Er Mwyn Cymru/Edrych yn ol

Oddi ar Wicidestun
Beirniadaeth Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Pen yr Yrfa

EDRYCH YN OL

BU brenin Persia farw, a chludwyd ef at ei dadau. Yn araf ac yn ofnus esgynnodd ei fab yr orsedd yn ei le. A chofiodd am un o ddywediadau ei athraw, sef na buasai brenhinoedd mor dueddol i gamgymeryd pe gwyddent hanes y byd a'i bobl.

Felly, galwodd haneswyr goreu a chynghorwyr doethaf Persia at ei gilydd, a dywedodd wrthynt,— "Ysgrifennwch i mi hanes y byd yn fanwl, a bydded yr hanes yn gyflawn."

Ymhen ugain mlynedd, wele orymdaith yn cyfeirio at lŷs y brenin. Yr haneswyr oedd yno, wedi gorffen eu gwaith. Yr oedd gyda hwy ddeuddeg camel, a phob camel yn cludo pum can cyfrol. Yr oedd y brenin ieuanc erbyn hyn yn ymylu ar ganol oed o fywyd prysur a phryderus iawn, a dywedodd wrth yr haneswyr,— "Y mae bywyd yn fyr a llawn o ofalon, ewch yn ol, crynhowch yr hanes fel y bydd rhyw obaith i mi fedru ei ddarllen, eto heb adael unrhyw beth hanfodol allan o hono."

Ymhen ugain mlynedd wedyn, wele orymdaith lai, o wyr yn edrych yn hyn, yn dod at y llys. Gyda hwy yr oedd tri chamel, yn cludo pymtheg cant o gyfrolau. "Dyma hanes y byd mewn cwmpas llawer llai," ebe'r haneswyr, "ac eto nid oes dim hanfodol wedi ei adael allan." Ond yr oedd y brenin erbyn hyn ar fin henaint, ac ebai ef,—

"O haneswyr, yr wyf yn dechre mynd yn hen, ac y mae'r nerth a'r awydd i ddarllen yn prinhau. Dywedwch hanes y byd wrthyf ar lai o eiriau, ac mewn ychydig gyfrolau, eto yn gynhwysfawr."

Aeth yr haneswyr, ac ymhen deng mlynedd, gwelwyd gorymdaith arafach yn dod at y llys. Gyda'r gwŷr yr oedd eliffant ieuanc, yn cludo pum cant o gyfrolau. Erbyn hyn yr oedd y brenin yn hen, ac yn dechre crymu dan bwys ei waith, ac ebe ef wrth yr haneswyr,—

"Nid oes digon o'm hoes yn aros i mi ddarllen hyd yn oed y llyfrau hyn. Ewch yn ol, a chrynhowch eto. A dowch yn ol ar frys."

Trodd yr haneswyr yn ol, yn araf frysiog. Ymhen pum mlynedd gwelwyd hwy'n dod yn ol, ac arwyddion henaint yn amlwg arnynt. Yn eu canol yr oedd asen ieuanc yn cludo un gyfrol. Ac ebe hwy wrth y brenin,—

"O frenin, bydd byw byth. Wele ni wedi crynhoi hanes dynol ryw i un gyfrol, ac nid oes dim hanfodol wedi ei adael allan o hono.

Ac ebai'r brenin yn llesg,—" Yr wyf yn flinedig hyd angau.

Y mae awr fy ymddatodiad yn nesu, a rhaid i mi gau fy llygaid ar y byd a dynol ryw heb wybod eu hanes. Oherwydd ni fedraf ddarllen yr un llyfr byth mwy.'

"Nid felly, O frenin," ebe arweinydd yr haneswyr, a'i bwysau ar ben ei ffon, " yr ydym wedi crynhoi hanes pawb a phob dyn i dri gair, sy'n grynhodeb o hanes holl ddynol ryw."

"Gadewch i mi glywed y tri gair cyn fy marw," ebe'r brenin, "oherwydd y mae'r diwedd yn cyflym ddod."

Ac yn araf a dwys, dywedodd yr haneswyr y tri gair hyn,—

Bywiodd, dioddefodd, marwodd."

Dyna, fel yr ydwyf yn ei deall, yw sylfaen athroniaeth hanes Anatole France, un o'r hynafgwyr doethaf a hyotlaf o bawb sy'n fyw heddyw. Y mae'n gyfarwydd â hanes, ac y mae'n teimlo curiad calon ei wlad yn y dyddiau cyffrous hyn. Ac mor brudd a diobaith yw y crynhodeb hwn o fywyd dyn.

Rhyfeddais lawer at y prudd-der dwys sydd fel islais i holl fywyd heulog, cyflym, a dedwydd Ffrainc. Edrychwch ar feysydd eang ei hanes hir, a gwelwch hwy'n donnog fel y môr, a'i donnau dawnsiol yn ymddigrifo ac yn fflachio dan wenau'r haul. Ond cauwch eich llygaid am ennyd, a gwrandewch ar yr islais. Tawel a mawreddog ydyw, ac anhraethol ddwfn a phrudd. O Jean Calvin i Jean Jacques Rousseau, yn nhawelwch ei meddwl, ac yng nghynddaredd ei chwyldroadau, sugnodd athroniaeth ei bywyd o lyfr ysgrifenwyd ar fin anialwch eang pur y dwyrain ac a ddarluniodd arwr cynhefin â dolur. Nid oes yr un wlad wedi gadael argraff ddyfnach ar feddwl Cymru, nid yn uniongyrchol, yn bennaf, ond trwy'r Alban a rhai o feddylwyr Lloegr yng nghyfnod ei diwygiadau nerthol. Ac nid ymwrthod â'r bywyd difrif prudd a ddeisyfa y rhai sydd heddyw yn gofidio eu bod wedi eu galw ar enw Calfin cyhyd.

Un o'r pethaf pruddaf i mi, yn y rhan o lenyddiaeth y byd sy'n adnabyddus i mi, yw diweddglo hanesydd paganaidd wrth ysgrifennu hanes ei arwr,—"Os oes yn rhywle drigfan i ysbrydoedd y cyfiawn, os na ddiffoddir yr enaid gyda'r corff, gorffwys mewn hedd."

Gwn am lawer mab gofid na fynnai fyw drachefn, mewn byd arall, ei fywyd fel y bu. Nid wyf yn meddwl y gŵyr neb yn well na mi beth yw siomiant ac alaeth. Ond, os caf fyw fy oes eto mewn cylch mwy ysbrydol, fy nymuniad dyfnaf yw ei fyw yng nghwmni y rhai fu'n cyd—deithio â mi. A mwyn, weithiau, fydd taflu ambell drem yn ol.

Nodiadau[golygu]