Er Mwyn Cymru/Dygwyl Dewi

Oddi ar Wicidestun
Enaid Cenedl Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Murmur Dyfroedd

DYGWYL DEWI

"BETH a wisgwn heddyw?" "Beth a fwytawn heno?" Dyna ddau gwestiwn y Cymro ar fore Dygwyl Dewi. Yr ateb i'r ddau gwestiwn yw,—"Cenhinen. Ni a'i gwisgwn yn y bore, a ni a'i bwytawn hi yn yr hwyr." Ac felly fydd. Gorffwys y genhinen, yn oer ac yn werdd, ar fynwes y Cymro yn ystod y dydd; a gorffwys y genhinen, yn gynnes ac yn llipa, yn ei gawl yn y nos.

Yn fyfyriwr yn Rhydychen y clywais i sôn gyntaf erioed am wisgo cenhinen ar ddygwyl Dewi Sant. Nid wyf yn sicr a oeddwn wedi clywed sôn am genhinen fwytadwy o'r blaen; yr wyf yn berffaith sicr nad oeddwn wedi gweled un erioed. Os clywswn ei henw, yr enw hwnnw oedd "lecsen" a "lêcs." Clywais fod bechgyn Coleg yr Iesu yn gwisgo cenhinen ar ddygwyl Dewi. Yr oedd llu o Gymry ohonom mewn colegau eraill, megis Balliol, New, Brasenose, Oriel, ac Exeter. Penderfynasom wisgo cenhinen, a chawsom genhinen gelfyddydol, —ei gwraidd o edafedd arian a'i dail o ruban gwyrdd. Yr oedd hon yn ysgafn ac yn dlos, ond sham oedd, nhebig iawn i'r genhinen fawr a sawrus wisgid gan fechgyn Coleg yr Iesu, un fuasai'n arf defnyddiol mewn ffrae a ffrwgwd. Gofynnodd fy athraw i mi beth oedd, a chefais gyfle i ddweyd llawer o bethau ynfyd am ogoniant ein cenedl ni yn y gorffennol, a rhai pethau am ei dyfodol sydd erbyn hyn yn dechre dod yn wir.

Er fy mod yn hen ben cyn gwybod beth oedd cenin y gerddi, gwyddwn am flodeuyn arall wrth yr un enw. Ni thyfai hwnnw ychwaith mewn lle mor uchel a mynyddig a'm cartref i, ond gwyddwn am dano mewn dolydd a chymoedd is i lawr, mwy cysgodol. Yr oedd ysblander ei felyn a thynerwch ei wyrdd wedi llenwi'm calon â llawenydd laweroedd o weithiau, a rhoi edyn breuddwyd i'm meddwl godi i wlad o farddoniaeth anelwig ond pur. A phob tro y gwelaf genhinen Pedr eto, yn llonydd yng ngwyleidd-dra ei chyfoeth euraidd yn y cwm, neu'n dawnsio'n llon i chwiban gwynt miniog Mawrth ar y dolydd, aiff ias o lawenydd hyfryd trwy'm calon, cilia pryder a diffyg ffydd ymaith, ac ail ddeffry hen obeithion wna'm bywyd lluddedig yn llawn ac yn ddedwydd eto.

Pa un ai'r leek ynte'r daffodil yw cenhinen Cymru ?

Nid oes gennyf hawl i benderfynu. Bechgyn a merched y dyddiau hyn, rhai'n paratoi at wasanaethu eu gwlad yn y blynyddoedd sy'n ymyl, sydd i benderfynu. Ond maddeuer i mi am gynnyg awgrym neu ddau.

Prun o'r ddau flodeuyn adwaenir fel y genhinen? Yn y rhan o Gymru adwaenaf fi oreu, sef mynydddir uchel y Berwyn, cenhinen Pedr yw'r genhinen. Credaf mai dyna fel y mae yn Lleyn hefyd. Yr oeddwn yn teithio o Bwllheli i Fotwnog yn y gwanwyn diweddaf, a gwelwn dwmpath o'r blodau melynion croesawgar. Gofynnais i'r gyrrwr,—gŵr cydnerth Cymroaidd,—beth oedd enw'r daffodils yn Gymraeg. "Wel," meddai, heb betruso dim, "cenin y byddwn ni'n eu galw y ffordd yma." Ond gwn mai'r leek sydd yn mynd i "gawl cenin " rhannau helaeth o Gymru.

