Er Mwyn Cymru/Beirniadaeth

Oddi ar Wicidestun
Arddull Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Edrych yn ol

BEIRNIADAETH

Y MAE dau waith y dylid eu dysgu'n dda yng Nghymru, sef sut i ganmol a sut i feirniadu. Y mae rhai'n canmol wrth natur, a'u hanian at guddio beiau; y mae rhai yn beirniadu wrth natur, a'u greddf yn darganfod brychau. Y mae'r byd, yn enwedig y byd llenyddol, wedi ei rannu'n ganmolwyr ac yn feirniaid; y naill yn gweled gogoniant a thlysni ac yn dychmygu mwy, a'r lleill a'u llygaid beunydd ar safon na all ymdrech bardd neu lenor o ddyn byth ei gyrraedd.

Llawer cwestiwn ffol ac anorffen ofynnir am y beirniad. A oes fynno treuliad ei fwyd a'i farn? Pe bwytai fwyd iachach, a phe treuliai ef yn well, oni farnai fel arall? A all llenor da fod yn feirniad da? A all bardd fod yn feirniad o ryw lun? Tybia'r bardd mai un wedi methu canu ei hun yw'r beirniad; ac y mae'n sicr mai beirdd siomedig fu rhai o feirniaid goreu'r byd. Tybia'r beirniad mai anwybodaeth a diffyg chwaeth y werin yn unig yw achos poblogrwydd y bardd. Fel rheol, hwyrach, nid yr un yw'r bardd a'r beirniad; crewr yw y naill, archwiliwr yw y llall; ymrestra'r naill dan faner cydymdeimlad, a'r lleill dan faner cydwybod. Eto gall y gwir fardd a'r gwir feirniad fod yn un, pan fedd yr enaid gyfuniad o ddychymyg a manylder; a hyn rydd le arbennig yn llenyddiaeth Cymru i Eben Fardd.

Ychydig mewn cymhariaeth fu o feirniadu ar dudalennau y "Cymru". Ymgais i ddeffro, i roddi ysbrydiaeth, i gynorthwyo, fu ei ymdrech o'r dechre; darganfod athrylith, a rhoddi llafar iddi, fu ei nôd. Prin y mae llenyddiaeth ein gwerin yn ddigon hen eto i fedru goddef ei beirniadu, ac y mae rhyw deimlad anesmwyth yn y meddwl mai yng nghyfnodau adfeilio y blodeua beirniadaeth.

Ond mae i feirniadaeth iach ei lle; byddai'n fendith i lenyddiaeth Cymru dderbyn mwy ohoni. Nid beirniadaeth ddidrugaredd a chreulon, yn cychwyn allan i gondemnio, wyf yn feddwl, ond beirniadaeth garedig cyfaill ac athraw. Un amcan iddi fydd dangos, oddiwrth hanes eu dydd, paham y medd ein llenorion ryw nodion neilltuol; amcan arall fydd codi awydd yn ein hysgrifenwyr ieuainc am ysgrifennu goreu byth y gallant, ac am beidio gadael i ddim gwael fynd o'u dwylaw i'r wasg. Gallai ychydig o feirniadaeth gref a miniog, ond heb fod yn angharedig ac anonest, godi llawer ar safon Cymraeg ein papurau newyddion a'n cylchgronau, a chodi peth ar safon chwaeth a chywirdeb.

Dechreuwn gydag un hawdd iawn ei gamesbonio, sef Daniel Owen. Cefais y fraint o'i adnabod, a bum yn ymddiddan âg ef am y beirniadaethau ddarlunnir gan law fedrus. Y mae y ddau gwestiwn pwysicaf yn ddiddorol iawn. Dyma yw'r naill,— A oedd Daniel Owen yn ysgrifennu o gariad at grefydd fanwl a hunan—aberthol ei fam, ynte i ddangos nad oedd heb ei ffaeleddau, ac y dylasai newid gyda'r oes? A dyna'r llall,—A oedd yn iawn i wneud i Bob, llais meddwl ac egni'r dyfodol, farw mor ieuanc?

Yr oedd gan Daniel Owen gariad angerddol at y ddisgyblaeth lem y credai ei fam mor llwyr ynddi, ac at y grefydd oedd wedi gweddnewid bywyd chymeriadau'r Wyddgrug. Yr oedd ganddo hefyd lygad i weled y llawenydd, y digrifwch, a'r direidi sydd mor hanfodol i natur ddynol iach ag ydyw tlysni ei liw i'r blodeuyn a fflach ei edyn i'r gloyn byw. Y mae i fywyd ei ddwy wedd, y ddofn ddifrifol a'r ysgafn chwareus Hoffa ambell genedl y naill, hoffa un arall y llall. Difrifwch bywyd, agosrwydd tragwyddoldeb, mawredd Duw a bychander dyn, a welai'r Hebrewr; ac y mae y Cymro, megis wrth natur, wedi ei ddilyn. Tlysni dedwydd bywyd welai'r Groegwr, prydferthwch natur a diddordeb byw; ac y mae'r Ffrancwr a'r Eidalwr fel pe'n ei ddilyn. Y mae y ddwy ochr yma ar fywyd i'w gweled yn meddwl pob llenor mawr yn ogystal ag yn meddwl pob cenedl fyw. Ar ddechre ei yrfa fel bardd dengys Milton y naill yn Il Penseroso a'r llall yn L'Allegro. Ac yn ei nofel gyflawn gyntaf dengys Daniel Owen y naill ym Mari Lewis a'r llall yn Wil Bryan.

