Enwogion Sir Aberteifi/William Bold

Oddi ar Wicidestun
Thomas Bevan Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Thomas Bowen

BOLD, WILLIAM, Ysw., ydoedd o Dre'r Ddol. Llanwodd y swydd o Sirydd Mon yn y blynyddau 1644, 1649, a 1655. Yn amser y rhyfel gwladol, cymerodd ran y brenin; ac mor ddewr yr ymladdodd, fel y teilyngodd gael ei urddo â'r teitl o Farchog y Dderwen Freiniol, yr hwn a fwriedid ei roddi yn 1660. Yr oedd ei etifeddiaeth yn werth £1,000. -Cam. Quart. Mag. ii., 165—7.