Er Mwyn Cymru/Angen Mwyaf Cymru
← Murmur Dyfroedd | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
I'r Mynyddoedd → |
ANGEN MWYAF CYMRU
POB peth a rydd cenedl am ei heinioes. Y ddau awydd cryfaf ym mywyd pobl yw awydd cadw eu trysorau ac awydd byw eu bywyd. Y ddau beth yr ymgroesa meddwl cenedl fwyaf rhagddynt yw colli a marw. Fel rheol, nid yw cenedl yn gwybod ei bod yn teimlo y ddau awydd hwn, nac yn ofni yr ofnau hyn; daw'r awydd a'r ofn, fel anadl ei heinioes, yn rhan o'i bywyd heb yn wybod iddi. Ond, ar dro, daw rhywbeth i'w deffro; teimla'r dyhead, a daw ofn marw yn arswyd byw yn ei chalon.
Daeth cyfwng felly yn hanes yr Iddewon. Llifodd dylanwadau estronol drostynt. A beth oeddynt. hwy, druain dirmygedig, i wrthsefyll gwareiddiad Groeg a gallu Rhufain? Cawsant eu hunain wyneb yn wyneb a difodiad fel cenedl, a phenderfynasant fyw. Casglasant eu llenyddiaeth i'w chadw; daeth ynni egniol bywyd i'r genedl fechan wydn. Yn lle boddi yn y llif, hwy sydd wedi ei reoli.
Y mae Cymru'n wynebu cyfnod tebig. Y mae dylanwadau estronol yn llifo drosti. Mae llif masnach yn gwisgo ei therfynau ymaith beunydd. Y mae ei moesgarwch a'i chywreinrwydd hi ei hun yn croesawu'r dylanwadau sydd yn ei llethu. Ond, yn sydyn, daeth awydd ynddi am gadw a hiraeth am fyw.
Prin y mae cenedl ar y ddaear heddyw fedd gymaint o drysorau cudd. Gwyddis am lenyddiaeth ardderchog cyfnod y tywysogion. Pan drodd uchelwyr Cymru eu cefnau ar lenyddiaeth eu tadau, wedi buddugoliaeth Bosworth, aeth cywyddau cain y tywysogion bron yn angof. Ac yn eu lle dechreuodd gwerin roddi llais i'w meddwl ei. hun, llais cras a garw i ddechre, ond llais sydd wedi melysu'n rhyfedd erbyn hyn. A heddyw. y mae gwerin Cymru'n medru mwynhau ceinder ffurf cywyddau'r canol oesoedd; a gall pob ymgeisydd am radd M.A., ddwyn i'r goleu waith rhyw fardd anghofiedig cain. Heddyw y mae chwaeth y gwerinwr mor uchel a chwaeth uchelwr adeg Llywelyn; ac y mae ei gydymdeimlad yn eangach a'i fywyd yn ddyfnach. A yw'r trysorau hyn, trysorau llenyddiaeth gain y tywysogion a thrysorau llenyddiaeth fwy y werin,—i fynd ar goll am byth a neb i sôn am danynt mwy?
Nid oes odid genedl yn meddu iaith mor dlos a byw. Ac y mae clust Cymru wedi deffro i fiwsig ei hiaith ei hun, yn enwedig yn yr ardaloedd lle bygythir hi gan daw distawrwydd bythol. Os cyll Cymru ei bywyd fel cenedl, â i'r bedd yn genedl ryfeddol gyfoethog, ac nid yn genedl dlawd. Ai ysblander yr haul yn machlud welir yn ei bywyd heddyw, ynte bore gogoneddus arall yn torri? Beth bynnag yw, yr ydym fel cenedl mewn ymdrech i fyw. Yr un ymdrech yw ag ymdrech Llywelyn ac Owen Glyndŵr. Beth sydd eisiau at y frwydr?
