Neidio i'r cynnwys

Fy Iesu yw fy Nuw (2)

Oddi ar Wicidestun
Enynnaist ynof dân Fy Iesu yw fy Nuw (2)

gan William Williams, Pantycelyn

O! Nefol addfwyn Oen
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

158[1] Digon yng Nghrist.
66. 66. 88.

FY Iesu yw fy Nuw,
Fy noddfa gadarn gref;
Ni fedd fy enaid gwan
Ddim arall dan y nef;
Mae Ef ei Hun a'i angau drud
Yn fwy na'r nef, yn fwy na'r byd.
2
Fy nymuniadau i gyd
Sy'n cael atebiad llawn,
A'm holl serchiadau 'nghyd
Hyfrydwch nefol iawn,
Pan fyddwy'n gweld, wrth olau'r wawr,
Mai eiddof fi fy Arglwydd mawr.
 
William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 158, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930