Enwogion Sir Aberteifi/Thomas Bowen

Oddi ar Wicidestun
William Bold Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Cadifor ab Dinawol

BOWEN, THOMAS, Ysw., boneddwr cyfoethog a haelionus oedd yn byw yn Waunifor, tua chanol y ganrif ddiweddaf. Aeth un tro i wrando Mr. Rowlands, Llangeitho, yn pregethu yn nghapel y Twrgwyn, ac o hyny allan daeth yn wrandawr cyson ar y Methodistiaid, er ei fod o'r blaen yn ymddwyn tuag atynt yn dra charedig a chymwynasgar. Yn y flwyddyn 1760, adeiladodd gapel Waunifor, yn agos i'w balas ei hunan, ac a'i rhoddodd at wasanaeth y cyfundeb; ac yn ei ewyllys trosglwyddodd ef yn llwyr iddynt dros byth. Yr oedd Mrs. Bowen yn cael ei threfnu i gadw y capel mewn cywair da tra y byddai byw. Profwyd yr ewyllys hon yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1806, gan y weddw, yr hon a adawyd yn unig weinyddes i'r llythyr cymun. Heblaw codi yr addoldy yn hollol ar eu traul eu hunain, byddai y teulu haelionus hwn yn arfer llettya a chroesawu yr holl bregethwyr a ddeuent yno. Bu eu merch ar eu hol, yn gystal a'u mab, yr hwn oedd yn offeiriad yn Eglwys Loegr, yn dra haelionus i'r achos yno tra fuont byw.—Meth. Cymru, cyf. ii., tudal. 35, 36.