Er Mwyn Cymru/Enaid Cenedl
← Cynhwysiad | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
Dygwyl Dewi → |
ER MWYN CYMRU.
ENAID CENEDL.
"Tlysni rhyfedd y criafol eleni."
LLAWER blwyddyn sydd er pan darewais nodyn dieithr, yn lleddf ac ofnus, gan alw ar Gymru ystyried rhag iddi, wrth ennill y byd, golli ei henaid ei hun. Deffrodd y nodyn gydymdeimlad mewn miloedd o galonnau, a chryfhawyd y rhybudd gan lawer utgorn. Daeth chwarelwyr Gogledd Cymru i'w gefnogi gydag un floedd. Yn arafach daeth amaethwyr y bryniau a'r dyffrynnoedd i'w groesawu, ac i ddeffro i'w gredu. Dechreuodd cymoedd gweithfaol Morgannwg a Mynwy ateb eu cydymdeimlad gwresog. Ac nid oedd y Cymry ar wasgar, yn enwedig Cymry dinasoedd mawrion Lloegr, ar ol.
Y mae llawer symudiad newydd er hynny. Bron na allwn ddweyd fod cenhedlaeth arall yn syllu ar dlysni rhyfeddol y criafol eleni.[1] "A bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn." Y mae chwyldroad wedi bod ym myd addysg. Y mae galluoedd cudd wedi eu deffro gan y cynnwrf sy'n gwneud i sylfeini cymdeithas siglo, gwanc rheolwyr am wledydd newydd a llwybrau masnach, a dyhead gwerin am ryddid a chydraddoldeb a chyfoeth. Pwy fuasai'n meddwl ugain mlynedd yn ol, y buasai cyfoethogion Cymru yn rhoi symiau o arian at addysg y werin, wrth y deng mil, yr ugain mil, a'r can mil o bunnau? Pob llwyddiant i'r genedl ymgyfoethogi mewn golud byd a meddwl, ac arweinied Duw ei hymdrechion arwrol a hunan-aberthol i fuddugoliaeth. Ie, enilled yr holl fyd.
Ond y mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw. Gall addysg flodeuo, gall crefydd gryfhau, gall rhyddid ennill y dydd, gall y tlawd godi o'r llwch ac ymgryfhau, gall y goludog fod yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd, tra enaid y genedl yn llesghau a gwywo. Gall y genedl ymgolli yn yr ymerodraeth, a bod yn rhan farw yn lle bod yn rhan fyw, fel na chlywir ei llais mwy.
A phe digwyddai'r trychineb hwnnw, byddai Cymru heb enaid a'r byd yn dlotach. Pan ddaw ymdrech newydd dros ryddid a chrefydd, nid Cymru godai'r faner; byddai ei llais hi yn fud.
Y mae i Gymru ei hiaith ei hun, ac ni fedr gadw ei henaid hebddi. Nid hyn a hyn o eiriau, mwy neu lai nag mewn ieithoedd eraill, ydyw. Y mae ynddi brydyddiaeth bywyd a gobaith mil o flynyddoedd wedi ei drysori. Pan ddaw'r geiriadurwr anwyd i sefyll uwch ei phen, bydd, nid yn ieithegwr yn unig, ond yn hanesydd a bardd hefyd.
Y mae yn enaid hanner effro Cymru ddefnydd llenyddiaeth odidog; nid yw Ceiriog a Daniel Owen ond megis wedi codi cwr y llen, ac ni rydd Islwyn ond rhyw gipolwg niwliog ar y bywyd heulog llawn sy'n disgwyl ffurf a llais. Ar lenyddiaeth ddieithr,—a honno'n iaith ddieithr a masw y gwan, y gwrendy toraeth ein pobl ieuanc y dydd hwn. Os nad yw llenyddiaeth enaid Cymru i gydio yn ein plant, gwell iddynt fod yn anllythrennog, fel na chollant y chwaeth a'r dyhead a gadwodd y Mabinogion trwy genedlaethau di-ddysg a di-lyfr. Fy nghenedl, beth yw sefyllfa'r Gymraeg yn dy ysgolion?
Y mae i enaid Cymru ysbryd cerddoriaeth gyfrin, sydd eto heb gael llais, er y clywir sibrwd ei edyn mewn ambell hen alaw neu yn hwyl ambell gymanfa. Cofiaf am adeg na ddysgid alaw Gymreig yn yr un ysgol yng Nghymru. Pryd hynny, gwynfyd y cerddor fuasai newid enaid Cymro am enaid Sais, a iaith y Cymro am iaith yr Eidalwr, ac yntau heb adnabod y naill na medru y llall. Sais ddaeth ag alawon Cymreig i ysgolion Gogledd Cymru; Saeson sy'n galw heddyw am i'n cerddorion dynnu eu hysbrydoliaeth o'r bywyd cyfoethog Cymreig, yn lle edmygu'r dieithr na fedrant ond ei ddynwared. Ni anwyd cenedl ag enaid mor llawn o gerddoriaeth ag enaid cenedl y Cymry. Ewch i ysgolion y genedl, i wrando lleisiau'r plant ar fore. Pa mor aml y clywch emyn neu alaw Gymreig yno?
Y mae enaid Cymru'n ddwys grefyddol, a'i lygaid ar y tragwyddol. Oherwydd hynny, oni ddylai y weledigaeth fod yn glir? Oni ddylai'r gwyddonwr Cymreig fod yn ddarganfyddwr? Ond wedi colli ei enaid, cyll meddwl y Cymro ei nerth. Boed i Gymru bob llwyddiant. Daw cydraddoldeb a rhyddid, Prifysgol ac Ysbyty, a sylweddolir llawer breuddwyd. Ond na chollwn ein golwg ar enaid y genedl, rhag iddo, ynghanol adeiladau gwych a phwyllgorau brwdfrydig, ddiflannu o'r golwg. Mager ef yn yr ysgolion, a cholegau amrywiol y Brifysgol. Ond ei grud yw'r aelwyd. Yn yr amaethdy mynyddig, yn y bwthyn ar fin y nant, yng nghartref y glowr,— yno y ca ysbryd Cymru ei eni. Ac oni fegir hwn, cenedl ail raddol, yn dynwared peth islaw ei bywyd, fydd cenedl y Cymry. Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd. Mewn gwladgarwch llednais a ffydd ddiysgog na fydded ein nôd ddim yn is.
Nodiadau
[golygu]- ↑ 1918