Er Mwyn Cymru/Murmur Dyfroedd
← Dygwyl Dewi | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
Angen Mwyaf Cymru → |
MURMUR DYFROEDD[1]
"Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr."
Y MAE rhyw fiwsig cyfrin, suon esmwyth o bell, atgofion am dynerwch hen amseroedd, ym murmur dyfroedd. Yn y nos, pan fydd twrf y byd wedi distewi, y daw y murmur yn hyglyw. I ddechre clywir rhuthr dyfroedd yn bendramwnwgl megis, dim ond sŵn anhrefn prysur gwyllt. Ond, yn raddol, daw'r sŵn yn hyfryd i'r glust, yn furmur hyfryd esmwyth; a thoc daw'n llawn o leisiau, oll yn siarad ar unwaith, yn dweyd pethau gwahanol, ond mewn cydgord sy'n felys iawn i'r glust sy'n hiraethu 'am hen atgofion pell.
Nid ymhob man, hyd yn oed yng Nghymru, y clywir murmur dyfroedd. Ond y mae lleoedd, ac nid ydynt yn anodd eu cael, lle llenwir y nos â suon melys, tyner, parablus dyfroedd sy'n myned heibio, ac yn adrodd hanes y cymoedd y daethant ohonynt, a'r cartrefi y daethant heibio iddynt ar eu taith.
Un o'r lleoedd hynny yw Llangollen. Pan ddisgynnir yn Llangollen yn y dydd, daw sŵn dyfroedd yn groeso; a golygfa sy'n llonni pob llygad yw gweled y tonnau yn dawnsio'n ewyn dros y creigiau. Ond pan ddaw'r nos, a phan ddaw aden distawrwydd dros y fangre dlos, y tyr y sŵn dyfroedd yn gerddoriaeth ddofn, llawn amrywiaeth a meddwl. Lawer noswaith, bum yn treulio oriau canol y nos i wrando ar y dyfroedd oedd yn canu cân mor gyfareddol, cân nad yw dychymyg dyn wedi ei rhoddi ar bapur eto, wrth fynd heibio ar eu ffordd i'r môr. Dwfr y Ddyfrdwy yw'r cantorion, dwfr dwyfol" yr hen Gymry. Yn yr hen amser gynt ciliai'r dyfroedd oddiwrth Gymru o flaen trychineb, ond gwasgent ati o flaen hawddfyd. Ond nid y peth a fydd glywaf fi ynddynt, ond y peth oedd. Deuant drwy lawer ardal hoff iawn i mi, heibio mwy nag un cartref wyf yn garu'n angerddol, heibio llawer amaethdy mynyddig neu fwthyn sy'n ddarlun i mi o fywyd pur nefolaidd plant. Carlamasant yn hoyw heibio i rai ohonynt yn y dydd; llithrasant heibio eraill heb i'r plant eu clywed yn y nos. Ond, i mi, y mae sŵn atgofion am hen lecynnau anwyl yn llais y dyfroedd sy'n mynd heibio dan ganu. I mi, y mae lleisiau oesoedd yn eu miwsig. Ymlonyddaf i wrando arnynt.
Wrth wrando, tybiaf glywed lleisiau'r hen fynachod yn canu mawl i Dduw yn adeg cyni Cymru. Ychydig yn uwch i fyny y mae aber yn rhedeg i ymuno a'r côr o hyfrydwch Glyn y Groes, lle bu'r Cisterciaid gynt yn addoli yn eu tŷ mawreddog cain. Lleisiau bas yw'r rhan fwyaf, a'r gân yn seml bron hyd fod yn arw,—hwyrach eu bod yn canu yn arwyl Owen Glyndwr. Ac ychydig yn uwch i fyny, deuant heibio cartref Owen,—onid oes ynddynt leisiau afiaethus plant a sŵn yr helgwn, a llais Iolo Goch gyda'r tannau ac islais o bryder a sŵn brwydr. Yn union ar eu holau daw lleisiau glywsant ddoe,—lleisiau'r plant yn Eisteddfod Corwen, a lleisiau'r prif ddatgeiniaid yn canu'r hen alawon. Onid yw murmur Dyfrdwy'n ddidor? Onid yw gobaith Cymru byth yn fyw?
