Er Mwyn Cymru/I'r Mynyddoedd
← Angen Mwyaf Cymru | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
Bychander → |
I'R MYNYDDOEDD
"Pell byramidiau y dragwyddol law,
Mor union y cyfeiriant ato Ef!"
——ISLWYN.
Y MAE llawer o'm darllenwyr wedi dringo ochrau perigl yr Alpau, neu wedi crwydro o gwm i gwm yn Norway. Ond y mae yn amheus gennyf a welsant ddim mwy ardderchog na'r Berwyn,—yr eangderau tawel unig sydd rhwng Maldwyn a Meirion,—ar nosweithiau hafaidd yn niwedd Awst, pan oedd y lleuad lawn yn tywallt diluw o oleuni arnynt.
Y mae cenhedlaeth yn awr yn codi mewn awyr iachach, a chyda gorwel pellach, na'r un genhedlaeth o'r blaen. Ar ddiwedd y ganrif ddiweddaf, prin yr oedd gwerin Cymru yn gyfarwydd â'r syniad o "fynd i'r môr." Byddent yn byw cymaint yn eu hunfan a gwerin rhai rhannau amaethyddol yn Lloegr yn awr. Prin y symudai'r gwragedd o amgylchedd eu tai, drwy holl gydol eu bywyd. "Rhyfedd, rhyfedd," ebe un oedd wedi mentro i ben bryn ger ei hannedd, " fod y byd mor fawr." Ond erbyn diwedd y ganrif hon, y mae bron bawb yn teithio peth, ac yn byw llawer yn yr awyr agored. Bydd dyfodiad y ceffyl haearn. mae'n ddiameu, yn estyniad oes i ddynolryw, gan ei fod yn temtio pobl y trefydd i lithro drwy awyr iach. Hoffwn weled, os caf fyw, ddau ddiwygiad yn nechreu'r ganrif nesaf. Hoffwn weled ail adeiladu bwthynod llafurwyr yn eu hen leoedd iach a rhamantus, a'r pentrefydd hagr yn adfeilion. A hoffwn weled rhai yn treulio eu gwyliau mewn pebyll ar y mynyddoedd. Ceid iechyd a thawelwch yno, gorffwys i'r corff a gorffwys i'r meddwl. Atelid rhwysg dau elyn sy'n difrodi mwy ar fywyd bob blwyddyn,—darfodedigaeth a gwallgofrwydd. A fuoch chwi yn treulio noson mewn pabell ar y mynydd ar noson o haf? Y mae'r lleuad yn codi y tu cefn i'r mynydd y mae eich pabell arno. Y mae eich ochr. chwi i'r mynydd yn berffaith dywyll, y mae duwch y nos a chwsg drosti. Ond y mae goleu'r lleuad lawn ar yr ochr gyferbyn, ac y mae ysblander y mynyddoedd ar eich cyfer, yn eu gwisg o arian ac aur symudliw, yn beth na all geiriau yr ysgrifennydd na lliwiau y lluniedydd roddi syniad egwan am dano.
A glywch chwi furmur yr afon islaw, a dwndwr hyfryd aberoedd pell? Nid ydynt yn eich blino, y maent fel pe'n rhan o'r distawrwydd mwyn sy'n gorffwys ar yr holl fynyddoedd, ac y maent fel pe'n tyner anadlu cwsg. Nid ydych yn sicr pa un ai cysgu wnewch, ynte ceisio barddoni. Y mae'n wir na feddyliasoch am farddoni erioed o'r blaen; a hwyrach mai trwy ymdrech y mwynhasoch Wordsworth ac mai o gydwybod y darllenasoch Islwyn. Ond heno, y mae rhyw feddyliau tebig i'w meddyliau hwy yn ymweled â chwi. Y mae gorffwys y mynyddoedd yn cryfhau eich meddwl, ac yn eich codi i gwmni na fuoch yn alluog i'w fwynhau erioed o'r blaen, nac yn deilwng o hono.
Bu cymundeb â natur, feallai, yn crebychu dynoliaeth. Yr oedd ar y barbariad ofn newyn a syched, yr oedd arno arswyd y mynydd a'r nos, ni allai ef feddwl am ddim ond anghysur ynglŷn â'r glaw a'r ystorm. Llechu, fel ffoadur euog, oedd prif awydd ei reddf. Erbyn heddyw y mae Creawdwr y ddaear yn Dad. Gwelir nad oes dim ar y ddaear ond i ryw ddiben da. Y mae cariad yn bwrw allan ofn. Y mae dynolryw yn iachach; yn gryfach, ac yn hapusach nag y bu erioed.