Prun o'r ddau flodyn yw'r tlysaf? Ni allaf fi benderfynu. Y mae i'r leek ei thlysni. Y mae gwynder pur ei bron, amrywiaeth dymunol ei gwyrdd, a cheinder trofaog ffurf ei dail, oll yn ddiamheuol dlws. Clywais arlunwyr yn dweyd eu bod hwy yn hoffi lliw a llun y genhinen; ac y mae'n gain iawn, yn ddiameu, yn y darlun wnaeth Syr Edward Poynter o Ddewi Sant fel awgrym sut i addurno neuadd y Senedd. O'r ochr arall, pwy a wâd nad yw cenhinen Pedr yn un o'r blodau prydferthaf? Y mae'n gyfuniad o dlysni gwylaidd morwynig ac ysblander prydferthwch brenhines. Tlysni tyner a gwylaidd yw, ond a gogoniant yn fflamio ohono.

Prun o'r ddau flodyn sydd fwyaf nodweddiadol o'n cenedl ni? Llysieuyn dirmygedig yw'r leek yn llenyddiaeth Lloegr, peth gwylaidd ac isel ond defnyddiol. Llysieuyn gwerthfawr oedd y daffodil, yn ogoneddus ei ffurf a'i lliw, ac yn werthfawr fel meddyginiaeth. Yn ei ddarlun byw o bla 1625, rhydd yr Hen Ficer y meddyginiaethau gwerthfawrocaf mewn un pennill,—

"Ond pe ceit ti balm a nectar,
Cenin Peder, cerrig Besar,
Olew a myrrh, a gwin a gwenith,—
Ni wnant les heb gael ei fendith."

Cenedl wylaidd fu cenedl y Cymry'n ddiweddar, rhy lew a rhy lawen a rhy lariaidd"; ond yn awr y mae'n ennill ymddiried ynddi ei hun. thybia llawer fod y genhinen ddirmygedig yn arwydd gweddus i un gododd o isel radd. Ond cenedl o dras ardderchog yw cenedl y Cymry, wedi crwydro'n fore o'r dwyrain, dan arweiniad dychymyg cryf ac ysbryd mentrus; o'r dwyrain cynhesach y daeth y daffodil hefyd; a dyna pam y mae hi'n blodeuo gymaint yn gynt na blodau eraill, blodeua hi yr adeg y deuai'r gwanwyn i'w hen gartref. Hawdd cael ein temtio i gredu i'r Cymry ddod a'r blodeuyn hoff a rhinweddol gyda hwy i'r gorllewin. "Croeso'r gwanwyn ydyw, ac y mae'n ddarlun cywir o fywyd y genedl Gymreig, —bywyd o wanwyn, bywyd o ieuenctid parhaus, bywyd o obeithio yn erbyn pob anhawster, bywyd o gredu'r amhosibl. Medd wyleidd-dra tyner cenedl wedi dioddef, medd ogoniant cenedl yn codi i gymeryd ei lle ei hun. Mae llawer rheswm dros y newid sydd ar genedl y Cymry yn y dyddiau hyn, a'r rhai hynny yn rhesymau amrywiol iawn,—cred mewn etholedigaeth cenhedloedd, gweld golud y bryniau, teimlo manteision addysg. Ie, y mae hyd yn oed chware pel droed wedi ennill parch cenhedloedd eraill, a galw sylw at neilltuolion cenedlaethol mwy pwysig. Ai arwyddlun ein hiselradd gynt, ynte arwyddlun o nôd ein gwanwyn, a ddewiswn ni ?

"Gwasanaethaf" yw arwyddair Tywysog Cymru; ac nid oes wlad yn y byd yn credu yn gryfach na Chymru mewn urddas gwasanaeth. Ond nid gwasanaeth gwasaidd yw i fod. A chreulon. oedd cynnyg fel arwyddair i Gymro,—"Ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei, holl ddyddiau dy einioes." Nid gwasanaeth felly a gaiff y genhinen yn arwydd iddo. I Gymro, nid melltith y sarff, ond braint dyn, yw gwasanaethu. Ac ni ddirmygir cenhinen.

Gwn prun o'r ddau flodeuyn,—cenhinen a chenhinen Pedr, yw'r hoffaf i mi. Ond gallaf deimlo'n hawdd mai ar y llall yr erys serch eraill. Chwaeth pob un raid benderfynu. A phrun bynnag ai leek ynte daffodil gyfieithi yn genhinen ac a wisgi heddyw, Cymro wyt i mi. Gwisg hi, prun bynnag yw, mewn llawenydd. Na ddyro iddi dra-arglwyddiaeth y rhosyn, na phigau'r ysgall, na diwinyddiaeth y feillionen. Gwisg hi fel arwydd o wladgarwch pur. A boed pob bendith ar dy ymdrech i godi'r hen wlad yn ei hol."

Nodiadau[golygu]