Wrth Langar daw dyfroedd Alwen i ymuno a dyfroedd Dyfrdwy. A chymaint o hen fiwsig ddaw gyda hi, hyawdledd John Roberts o Langwm, llais gwladgarwch Owen Myfyr, chwerthiniad gwatwarus Glan y Gors, odlau melodaidd y Perthi Llwydion, cri'r gylfinhir yn unigeddau'r Hafod Lom. Heibio cartref plant hoyw sydd heddyw ar led y byd, heibio fedd yr hon fu farw yn nhlysni ei hieuenctid, heibio i gapel lle teimlwyd grym nerthoedd tragwyddoldeb,—gymaint sydd gennych i ganu am dano, y dyfroedd mwyn.
Ond, clustfeiniaf am lais y dyfroedd sy'n dod drwy Edeyrnion o ardaloedd y Bala. Clywaf lais clir a dewr Tom Ellis, a lleisiau tyrfaoedd bechgyn ysgol Ty dan Domen y Bala. Megis islais iddynt, yn llawn o gyfoeth miwsig dwys, clywaf lais yr aberoedd sydd wedi eu dofi a'u disgyblu wrth deithio'n araf drwy ddyfroedd Llyn Tegid. Y mae y rhai hyn i gyd yn siarad a mi. Nid oes yr un heb ystori ramantus,—daw pob un heibio cartref lle magwyd meibion a merched na fyddaf byth yn blino cofio am eu tlysni a'u hawddgarwch, eu hathrylith a'u medr, eu hymroddiad a'u haberth.
Y mae llecyn ar lethrau Twrch, cyn cyrraedd cartref Eos Glan Twrch. Plyga coed tewfrig trosto, —derw, ynn, a masarn. Llifa'r pistyll gloyw sy'n disgyn o'r ddaear gerllaw, ac nid oes gof ar lafar na llyfr i'r dŵr beidio canu am funud erioed. Dwfr oer hyfryd, peraidd iawn, ydyw. Ar y llethr uwchben siriol wena blodau'r effros, ar y weirglodd odditano fflamia gogoniant gold y gors. Edrych yr Aran fonheddig arno o bell, osgoa'r corwyntoedd ef wrth daro ar y llechweddau. Ni chlyw ef ond llais y dymestl, a murmur pell yr afon islaw. Ond drwy y dyfroedd llais y pistyll glywaf fi, y mae ynddo fwynder llais tad, tynerwch llais mam, a digrifwch llais brodyr oedd yn adlais o hapusrwydd na welais ei debig ond o ddail y coed mawr gysgodai'r pistyll ac amgylchoedd y tŷ. Bistyll glân cymwynasgar, o na arhosai dy ddyri fach ddiniwed yn llais miwsig mawreddog y Ddyfrdwy am byth.
Oddidraw etyb afon Liw gyfarchiad afon Dwrch. Hyfryd yw bronnydd a dyffrynnoedd Lliw. A byfryd yw miwsig ei rhaeadrau. I mi y mae rhuad Rhaeadr Mwy yn atgof am fas tyner Ap Vychan, fu'n gwrando filoedd o weithiau yn ei blentyndod ar fiwsig dwfn cyfareddol yr afon yn y coed.
Daw llu o aberoedd o'r mynyddoedd fry. Mae eu dwfr yn bur a thryloyw; maent yn ddarlun o'r dihalog a'r glân. Clywsant sŵn y gwynt yn y grug a'r rhedyn, clywsant frefiad dafad a chri aderyn a gweddi sant. Ac mor fwyn, —mor glir ac eto mor gyfoethog, yw sŵn eu dyfroedd heddyw. Dychmygaf glywed eu sain yn codi o gerddorfa lawn yr afon, hyd nes y tawa'r gerddorfa ac y sieryd yr aberoedd pell yn unig. Lleisiau pur a thyner bore oes,—llais hen freuddwydion ofnus, llais y gofyn pryderus, llais yr adduned ffyddlon, llais gobaith y dyfodol,—onid yw hon yn gân fydd yn chwyddo drwy dragwyddoldeb i gyd.