Dyfnaf a dwysaf y meddwl, cryfaf y duedd at y difrif a'r prudd. Y mae islais dwfn o brudd-der ym mywyd pob cenedl fawr; ceir ef yn hen lenyddiaeth Groeg, ac yng ngherddoriaeth Spaen heddyw. Gwelir eiddilwch y darfodedig, a chadernid yr oesol; i rai y mae tynged yn ddall a chreulon a didrugaredd, i eraill y mae'n freichiau tragwyddol i gynnal y gwan. Er iddo ddisgrifio'r ddwy agwedd, y ddwys a'r ddedwydd, i wasanaeth y ddwys yr ymdaflodd Milton; dirywiodd ei L'Allegro ysgafn-galon i Gomus foethus ac i Satan ddrwg, datblygodd ei Il Penseroso i'w arwr Adda ac i'w Waredwr. Yr un agwedd enillodd serch Daniel Owen. Darluniodd grefydd ei fam fel cryfder bywyd Cymru; ac nid oherwydd eu bod yn gyferbyniad hapus iddi ac yn gywiriad caredig ohoni y darlunnir meddylgarwch Bob a direidi Wil Bryan. Yr oedd meddylgarwch y naill yn werthfawr, a direidi naturiol y llall yn hawddgar, oherwydd fod i'r ddau radd o grefydd Mari Lewis yn sylfaen. Os felly, a oedd Daniel Owen yn iawn? A oedd bywyd caled y dyddiau hynny yn rhoi cystal cyfleusterau a bywyd mwy dibryder y dyddiau hyn? A oedd llenyddiaeth ddiwinyddol yr oes honno yn gystal disgyblaeth meddwl a llenyddiaeth ysgafnach ac eangach yr oes hon? Beth yw dyletswydd y diwygiwr, ai galw ar blant ei genhedlaeth i ddawnsio ychwaneg ac i ddarllen llyfrau ysgafnach, ynte galw arnynt i ymegnio mwy, gorff a meddwl? Pwy sydd mewn mwyaf o berigl o gael ei golli o fywyd Cymru, Mari Lewis ynte Wil Bryan? Y mae'n amlwg nad hygar i Ddaniel Owen fuasai Cymru wedi colli crefydd ei fam. Paham y bu Bob farw mor gynnar, a phaham y diflannodd o nofelau Daniel Owen?

Efe yw ysbryd y dyfodol, efe sy'n rhoi llais i feddwl a bywyd goreu Cymru. Efe ddylasai fod yr arwr. Pe wedi ei ddarlunio'n llawn, buasai'n ddarlun o arweinydd a gwaredwr gwerin Cymru. Mor werthfawr fuasai, hyd yn oed fel darlun yn unig, i lowr Cymreig Deheudir Cymru heddyw, fel cynllun o arweinydd anhunanol a diogel. Am ddarlun llawn o gymeriad fel hyn, gŵr meddylgar ymysg meibion llafur, a'i farn yn ddiwyro a'i galon yn llawn cydymdeimlad, y mae llenyddiaeth Cymru'n galw.

Cafodd Daniel Owen gyfle ardderchog i roddi i'w wlad gymeriad fuasai'n arweinydd i'w meddwl a'i bywyd. Rhoddodd ddarluniad o'r hen grefydd gadarn yn ei fam, a darluniad o'r hen hapusrwydd yn Wil Bryan; ond, pan aeth i ddarlunio ysbryd nerthol a hygar y dyfodol, llesghaodd, a gadawodd y darlun heb ei orffen. Y mae rhywbeth yn broffwydol iawn yng nghymeriad Bob, dengys fod Daniel Owen yn gweled yn glir i'r dyfodol, a gresyn na buasai wedi rhoi ei holl egni ar waith i ddarlunio Bob fel canolbwynt bywyd Cymru.

Pam na wnaethai hynny? Hwyrach fod ei frawd foddodd yn y pwll a Bob mor debig i'w gilydd yn ei feddwl fel na allai eu gwahanu. Ond, yn ddiameu, gwelodd Daniel Owen y gallasai wneud Bob yn arweinydd meddwl a bywyd; ac nid heb wybod beth a wnai y syrthiodd yn ol yn ddiymadferth oddiwrth y gwaith mawr. Gallai Daniel Owen, ar anogaeth fisol Roger Edwards, ddarlunio golygfa ddiddorol a chymeriad diddan, ond ni feddai ddigon o ymroad i ymdaflu i waith fuasai'n gofyn holl egni ei enaid am fisoedd a blynyddoedd i ddarlunio un cymeriad mawr. Cyfaddefodd wrthyf iddo orfod gadael i Bob farw oherwydd ei fod ef ei hun wedi cyrraedd diwedd ei adnoddau a therfyn eithaf ei egni. Pam y mae darlun Bob wedi ei adael mewn amlinell yn unig? Ateb Daniel Owen i mi oedd,—" Toedd gen i ddim digon o baent i'w orffen." Llesg iawn o gorff oedd Daniel Owen. Bu ei hanes yng nghyfres y "Cymry Byw" unwaith; ond dywedai mai yng nghyfres Cymry hanner marw y dylasai ef fod. Gwell iddo hwyrach, wedi'r cwbl, oedd dilyn ei duedd, a darlunio ei hoff gymeriadau, na phe bai wedi ymegnio i roddi ar len gymeriad fuasai'n ddarlun o fywyd llafur Cymru ac yn arweinydd iddi. Rhoddodd i ni Fari Lewis yn llawn a Wil Bryan yn llawn, a Bob mewn amlinell. Fel y mae, y mae'r Bob fu farw'n ieuanc yn allu ym mywyd Cymru. Yr ydym yn disgwyl am nofelydd arall, mwy hwyrach, i wneud y darlun yn llawn.

Nodiadau[golygu]