Er Mwyn Cymru/Arddull

Oddi ar Wicidestun
Y Mynyddoedd Hyfryd Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Beirniadaeth

ARDDULL.

Y MAE dau ŵr yn codi'n amlwg i sylw efrydwyr gair ac arddull y dydd hwn, sef Dr. Johnson yn Lloegr a Dr. W. O. Pughe yng Nghymru. Gwnaeth y ddau wasanaeth tebig iawn i'w gilydd, i'w gwahanol gydwladwyr. Gwnaethant eirlyfr o eiriau, nid arferedig yn bennaf, ond arferadwy; a bu dylanwad y geiriaduron yn bwysig ac arhosol mewn dwy ffordd,—rhoddasant drwydded i rai geiriau fel geiriau llenyddol, a gwrthodasant eraill fel pethau dieithr neu esgymun. Gosodasant i lawr safonau beirniadaeth ar ffurf gair; ceisiasant orgraff unffurf, a cheisiasant gadw hen ddulliau afrosgo pan oedd greddf naturioldeb a pherseinedd wedi mynnu rhai newydd; mynnai y Cymro ysgrifennu "idd ei" yn lle "i'w," a mynnai'r Sais yntau ysgrifennu "shall not "yn lle "shan't." Drwy bregeth ac ymarweddiad llenyddol ceisiodd y ddau wasgu ar eu cenedl arddull ystyrrid yn gywir a choeth a chlasurol, hyd nas adnabuai gŵr ei famiaith ei hun yn ei gwisg lyfr. Dan ŵr mawr oeddynt, doeth a hygar a gonest a da. A heddyw gwysir hwy o flaen y cyhoedd i'w beirniadu; a chyda pharch dwfn i'w cymeriadau a'u hamcanion gofynnir, os pery eu dylanwad, pa un wnant fwyaf, ai drwg ai da.

Yn yr oes hon, pan y mae bywyd yr iaith Gymraeg a bywyd ysbryd Cymru mewn perigl oddiwrth ymosodiadau estron ac mewn perigl mwy oddiwrth ymosodiadau cyfeillion ffug, y mae'n eglur na all Cymru fforddio gwneud camgymeriadau, Nid oes amser i ymdroi yma ac acw i wneud arbrawfion ar fywyd llenyddol y genedl, rhaid i ni dreulio'n hamser i gyd i ddarparu bwyd llenyddol i'r oes sy'n codi, onite bydd hen fywyd llenyddol Cymru wedi mynd. Ac y mae'n bryd gofyn cwestiwn, nid cwestiwn i ddifyrru ambell orig academaidd, ond cwestiwn y mae bywyd yr iaith Gymraeg a bywyd llenyddiaeth Cymru'n dibynnu ar yr ateb. Pwy sydd i benderfynu beth yw arddull iaith? Ai efrydwyr yr iaith, sydd yn gwybod hanes treigliad ei geiriau ac wedi hen gydnabyddu â gwaith ei hysgrifenwyr mewn adegau fu, ynte y werin na syniant am ddim ond dweyd beth maent yn feddwl? Pwy sydd i ddewis geiriau llenyddol yr iaith, ai yr efrydydd ysgolheigaidd sy'n gwybod eu hachau a'u tras a'r defnydd wneid ohonynt gynt, ynte'r werin na ŵyr am ddim ond fod yn rhaid iddi ddweyd ei meddwl?

Yr ateb diamwys yw mai'r werin. Y werin sy'n meddwl, y werin sy'n siarad, ac os na dderbyn llenyddiaeth eiriau ac arddull y werin, bydd arddull llenyddiaeth Cymru yn rhy hynafol a chlasurol, ac yna yn anaturiol ac yn ddiwerth at amcanion bywyd. A phan felly, rhewa i farwolaeth.

Wedi gwneud eu geiriaduron a'u gramadegau, seiliodd y Doctoriaid Johnson a Phughe eu harddull arnynt, a gwareder Cymru a Lloegr rhag arddull o'i bath. Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau'r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a'i swyn.

Ond oni ellir gwahaniaethu rhwng anddull lenyddol ac arddull werinaidd, a dysgu'r naill yn y coleg a'r ysgol a gadael rhwng y werin a'r llall? Oni all yr ysgolion a'r colegau gyfyngu eu hunain i Ddafydd ab Gwilym a Goronwy Owen, a gadael Ceiriog ac Islwyn i'r Eisteddfod a'r werin? Na ato ysbryd gwarcheidiol Cymru i hynny fod. Byddai'n golled fawr i'r werin, byddai'n golled fwy i'r ysgol a'r coleg.

Collai'r werin ddylanwad mwyn ac esmwyth y llenor ysgolheigaidd. Ni ddywed neb na all ef roddi cymorth i berffeithio'r iaith. Os gwrthododd greddf bywyd yr iaith welliantau'r ddau ddoctor, y mae dylanwad Defoe a Goldsmith yn aros ar iaith gwerin Lloegr a dylanwad Ellis Wynn a Theophilus Evans yn aros ar iaith gwerin Cymru. Ond gwŷr oedd y rhai hyn yn astudio iaith lafar y bobl; a rhai fedrai dynnu miwsig o delyn yr iaith, a'r werin yw'r delyn.