Bum yn Nolgellau yn effro yn y nos. I ddechre tybir fod afon Wnion ac afon Aran yn gwyleiddio ac yn distewi ar y dolydd wrth fyned heibio'r hen dre i'r môr. Ond, o glustfeinio, clywir eu cân draw ymhell, su breuddwydiol i ddechre, ond yn ennill nerth fel y distawa'r nos. O gilfachau Cader Idris ac Aran Fawddwy a'r Rhobell Fawr daw aberoedd fu'n canu i frenhines y weirglodd a chlych yr eos drwy ddyddiau'r haf,—Celynog, Melai, Helygog, a'u chwiorydd,—fu'n gwrando cerddi beirdd wrth fynd heibio cartrefi'r cymoedd. Cofiaf hwy,—bechgyn hoffus a llancesi glân, yn dod dros y Garneddwen wlawog ystormus i'r ysgol; a chwyddwyd dedwyddwch y byd gan fiwsig tyner eu bywyd hwy. Gwn am un pistyll bach, clywaf ei lais mewn dychymyg yn awr,— hwnnw oedd pistyll Ieuan Gwynedd. Y mae Bryn Tynoriad yn adfail anolygus ar ochr y Garneddwen, y mae'r dderwen fawr wrth y Tŷ Croes wedi diflannu, ond y mae'r pistyll yn dal i ganu, y mae mor fyw a dylanwad y Beibl Coch neu genadwri danllyd brudd Ieuan Gwynedd. Wrth wrando arnoch yn y nos, ddyfroedd Dolgellau, gynifer o leisiau cyfeillion mwyn bore oes glywaf yn eich mysg. Beth fel sŵn dyfroedd am ddeffro hen delynau?
Cysgais aml noson yn Llanfair Muallt. Yn y dechre ni chlywaf ddim, y mae sŵn tyrfaoedd Maesyfed a Buallt,—y naill yn Saesneg a'r llall yn Gymraeg, yn boddi pob sŵn hyfryd. Ond toc daw'r distewi. Yna dechreua afon Wy lefaru.
Ai o'r hen oesoedd y daw y llais? Onid fel y siaradai â Llywelyn yn Aberedw, ac a chwcw Williams Pant y Celyn yn Llanfair, y sieryd eto? I mi y mae'n llawn o leisiau'r hen amseroedd. Wedi dechre ei chlywed, clywir nid Wy fawreddog yn unig wrth araf orymdaith dros ei chreigiau, ond llu o aberoedd sy'n ymuno â hi. Daw Ithon, yn llawn lleisiau hen ysgarmesoedd gwŷr rhyfelgar Elfael a Melenydd, a lleisiau mynachod Cwm Hir yn gweddio ar Dduw am heddwch pan na wrandawai dynion dig arnynt. Daw Irfon hanesiol, heibio feddau Kilsby a Theophilus Evans, o Langamarch a Llanwrtyd, ac Aber Gwesin, o'r Gwern a'r brwyn a'r rhedyn, o Gamddwr y Bleiddiaid ac o gartref y barcud. Ymysg lleisiau ei dyfroedd, clywaf gri un afonig fach. Gwelais hi'n codi mewn hafn yn Mynydd Epynt, gwelais hi'n loyw wrth fynd heibio'r Cefn Brith i ddyfroedd Irfon. Llais John Penry glywaf yn ei dyfroedd pur, llais o ing wrth farw yn galw am yr efengyl i Gymru. A daw'r Wy ei hun o'i thaith hir o Blinlimon, heibio'r Rhaeadr rhamantus, a Marteg ac Elan yn ei dwylo; ac, i mi, y peth hyfrytaf yn ei miwsig yw emynau melodaidd John Thomas o Raeadr Gwy.
