Er Mwyn Cymru/Y Mynyddoedd Hyfryd

Oddi ar Wicidestun
Difenwi Cenedl Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Arddull

Y MYNYDDOEDD HYFRYD

"DRW bach, come!"

Llais tenor soniarus oedd, ar odre Pumlumon, yn galw'r gwartheg i'r fuches i'w godro, ar nawn hyfryd o haf.

Yr oeddwn wedi cychwyn o Lanidloes ganol dydd, ac wedi troi fy wyneb i'r gorllewin, at y mynyddoedd hyfryd sy'n llu mawr megis yn edrych i lawr ar y dref fechan lân a phrydferth honno. Croeswch y Bont Fer neu'r Bont Hir dros Hafren loyw risialaidd, a chewch ddewis goludog o fryniau i'w dringo neu ddyffrynnoedd i'w teithio. Mae Clywedog a Hafren a Brochan yn ein gwahodd atynt, pob un yn ei llais ei hun; a medr pob un eich arwain heibio i lecynnau swynol o dlws, a heibio i lawer cartref sy'n hynod yn hanes neu yn llenyddiaeth Cymru.

Neu gellwch godi uwchlaw'r afonydd, a dechre dringo'r gelltydd ar unwaith. Y mae eangderau o fynyddoedd o'ch blaen, yn codi yma ac acw yn drumau ag enwau hanesiol arnynt, hyd nes y cyrhaeddwch Bumlumon ei hun. Dewisais i ddringo gallt, er ei bod yn un o ddyddiau poethaf yr haf diweddaf. Wedi cerdded yn araf, ac aros beunydd i syllu ar ddyffryn Hafren islaw, ac ar y Pegwn Mawr yn codi o fysg mynyddoedd Maesyfed yr ochr arall, o'r diwedd cyrhaeddais ben y bryniau. Nis gwn am well enw arnynt na'r mynyddoedd hyfryd. Dros y rhosydd gweiriog a'r gweunydd porfa crwydrai awel ysgafndroed o eangderau Pumlumon draw. Awel haf oedd, wedi ei deffro rywsut ar unigeddau'r môr; crwydrodd oddiyno i fyny hyd lethrau'r mynyddoedd, ac wedi ymdroi peth yn uchelderau hyfryd oerion Pumlumon, ehedodd i lawr, a iechyd y mynydd yn ei hanadl, i'm cyfarfod innau. Yr oedd wedi chware â'r corn carw ac â mantell Fair ar y mynydd, ac yn awr llenwai enau blodau'r dyffryn â chwerthin. Tra'n teimlo'r awel leddf esmwyth yn anadlu'n dyner ar fy wyneb, a thra'n syllu ar y dyrfa o fryniau a bronnydd hawddgar oedd o'm blaen, y clywais lais y cowmon yn galw ar nifer o wartheg duon i adael eu porfa. Mwyn iawn oedd y llais, a rywsut mynnai'r geiriau aros yn fy nghlustiau.

Tri gair yn unig ddywedwyd wrth y gwartheg, ond yr oeddynt mewn tair iaith. Ac yr oedd y tair iaith hynny yn ieithoedd tair cenedl ddaeth ar ol ei gilydd, fel tonnau'r môr, dros y mynyddoedd hyn. Gair yn perthyn i iaith goll yw'r gair drw. Yr oedd yma bobl unwaith, meddir, a'u henw ar wartheg oedd drw; cadwyd y gair hwnnw, fel pe tybid fod gwartheg y cynfrodorion yn ei ddeall yn well, yn iaith y genedl newydd ddaeth i feddiannu'r wlad. Yr enw rydd haneswyr ar y bobl y mae eu hiaith wedi ei cholli bron i gyd yw Iberiaid. Daeth Celtiaid ar eu holau, rhyfelwyr tal croenlan a llygad las, cryfach helwyr na'r Iberiaid llygatddu gadwai'r gwartheg. Cymerodd eu hiaith feddiant o'r broydd hyn; yn eu hiaith hwy yr enwir pob mynydd & dyffryn o fewn ein golwg. A gair o'u hiaith hwy, "bach," ddefnyddiai'r amaethwr fel gair o anwyldeb gyda'r hen enw Iberaidd. Ar ol y Celtiaid Brythonig daeth perthynasau iddynt, cenhedloedd Teutonaidd, ac o'u hiaith Seisnig hwy y daw gair olaf y llais.—"come."

