Er Mwyn Cymru/Y Nodyn Lleddf

Oddi ar Wicidestun
Yr Ysgol Sul Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Islwyn a'i Feirniaid

Y NODYN LLEDDF

CEFAIS fy hun yn ddiweddar yng nghwmni difyr lliaws o Wyddelod ffraeth. Llenorion oedd y rhan fwyaf o honynt,—beirdd, haneswyr, a nofelwyr. Nid oedd a fynnont, hyd y gallwn ddeall, â gwleidyddiaeth o gwbl; yn wir, nid oeddynt yn unol ar ddim mewn gwleidyddiaeth os nad unent yn eu dirmyg o'r aelodau seneddol, yn undebwyr ac yn ymreolwyr. Adroddodd un ohonynt fygythiad Grattan pan rowd terfyn ar Senedd Iwerddon yn 1801,—"Dinistriodd Prydain ein Senedd. Talwn ninnau trwy anfon cant o'n cnafon gwaethaf i fod yn felltith i'w Senedd hi." Dywedais enw un o arweinyddion gwleidyddol y Gwyddelod, a gofynnais a fedrai Wyddeleg. "Na fedr," oedd yr ateb, " a phe gofynnech iddo, teimlai fod y gofyniad yn sarhad arno." "Onid yw'n cynrychioli rhan hollol Wyddelig?" Ydyw, ond nid yw'r werin wedi deffro eto."

Teimlaswn ers tro fod rhywbeth yn eisiau i'm teimlad i yn y cwmni llawen, calon-gynnes, siaradus. Deallais, bob yn ychydig, mai â dosbarth cydmarol gyfoethog y cydymdeimlent; edrychent ar y werin fel dosbarth anwybodus, ofergoelus, di-lenyddiaeth, a'i gwladgarwch wedi gwylltio'n wleidyddiaeth ddall a hunanol. Mewn cwmni Cymreig o lenorion, beth bynnag arall fuasai yno neu ar ol, cymerid un peth yn ganiataol, sef fod gwerin Cymru yn ffyddlon i draddodiadau goreu ein hanes, ac yn nerth i'n gwlad. Amlygais fy syndod fod fy nghyfeillion Gwyddelig mor obeithiol, a'u gwerin heb fod wrth eu cefn. "Oni bai am y werin," ebe fi, "edwinai bywyd Cymru fel blodeuyn y glaswelltyn." Dywedais am groesaw'r werin i feddyliau Islwyn, danghosais gymaint yn iachach yw barn y werin na hyd yn oed barn eu harweinwyr, profais mai llais yn y diffaethwch fyddai llais gwladgarwr yng Nghymru oni bai am y werin. Ond nid oes gennym ni werin felly," oedd eu hateb, ac yr oedd yn amlwg nad oeddynt yn disgwyl un yn eu bywyd hwy.

Yn unigedd fy myfyrdod byddaf yn llawenhau wrth feddwl am werin Cymru, ac yn diolch i Dduw am dani, am ei ffyddlondeb a'i gonestrwydd, am ei hawydd i wneud yr hyn sy'n iawn, am ei chariad at feddwl, am gywirdeb ei barn, am dynerwch ei theimlad a chadernid ei phenderfyniad. Teimlaf yn fwyfwy bob dydd mai cenedl iach yw ein gwerin ni.

Ac yna daw cwmwl dros fy llawenydd. Ple mae ein huchelwyr, drwy gydol ein hanes, —yn esgobion a phendefigion, yn gyfoethogion a thirfeddianwyr? Maent bron bob un yn elynol, yn wrthnysig, neu'n fradwrus. Ymholais a mi fy hun a fedrwn gael o Gymru gwmni fel y cwmni llawen hwn. Na, cwmni i feirniadu ac i ameu, os nad i ddirmygu, fuasai cwmni o Gymry o'r un safle a'r rhain. Tosturiai'r Gwyddelod wrthyf finnau,"Os ydym ni heb werin yn nerth i ni, yr ydych chwi heb uchelwyr. Y mae eich cyfoethogion chwi yn gwaddoli colegau i anwybyddu eich hiaith ac i ddirmygu'ch cenedlgarwch, yr ydym ninnau yn ceisio codi'n gwerin i'r un tir a'ch un chwi."