Y mae'r ateb yn barod, llenyddiaeth fyw apelia at blant. Dyna angen mwyaf Cymru. Cymerer un lle,—Aberhonddu a'r cylchoedd. Mae'r bobl mewn oed yn siarad dwy iaith, ac y mae eu Cymraeg yn bur a phrydferth bron y tuhwnt i un ardal yng Nghymru; maent o feddwl ymchwilgar a deall parod. Y mae'r plant yn codi i fyny yn unieithog; o'u cymharu â'r to o'u blaenau nid oes i'w meddwl agos gymaint o nerth ac awch. Cwyna rhieni'r plant ar yr athrawon; cwyna'r athrawon ar y llyfrau.
Os ydyw Cymru i fyw, rhaid i rywrai ymdaflu i waith dros y plant. Nid ar faes y gad, ond mewn llenyddiaeth, y mae eisiau Llywelyn a Glyndŵr. Y mae inni lenyddiaeth fyw a chyfoethog, gwn hynny'n dda; ni welodd un cyfnod o'n hanes gynifer o lyfrau a chymaint o ganu. Ond i hen genedl y cenir y rhan fwyaf; ac nid i genedl ieuanc, nid yw'r meddwl yn ddigon syml, clir, newydd, a diddorol. Er amser Goronwy Owen, y mae beirdd goreu Cymru wedi efelychu hen fesurau. Y mae llaweroedd o feirdd y mesurau caethion, yn enwedig Eben Fardd, wedi canu'n brydferth fyw. Ond, er mwyn cadw bywyd Cymru, buasai un Hans Anderson yn werth, a mwy na gwerth, y cyfan i gyd. Y mae gennym yn y Mabinogion drysorgell o ystraeon na all Denmark na Germany ddangos eu tebig. Ond tra y cafodd Denmark ei Hans Anderson i wneud i'w hen chwedlau fod yn ddiddordeb bywyd pob plentyn yn ei hynysoedd a'i gwastadeddau, a Germany ei brodyr Grimm i wneud yr un gymwynas i blant ei thalaethau aml, nid oes i Gymru eto ond ei defnyddiau ardderchog a'i hiraeth am y llaw a ddaw, nid yn rhy hwyr gobeithio, i wneud y gwaith.
Y mae holl rwysg yr Eisteddfod yn mynd i'r rhannau hynny o lenyddiaeth, yr awdl a'r bryddest —sy'n apelio at y diwylliedig, y cyfarwydd, a'r hen. Ond am y rhannau sy'n apelio at y werin a'r ieuanc, y delyneg a'r rhamant yn enwedig, —ni roddir fawr o help i'w codi i fri a sylw. Ac eto hwy yw bara bywyd llenyddol Cymru, tra nad yw'r lleill ond danteithion i'r llenyddol gyfoethog.
Y mae'n beirdd yn ddiogel, a'r llenorion sy'n darllen ac yn beirniadu eu hawdlau, eu cywyddau, a'u pryddestau. Ond, y mae'r werin mewn perigl ar ymylon hyfryd Maldwyn, ar lethrau hanesiol Brycheiniog, yng nghymoedd tlysion Mynwy. Ar eu cyfer hwy rhaid cael yr emyn nawsaidd, y delyneg dyner, a'r rhamant fyw. Gwnaeth Ceiriog fwy i gadw'r Gymraeg yn fyw na holl feirdd y gynghanedd gyda'i gilydd, Ac i gyfarfod a'r angen, dyla llenyddiaeth gychwyn o'r newydd, nid o'r awdl, ond o Dwm o'r Nant neu Geiriog neu Ddaniel Owen. Y mae tŵr mewnol y genedl yn ddiogel hyd yn hyn, y mae beirdd yno yn hyfryd ganu awdlau i glustiau ei gilydd. Ond ar y rhagfuriau y mae'r perigl, ac ychydig yw nifer y rhai deheuig sy'n ymladd yno.
Nodiadau
[golygu]