Collai'r ysgol a'r coleg lawer, hefyd, wrth ymgadw at ramadeg wedi ei sylfaenu ar Gymraeg oesoedd yn ol, oesoedd a'u hanghenion yn anhebig iawn i anghenion ein hoes ni. I ni, y mae beirdd a llenorion yr oes hon, a llafar y werin yn ein holl ardaloedd, yn bwysig; y mae y peth elwir yn gamgymeriad y llenor weithiau yn well na'r peth elwir yn gywirdeb y gramadegydd. Gall yr ysgol wneud llawer, ond iddi ddysgu'r iaith fel iaith fyw, a llenyddiaeth fel llenyddiaeth pobl sydd eto'n byw, yn ymdrechu, ac yn gobeithio. Gall y coleg wneud llawer, ac y mae astudio'r cynghaneddion yn ddisgyblaeth werthfawr; ond, o'i gamarfer, gall y ddisgyblaeth wneud drwg. Gall wneud i'r efrydydd foddloni ar ffurfiau gorglasurol, ac ar arddull anghelfydd, gan suo ei gydwybod lenyddol i gysgu trwy weld ei fod yn cadw rheolau cynghanedd. Dylid llosgi naw rhan o bob deg o'r brydyddiaeth gynghaneddol argreffir yn awr, fel ymgeisiadau amrwd dwylaw anghynefin, ac eithaf peth fyddai cyfyngu pob cywydd i ugain llinell, a bygwth toraeth y beirdd os nad ymgadwant at englyn unodl-union neu hir a thoddaid. Nid oes dim mor bersain a hyawdl a chynghanedd os bydd mor berffaith fel na feddyliwch am reol wrth ei gwrando neu ei darllen. Os na bydd felly, y mae'n feichus i'w darllen, ac yn andwyol i arddull y truan a'i saernio neu a'i darllenno. Y cwestiwn sy'n poeni mwyaf ar fy meddwl i yw hyn,-paham y mae Cymraeg hen bobl ein cymoedd gymaint yn geinach, gymaint yn fwy persain, gymaint yn fwy naturiol, a chymaint addasach i farchnad a phulpud a llyfr byw, nag yw Cymraeg mwyafrif mawr y llenorion fagwyd dan y gyfundrefn addysg yr ydym mor falch ohoni? Yr wyf yn sicr ein bod mewn perigl oddiwrth orthrwm geiriaduron a gramadegau. Dylem ddal yn well ar symlder cain iaith lafar.

Dywedodd un o swyddogion addysg uchaf Cymru wrthyf yn ddiweddar na fydd neb yn siarad Cymraeg ymhen hanner can mlynedd, a dywedodd un o swyddogion uchaf Lloegr yr erys llenyddiaeth Cymru yn bwnc efrydiaeth i oesoedd sy'n dod, ond nad oes i'r iaith lafar ond bywyd naturiol byr. Gwell gen innau gredu gyda Michael D. Jones na ad Duw i'r iaith Gymraeg farw byth. Mae ei bywyd yn dibynnu ar ei gwerin ac ar ei llenorion, ac yn enwedig ar y cydweithrediad rhyngddynt. Adnabwn gynt ŵr ymgymerodd ag adeiladu pont, ond methodd oherwydd iddo wario'r adnoddau ddylasai fynd i wneud y bont ar ddyfeisio peiriannau i godi'r cerrig. Ymdrech ein llenorion ddylai fod,—medru ysgrifennu fel y deallo y bobl hwy. O hynny y daw arddull naturiol, fyw, a grymus.

Wrth wrando ar lafar yr heol a'r farchnad y perffeithiodd Addison arddull rhyddiaith yr iaith Saesneg, yr iaith seml a llawn o eiriau byrion, "a'i sŵn fel tannau telyn, sy'n deffro ac yn distewi gyda phob cyffyrddiad." Geiriau gwlad rydd "Ddrych y Prif Oesoedd " ei symlder clir, a chyffelybiaethau llafar gwlad rydd hanner swyn ei arddull. Darluniadau llafar gwlad, wedi eu dychmygu gan werinwyr, a'u perffeithio wrth eu harfer ganddynt hwy, yw llawer o frawddegau bachog y Bardd Cwsg. Ac mor hyfedr yw gwerin wrth wneud geiriau, rhagor llenorion. Sonia'r llenor am ei "gledrffordd" ac am ei "reilffordd," dau air heb ffurf na pherseinedd iddynt; sonia'r gwerinwr, yn naturiol a phrydyddol, am "ffordd haearn." Cymerwn ddihareb oddiar lafar gwlad, a chanmolwn ei chynnwys cyfoethog. Yr un werin wnaeth eiriau'r iaith; ac wrth wneud gair, y mae'r gwerinwr yn troi'n fardd heb wybod hynny. Y mae arddull ambell ŵr anllythrennog yn fwy cain nag arddull gramadegwr. Cymerwn ein geiriau o olud rhyfedd y werin—iaith, a byddwn glustdeneu i fiwsig ei harddull.

Nodiadau[golygu]