Trois i feddwl am uchelwyr Cymru. Taflu rhyw fil o bunnau at goleg, ymddangos o flaen y dorf ar lwyfan Eisteddfod unwaith yn y flwyddyn, —nid yw hynny ond rhoddi carreg i un ofynno am fara. Nid arian, nid gweniaith sydd arnom eisiau; yr ydym yn hiraethu am gael teimlo fod calon ein huchelwyr,—aerod estronedig mil o draddodiadau, gyda ni. Pe buaswn uchelwr, ac wedi cael mantais cyfoeth i ymaddysgu ac i ymwareiddio, yr wyf yn credu y gwelswn goron ddisglair o'm blaen,—coron yn llaw gwerin fwyaf meddylgar a serchog hanes. Yn lle hynny, wele ein huchelwyr yn ennyn gwg y genedl garuaidd trwy anwybyddu ei hiaith, dirmygu ei llenyddiaeth, a gwawdio ei diwygiadau.

Y mae "Heart of Midlothian " Syr Walter Scott yn un o'm hoff lyfrau; ond nid y peth pruddaf yn hanes yr enethig Ysgotaidd, hwyrach, sy'n achosi mwyaf o brudd-der i mi. Pan ddaeth Jennie Deans i Lundain i ddadleu am fywyd ei chwaer syrthiedig, aeth at Dduc Argyll, yr enw enwocaf o bob enw i feddwl Ysgotaidd. Ond ni feddyliodd am eiliad fod yn anodd iddi hi, eneth wladaidd, ymddwyn yn briodol yng ngwydd y duc. Onid oedd yn gyd-wladwr iddi, y Mac Callum Mor? A chwestiwn ddaw a phrudd-der i'm meddwl yw,—Pe'r ysgrifennai Cymro hanes rhyw druan yn teithio i Lundain fel Jennie Deans, pwy gai i chware rhan Duc Argyll, pa bendefig, pa esgob, ar hyd hanes Cymru ers tri chan mlynedd? Na, y mae uchelwyr Cymru wedi ymneilltuo mor bell oddiwrth y genedl, mewn teimlad a gofal, fel mai prin y daw'r naill i feddwl y llall erbyn hyn. Faint o gartrefi uchelwyr yng Nghymru, erbyn hyn, sy'n gartrefi i'r iaith Gymraeg,—lle y caiff llenyddiaeth Cymru nodded? Pa hen gartref urddas a chyfoeth, pa esgobty neu ddeondy, pa goleg neu ysgol y gellir cyfeirio atynt fel lle yr adwaenir ac y croesawir y bardd a'r llenor sy'n coethi ac yn dyrchafu ei wlad? I ba le y gall Cymru werinol droi ei llygaid a dweyd, Oddiacw, o leiaf, cawn gydymdeimlad?

Feallai y cyfyd to o uchelwyr gwell, wyrion a gorwyrion plant y diwygiadau a'r hen ddioddef a'r hen aberthu. Y mae fy nghalon yn cynhesu, ac y mae calon gwerin yn cynhesu, wrth feddwl am ambell un sydd yng Nghymru'n awr,—heb ymestroni oherwydd hud arwynebol defodau dieithr. A daw ychwaneg.

Nid peth i aros yw'r cweryla chwerw ynghylch addysg. Nid peth i bara byth yw ymdrech Llafur a Chyfalaf. O na wrandawem ar lais Gwladgarwch. Rhoddai hi ddoethineb i derfynu'r naill ymdrech, a chydymdeimlad i leddfu'r llall. Pe medrem ymuno i wneud cyfundrefn addysg fagai gariad at Gymru ymysg ei meibion a'i merched o bob gradd, safai Cymru yn urddasol o flaen y byd.

Nodiadau[golygu]