Tybiai rhai fod cenedl yn diflannu gyda iaith. Ond nid felly y mae. Nid oes odid air o iaith yr Iberiaid yn aros, ond eu gwaed hwy sydd lawnaf ym mywyd y genedl. Y mae iaith y Celtiaid wedi marw ar y mynyddoedd sydd ar ein cyfer ym Maesyfed, er nad oes ardaloedd yng Nghymru a'u henwau lleoedd mor Gymreigaidd; ond ni newidiwyd gwaed y bobl. Cymry ydynt o hyd, eto'n arfer ambell air Cymraeg a llawer priodddull Cymreig, fel yr arfer Cymro ambell air a phriod-ddull Iberaidd. Y mae ardaloedd Llanidloes wedi bod yn graddol newid eu hiaith; ond y mae ysbryd crefydd a diwylliant ac addysg yn awr yn galw'r hen iaith yn ol. Mewn un cwm Seisnigaidd cyfarfum â thyrfa o blant yn chware. Wrth i mi eu cyfarch yn Gymraeg, siaradasant yr iaith honno'n fwyn a llithrig; yr oedd bardd wedi ei dysgu iddynt yn eu haddoldy. Bu Llanidloes yn Gymreig ac yn Seisnig droion. Ewch i'r fynwent islaw, neu chwiliwch lyfrau ei chofnodion, a chewch fod llu o weithwyr Seisnig wedi dod iddi pan y troai'r Hafren olwynion y melinau gwlan. Ond daethant hwy'n Gymry, a llawer ohonynt yn Gymry uniaith. Gall cenedl amryfal iawn siarad yr un iaith, gall cenedl bur iawn newid ei hiaith. Ni ddengys iaith hanfod cenedl. Mae rhyw awydd crwydro diorffwys ar genhedloedd. Dychymyg, newyn, anrhaith, tywydd heulog, crefydd, erlid, ysbryd rhyddid, aur,—llawer peth sy'n denu neu'n gyrru cenhedloedd i grwydro. Y mae cyfeiriad i'w crwydro er hynny, o ogledd- ddwyrain i dde-orllewin; mor sicr a bod greddf yn rhoi llwybr i grwydriadau gwenoliaid. Y mae crwydro parhaus ym mhob ardal hefyd. Yr wyf fi yn byw mewn ardal fynyddig iawn, lle fel pe wedi ei gwneud i fod yn ben gyrfa pob crwydryn. Daeth hynafiaethydd dysgedig yma rai blynydd- oedd yn ol, i fesur penglogau'r bobl; er mwyn cymharu pennau cyn-drigolion ein hynys, canys tybiai ef mai disgynyddion y rhai hynny oeddym, phennau cenhedloedd diweddarach. Ond gwyddwn i mai hollol ofer oedd ei lafur, oherwydd dyfodiaid o fewn cof hanes yw pawb; ddau can mlynedd yn ol nid oedd yr un o'r teuluoedd y mesurodd ef eu pennau wedi dod yma i fyw.

Os oes awydd crwydro ar rai cenhedloedd, y mae awydd aros yn eu hunfan ar eraill. Nid yw cenhedloedd crwydr yn gwthio eraill o'u blaenau, fel y dywed rhai sydd yn tybio y diflanna cenedl gyda'i hiaith. Peth anodd iawn yw symud rhai sydd wedi penderfynu na symudant ddim. Medrai y dyfodiaid eu meistroli a'u caethiwo, ond ni fedrent eu difodi. Heblaw hynny, yr oedd yn rhaid iddynt wrthynt. Mae'r bobl ddywed "drw," a'r bobl ddywed "bach," a'r bobl ddywed "come," wedi ymgymysgu ar y mynyddoedd yn un genedl; ac y mae rhai eraill yn crwydro yma o hyd.

Pa un ai'r cenhedloedd sy'n llawn awydd crwydro, ynte'r cenhedloedd sy'n llawn awydd aros, yw'r cenhedloedd cryfaf a goreu? Pa un ai ysbryd anturus ynte ysbryd penderfynol yw'r cryfaf? Y mae hiraeth angerddol am gartref mewn rhai cenhedloedd. Gallech feddwl na hoffai neb fyw yn "Greenland oer fynyddig," lle na thyf coeden, lle mae'r nos hir ddidor yn ddigon i ddwyn gwallgofrwydd ar deithwyr ddelir ganddi, lle mae eira tawdd yr haf bron mor erwin ag eira rhewllyd y

gaeaf. Ond pan ddygwyd dau Esquimaux i feysydd

hyfryd Denmark, taflasant eu hunain i'r môr, gan feddwl am feiddio ei holl stormydd, a chyda sicrwydd y suddent cyn i'w hegnion egwan fynd a hwy fawr i gyfeiriad y wlad oer bell oedd mor anwyl iddynt hwy. Dywedir y bydd rhai o forwyr Llydaw, y cryfaf a'r dewraf yn llynges Ffrainc, yn marw o hiraeth pur.

Ai'r cryf a'r anturus sy'n crwydro; ai'r gwan a'r ofnus sy'n aros gartre? Y mae Tennyson, ym melodi dwys a phrudd ei odlau, yn ymgorfforiad o ysbryd gorffwys; y mae Carlyle, yng ngrym ystormus ei arddull arw, yn ymgorfforiad o ysbryd crwydro. Y mae'r cyntaf fel pe'n analluog i symud o froydd hud Dolgellau neu Gaerlleon ar Wysg, a'r olaf fel pe bai hen ysbryd y viking crwydrol yn cynhyrfu ei waed. Ond nid felly yn hollol yr oedd. Pan oedd Carlyle yn marw aeth Tennyson i edrych am dano. At farw y trodd yr ymddiddan. Yr oedd Tennyson am grwydro i farw i ben mynydd yn Brazil. "I should at least like to see the splendour of the Brazilian forest before I die," meddai. Atebodd yr hen athronydd ef o lan yr afon, "The scraggiest bit of heath in Scotland is more to me than all the forests of Brazil." Ac eto, yn Lloegr yr oedd ef wedi byw.

Os cryf, cryf i grwydro a chryf i orffwys; cryf y dyhead am weled gwledydd eraill, a chryf yr hiraeth am yr hen wlad Ac felly y mae bywyd y byd. Daw cenhedloedd eto i'r mynyddoedd hyfryd, a gwnant eu cartref ynddynt, fel yn yr oesoedd o'r blaen. Ac y mae popeth ar y mynyddoedd yn ymburo ac yn ymberffeithio,—bywyd dyn ac anifail a llysieuyn,—oherwydd yn ysbryd bywyd a rhyddid y maent yn byw, yn symud, ac yn bod.


Nodiadau[golygu]