Yn afiaeth ei awen gwahodda Ceiriog ni i'r mynyddoedd. Dring y bardd y Wyddfa gyda ni, "gan ddiolch am gael gwin y graig mor agos at y nen." Y mae meddygon blaenaf yr oes yn dweyd yr un gorchymyn, yn fwy awdurdodol, er nad mor swynol. Os yw'r iechyd yn pallu, ni raid i ti fod yn alltud mewn gwlad bell; dring y mynydd agosaf, a byw gymaint fedri ar ei ben.
Byddai gan ein hynafiaid hendre a hafoty,— y naill yn y dyffryn clyd cysgodol, a'r llall ar fron uchel y mynydd mawr. Yr oedd yn rhaid iddynt hwy newid eu trigfan er mwyn cael bwyd. Y mae rhaid arall arnom ni,—rhaid iechyd corff a meddwl. Dylai pob un o honom fyw a chysgu a bwyta ar y mynydd, yn y maes, neu yn yr ardd gymaint sydd bosibl, ac nid yn y tŷ.
Ac i'r rhai o honom sydd yn gorfod treulio ein dyddiau yn y fyfyrgell neu'r ddarlithle neu'r swyddfa, y mae wythnos mewn pabell ar y mynydd bob blwyddyn yn estyn einioes, yn cryfhau meddwl, ac yn dyblu'r gallu i wneud gwaith.
Nid anghofiaf byth, mi gredaf, ddiwrnod a dreuliais ar ben yr Aran ddiwedd yr haf. Wrth droed y mynydd yr oedd fy nghorff yn llesg, a'm meddwl wedi pylu; ni chawn un mwynhad o hyfrydwch lliw neu felyster sain, ac ni fedrwn orffwys. Dringais y mynydd am ddwy awr, a chefais fy hun yn ddyn newydd. Yr oedd yr awel ysgafn falmaidd fel y gwin. Yr oedd y niwl teneu nofiai dros y mynydd yn hyfryd i'w anadlu, ac fel pe'n treiddio i bob rhan o'r corff i yrru blinder a lludded i ffwrdd. Symudai pob pryder ac ofn oddiar y meddwl. Teimlwn y gallwn wneud unrhyw beth bron ond cael amser ac iechyd. Ac wrth edrych ar y dernyn grisial sydd o fy mlaen, un o'r miloedd welais ar gopa'r Aran, y mae cof am yr awyr iach yn dwyn heddwch a gorffwys ac adnewyddiad nerth.
Y mae cannoedd, os nad miloedd, o furddynau bwthynod ar odrau ein mynyddoedd yng Nghymru. Gynt megid teuluoedd o fechgyn a genethod gwridgoch a iach yno. Y mae'r hen gartrefi prydferth yn awr yn adfeilion, a'r bobl oll yn byw mewn pentre o dai bychain afiach godwyd ar hen gors ger gorsaf y ffordd haearn. Onid oes Gymry yn y trefydd hoffai godi, neu rentu, bythynod felly, a symud i fyw iddynt yn eu gwyliau yn yr haf? Byddai'n llawer rhatach, ac yn llawer mwy dymunol, na thyrru gyda phawb i lan y môr. Mewn bwthyn yn y wlad, byddid ymhell o sŵn y coeg ganu a'r coeg chwareuon sy'n gwneud eiddilod yn hapus. Ceid mwynhau bywyd Cymreig fel y mae. Cai tad roddi i'w blant y bywyd, y Sabothau, y canu sydd mor gysegredig yn yr atgofion am ei ieuenctid ei hun. Cai feddwl, hefyd, fod ganddo gartref bychan yng Nghymru. Cyn hyn, gwelais hen feudy wedi ei droi yn hafdy bychan cysurus. Bychan fyddai'r bwthyn, wrth gwrs; ond y mae'r mynyddoedd a'r wlad o'i gwmpas yn ddigon eang i lond tŷ o blant chware faint a fynnont. Yr wyf yn credu fod yr awgrym yn un gwerth sylwi arno.
Nodiadau
[golygu]