Neidio i'r cynnwys

Enynnaist ynof dân

Oddi ar Wicidestun
Ni chollwyd gwaed y groes Enynnaist ynof dân

gan William Williams, Pantycelyn

Fy Iesu yw fy Nuw (2)
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

157[1] Grym Cariad Crist.
66. 66. 88.

1 ENYNNAIST ynof dân—
Perffeithiaf dân y nef,
Ni all y moroedd mawr
Ddiffoddi mono ef;
Dy lais, dy wedd, a gweld dy waed,
Sy'n troi 'ngelynion dan fy nhraed.

2 Mae caru 'Mhrynwr mawr,
Mae edrych ar ei wedd,
Y pleser mwya'n awr
Sy i'w gael tu yma i'r bedd:
O! gariad rhad, O! gariad drud,
Sydd fil o weithiau'n fwy na'r byd.

3 Wel dyma'r gwrthrych cun,
A dyma'r awr a'r lle:
Cysegraf fi fy hun byd
Yn gyfan iddo Fe;
Ffarwél, ffarwél, bob eilun mwy,
Mae cariad Iesu'n drech na hwy.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 157, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930