr. Bevan wedi eu claddu, a'i fod yntau ei hun yn annhebyg iawn i fyw. Effeithiodd y newydd hwn yn ddwys arno, fel y wylodd yn hidl; ac heb golli amser aeth trwodd i'w weled, a chan gydio yn ei law, dywedai, “Y mae fy ngwaith ar ben; ond chwi a fyddwch byw, ac a lwyddwch: ymwrolwch, a chymerwch galon." I'r hyn yr atebai Mr. Jones, "Tewch; myfi sydd glaf, a chwithau sydd iach." "Chwi a gewch weled," ebai Mr. Bevan, “mai gwir a ddywedais; ac fe ddaw un arall i lanw fy lle.” Gwiriwyd ei eiriau, oblegid bu farw yn mhen tridiau; a bu ei wraig a'i blentyn farw yn fuan ar ei ol.