Er Mwyn Cymru/Difenwi Cenedl

Oddi ar Wicidestun
Llwybrau Newydd Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Y Mynyddoedd Hyfryd

DIFENWI CENEDL

"YR HWN, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn." Dyna ran o un o'r darluniadau rhyfeddaf o gymeriad perffaith yn llenyddiaeth y byd. Cymeriad fel hwn fedd y grym i wneud gwyrthiau dros genedl a thros ddynol ryw. A chymeriad fel hwn fedd y llareidd-dra, y boneddigeiddrwydd, y swyn sy'n sicr, yn hwyr neu'n hwyrach, o ennill parch.

Y mae o fy mlaen lythyr oddiwrth Gymro gwladgarol, yn gofyn i mi am gymorth i wrthdystio yn erbyn y sarhad deflir yn aml ar enw'r Cymro ac ar gymeriad ei genedl. Er esiampl, geilw'r Saeson ni yn Welsh, sef "pobl ddieithr." Oni ddylent ein galw ar yr enw roddasom arnom ein hunain, sef yr enw anwyl ac anrhydeddus Cymry? Onid ni yw hen yd y wlad, a hwythau yn ddyfodiaid megis doe? Onid gennym ni y mae y llenyddiaeth hynaf, a datblygiad puraf a chyfoethocaf? Onid rhai bonheddig ydym, yn byw yn ein cartref ein hunain? A pha hawl sydd gan drawsfeddianwyr i athrodi y rhai ysbeiliasant, ychwanegu difenwi at ladrata, a galw hen feddianwyr y wlad yn "ddieithriaid " ynddi? Oni chodir a chrochfloeddio gwrthdystiad?

Mae llais melys iawn yn dod o gynnwrf yr hen oesau,—"Pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn." A yw'r gwladgarwr a'r boneddwr a'r Cristion yr un? Os felly, erys yr enaid yn dawel; ac ni chaiff y difenwr ei ddifenwi'n ol.

Wrth wrthdystio yn erbyn difenwi ei genedl, ni wna'r gwladgarwr gorselog ond galw sylw at y celwydd athrodus, yn lle gadael iddo farw; wrth amddiffyn ennyn sel mewn rhai eraill i'w wrthwynebu. Gall llew urddasol gerdded yn hamddenol trwy dyrfa o glepgwn fydd yn cyfarth ac yn chwyrnu o'i gwmpas. Gall cenedl hen ac anrhydeddus beidio talu sylw i fân athrodwyr diweddar ac i hen gelwyddau penwyn; os dechreua eu hateb, cyll ei hurddas hyd yn oed wrth lwyddo. Ychydig yn ol cyhoeddodd rhywun lyfr i athrodi cenedl y Cymry; cododd bob hen sarhad a dyfeisiodd rai newydd. Beth wnaeth y Cymry ynfyd ond brochi, a difenwi'r llyfr, a'i ateb. Trwy hynny cafodd y llyfr gylchrediad eang, cafodd ei gelwyddau edyn, a chafodd ei awdwr elw. Cyhoeddwyd llyfr tebig am yr Albanwr. Ond anhebig iawn fu ei dynged. Ni wnaeth Sandy sylw yn y byd ohono; os gwnaeth, cofiodd am frwydr Bannockburn ac am y gwŷr mawr anfonir o'i wlad i reoli rhannau eraill yr ymherodraeth, ac ni ddywedodd ddim.

Ni ddifenwyd mwy ar neb nag ar yr Iddewon, ni ddioddefodd neb yn fwy amyneddgar, ac ni lwyddodd neb yn fwy. Gofynnais laweroedd o weithiau i blant bach Iddewig pam y darllennant ddramodau Shakespeare a nofelau Dickens, a hwythau mor annheg at yr Iddewon. "Ni wyddent hwy well." Mae y plant ymysg yr Iddewon yn gwybod am urddas a mawredd eu cenedl; a phan ddifenwir hi, teimlant nad yw hi ddim gwaeth.

Ai cyngor dyn llwfr wyf yn ei roddi? Sut y gall cenedl falch, o dymer boethlyd, oddef yn ddistaw pan ddifenwer hi? Sut y medr ffrwyno ei hegni? Ni raid iddi wneud hynny. Bydded ei holl egni ar wneud daioni, a sieryd ei bywyd drosto ei hun. Tra yr wyf yn ysgrifennu y mae dau Gymro mawr newydd huno, a'r bedd eto heb gau arnynt. Yn eu bywyd buont wylaidd a diymhongar, gadawent i'w clod fynd i eraill; ond daw amser y dadorchuddir eu mawredd ac y gwelir gogoniant eu gwaith. Pan roddid y clod i eraill am ddarganfod pellebriad diwifrau, yr oedd Syr William Preece yn hen ŵr yn Arfon yn llawenhau wrth weled perffeithiad ei waith ef, fel y collodd tymhestloedd y môr lawer o'u dychryn. Pan ddarganfyddodd y gŵr o sir Fynwy, Alfred Russell Wallace, ddeddf datblygiad, helpodd eraill i brofi mai Darwin a'i darganfyddodd gyntaf. Ond myn hanes roi y ddau gawr hyn yn eu lle. Yr hyn wnaeth y rhain, gwnaed eu cenedl. A phan ddifenwer hi, bydded ei hateb yn ddistawrwydd urddasol. Y mae iddi esiampl, "Eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn."

Nodiadau[golygu]