O gastell Aberhonddu clywais furmur dyfroedd Wysg yn nistawrwydd y nos, tra'n rhedeg dros greigiau rhamantus a graean glân. Canodd Islwyn lawer am brydferthwch y nos; hawdd fyddai canu i'w miwsig. Fel y mae tywyllwch y nos yn dangos y ser, yn dangos heuliau afrifed yn lle un, felly y mae distawrwydd y nos yn rhoddi llais i'r holl aberoedd, sy'n rhedeg heibio cartrefi dedwydd, llawn o blant glân, fel y rhedasant heibio i gartrefi cenedlaethau lawer. Tarrell a Senni, Crai a Hydfer, Gwydderig a Chlydach, Bran ac Ysgir a Honddu,—deuant yn llu i'r Wysg; a mwyn i'r cyfarwydd yw gwrando murmur y dyfroedd, a dehongli beth ddywedant am yr hyn fu ac am yr hyn sydd yn y glynnoedd prydferth a'r mynyddoedd iach y deuant ohonynt.
Mae ambell le na allaf glywed murmur y dyfroedd yn y nos ynddo. Y mae'r afonydd yno, ond y maent yn llifo'n ddistaw drwy'r dolydd. Gwelaf hwy yn y bore, a'r haul yn fflachio'n loyw ar fynwes eu dyfroedd. Ond ni ddywedasent ddim wrthyf yn y nos. Lle felly yw'r Bala, a Llanrwst, a Llandeilo, a Chaerfyrddin. Hwyrach mai afon Tywi yw'r ddistawaf o holl afonydd Cymru; llifa trwy ei dyffryn bras fel pe'n rhy oludog i siarad a neb.
Ond nid yw'r glust yn segur pan nad yw'r dyfroedd yn hyglyw. Y mae distawrwydd dwfn fel pe'n rhyddhau'r glust weithiau i glywed seiniau gollwyd ers blynyddoedd lawer. Clyw y teithydd yn yr anialwch, yn y distawrwydd llethol, sŵn clych yr eglwys yn y pentre ger ei gartref. Ac yn nhawelwch Llandeilo pan na fyn Tywi lefaru gair, sieryd y distawrwydd ei hun, drwy adael i'r glust gofio yr hen gryniadau pan ddaeth newydd o lawenydd neu o ing i'w chyffroi.
Nid yw'r môr yn siarad a mi am Gymru nag am fy hanes fy hun. Estron fum i iddo yn nyddiau mebyd, a phan wrandawaf ar ei ru, yn Aberystwyth neu ar lannau Gwyr, sôn am hanes gwledydd pell y bydd.
"Mwyngan ddwys yr afon fechan
Wrth ymdreiglo dros y gracan
Sydd yn hoff,"
ebe bardd y môr; ond ni allaf ei ddilyn pan ychwanega,—
"ond nid fel pruddgan
Sŵn y môr."
Yr aberoedd bychain mynyddig sy'n canu i mi; sŵn eu dyfroedd hwy yw dedwyddwch fy enaid. Heddyw deuant o fynyddoedd mebyd, a'u llais yn alar a hiraeth pur. Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr. Heddyw cwynant o gydymdeimlad. Aberoedd mwyn, cyfeillion fy mlynyddoedd hapus, daliwch i ganu with blant oesau i ddod, a bydded y plant hynny fel chwithau, yn fendith a bywyd i'r ardaloedd yr ant iddynt o fryniau plentyndod.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tynwyd y darlun, sydd gyferbyn tudalen 25, ychydig funudau ar ol i Owen Edwards, Coedypry, ac Ellen Davies, y Prys Mawr, benodi eu dydd priodas. Ymhen deng mlynedd ar hugain bron, ysgrifenna Syr Owen Edwards yr ysgrif hon yn ei alar, gan ddodi'r darlun a dynnodd tucha'r ysgrif gyda'r geiriau, "Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr."