Er Mwyn Cymru/Yr Ysgol Sul

Oddi ar Wicidestun
Bedd Gŵr Duw Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Y Nodyn Lleddf

YR YSGOL SUL

LAWER blwyddyn faith yn ol yr oedd tyrfa o amaethwyr a llafurwyr ar Green y Bala yn gwneud peth newydd iawn. Yr oeddynt yn penderfynu anfon mab amaethwr i'r Senedd i gynrychioli sir Feirionnydd, yn lle y gwŷr tir a'r gwŷr golud fuasai'n llais iddi cyhyd. A darlithient i'w gilyd oddiar lwyfa fod y gŵr ieuanc hwn yn meddu popeth gwerth ei feddu a feddai'r rhai fu o'i flaen, ac heblaw hynny wybodaeth dry lwyr am werin Cymru a chydymdeimlad perffaith â hi. Dywedent iddo fod yn ysgol oreu Cymru, yng ngholeg goreu Cymru, yng ngholeg boneddicaf Rhydychen, wrth draed y gwladweinwyr mwyaf selog a galluog.

Cododd un o wyr llafur Morgannwg, un oedd wedi rhoddi ei ffydd i'r gŵr ieuanc, ac un y disgwyliai y dorf am dano ers meityn. Gwefreiddiodd y dyrfa drwy ddweyd iddo ef orfod troi i'r Senedd heb awr o ysgol nac o goleg, heb ddim ond "yr hen Ysgol Sul."

Y noson honno bum yn cerdded yn ol ac ymlaen ar lannau Tryweryn gyda'r ymgeisydd, a synnai fod y glowr tanllyd yn awgrymu fod yr Ysgol Sul yn israddol i'r un ysgol yng Nghymru nac i'r un coleg yn Rhydychen.

Wedi deng mlynedd ar hugain o gynnydd yn addysg Cymru, teimlaf fod yr Ysgol Sul eto'n aros yn flaenaf un,—yn berffeithiaf mewn cynllun, yn flaenaf mewn defnyddioldeb, yn eangaf ei chydymdeimlad, ac yn uchaf ei nôd. A'r sain bruddaf ym mywyd Cymru heddyw ydyw'r cwynfan fod yr Ysgol Sul yn colli tir; yr wythnos hon gwelais gŵyn Bedyddwyr sir Gaer ac Anibynwyr sir Feirionnydd, dwy fyddin anodd eu gwangalonni, fod yn rhaid wrth ymdrech galed i gadw rhagfuriau'r Ysgol Sul.

Dull yr Ysgol Sul yw dull perffeithiaf cyfrannu addysg yng Nghymru. Ffurfiwyd yr Ysgol Sul gan ddyhead, angen, ac athrylith cenedl. Nid yw cyfundrefnau o saerniaeth yr addysgwr, o'u cymharu â hi, ond megis addurn pren o'i gymharu â chriafolen y mynydd neu fedwen arian y glyn. Y mae dau gamgymeriad pwysig yn addysg Cymru, Un yw gwneud cyfundrefn addysg heb astudio achosion llwyddiant rhyfedd yr Ysgol Sul. A'r llall yw dwyn i'r Ysgol Sul rai o'r neilltuolion dybid oedd yn achosion llwyddiant peiriannol addysg mewn ysgolion elfennol, megis safonau unffurf ac arholiadau allanol. Ond er pob camgymeriad, heb dreth, heb rodd gan Lywodraeth na miliwnydd, cododd yr Ysgol Sul i effeithiolrwydd sydd heb ei fath yn hanes ein cenedl. Dyma'n dilyn rai o'r nodweddion sy'n dangos fod yr Ysgol Sul, yr ysgol godwyd gan ein cenedl, ar y blaen i ddim addysg drefnwyd eto gan ein haddysgwyr proffesedig.

i.—Yn yr Ysgol Sul y mae addysg yn un, ac nid yn rhannau anghydnaws o un gyfundrefn gymysg ac anghyson. Yn addysg dyddiau'r wythnos rhennir addysg yn addysg elfennol, addysg ganolraddol, ac addysg prifysgol; nid ydyw y rhai hyn yn toddi i'w gilydd, ac ni ŵyr athrawon y naill ddigon am y llall, fe ymfalchia'r naill wrth ddadwneud gwaith y llall. Ond y mae'r Ysgol Sul yn ysgol elfennol, yn ysgol ganolraddol, ac yn goleg ynddi ei hun. Addysgir y plentyn mwyaf araf a'r athraw mwyaf dawnus yn yr un ysgol, —y mae'n ysgol fabanod ac yn goleg hyfforddiadol ynddi ei hun.

ii.—Y mae'r Ysgol Sul wedi denu cenedl iddi, heb orfodaeth na chosb, heb ffon na gwialen, heb gynnyg gwobr na swydd. Yn lle y rhain y mae ganddi dri atyniad nerthol. Un yw ei hysbryd Cymreig; y mae'n Gymreig drwyddi,—wreiddyn, pren, a dail; ynddi hi y cafodd ysbryd y genedl Gymreig y corff perffeithiaf a hygaraf i ymwisgo ynddo. Yr ail atyniad yw ei natur ddemocrataidd; nid oes ynddi hi le i ymhonwr sefyll ar lwyfan, na lle i gyfoethog ddweyd wrth dlawd, Y cyfaill, dos i rywle is i lawr, nid oes dy eisiau yma." Y mae ysbryd cydraddoldeb perffaith yr efengyl yn anadlu'n rymus drwyddi. A'r trydydd atyniad yw y llenyddiaeth efrydir ynddi, llenyddiaeth fwyaf y byd, casgliad ardderchog o ganeuon, croniclau, breuddwydion, ac athroniaeth; llenyddiaeth sydd yn ddigon eang i ddeffro'r meddwl cryfaf, ac yn ddigon dynol i swyno'r meddwl symlaf. Cymharer y corff hwn o lenyddiaeth â chynnwys egwan a masw llawer llyfrgell ysgol.

iii.—Y mae pob un yn yr ysgol hon yn athraw ac yn ddisgybl bob yn ail. Ufuddhau a rheoli bob yn ail oedd yn gwneud y dinesydd perffaith yng nghyfnod aur bywyd Groeg. I athraw, nid oes dim mor darawiadol hanes Edward Richard yn cau drws Ysgol Ystradmeurig am flwyddyn er mwyn cael cyfle i ddysgu ychwaneg. Byddaf yn meddwl am dano bob tro y gwelaf athraw Ysgol Sul yn troi i'w hen ddosbarth, at draed athraw arall, wedi cyfnod o fod yn athraw ei hun. Toc a'n ol, a'i feddwl yn llawnach a'i ddull yn berffeithiach. Ac felly ymberffeithia'r ysgol.

iv.—Y mae dosbarthiadau'r Ysgol Sul yn ddosbarthiadau bychain. Gall yr athraw ddilyn a gwylio pob meddwl, gall y disgyblion ddod i adnabod ei gilydd yn drylwyr. Tybia ambell athraw y gall ddysgu dosbarth o ddeg ar hugain, ond twyllo ei hun y mae; dirywia'r wers i fod yn bregeth neu ddarlith, a chollir y cymundeb enaid rhwng athraw a disgybl, a rhwng disgybl a disgybl, sydd yn hanfodol i berffeithrwydd addysg. Ac oherwydd bychander y dosbarth, gall fod amrywiaeth diderfyn ynddo. Rhagora un mewn craffter naturiol, un arall mewn dysg, un arall mewn adnabyddiaeth o'r natur ddynol; mae un yn amlwg oherwydd dychymyg, un arall oherwydd callineb; y mae distawrwydd gwylaidd ambell un fel arogl esmwyth yn y dosbarth. Ers rhai blynyddoedd yr wyf fi wedi cael y fraint o fod yn athraw i ddosbarth bychan dymunol o wŷr ieuainc rhwng ugain a deg ar hugain oed, a mwy; ac y mae yr amrywiaeth mewn gallu, barn, a dull yn amlwg. Eto, hoffwn i'r amrywiaeth fod eto'n fwy; dymunais lawer tro am gael dau arall,—un wedi cael anrhydedd dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth mewn coleg, ac un arall heb fedru gair ar lyfr. Y mae amrywiaeth gwybodaeth, amrywiaeth gallu, amrywiaeth dawn, ac amrywiaeth tueddiad, fel haearn yn hogi haearn, yn fywyd ac yn ddiddordeb dosbarth. Ac ni raid i athraw, drwy drugaredd, fod o flaen pob aelod o'i ddosbarth yn yr holl bethau hyn, nag yn un o honynt.

v.—Profir effeithiolrwydd yr Ysgol Sul, nid drwy arholi unigolion, ond trwy ymweled â dosbarthiadau. Sicrha hyn ei rhyddid i bob ysgol. Trefna ei hun, gedy i bob dosbarth lunio ei ddull ei hun. A phan ddaw ymwelwyr, ceir awgrymiadau'n unig, a hanes ymgeisiadau ac arbrawfion ysgolion eraill.

vi.—Y mae i'r Ysgol amcan uchel, sy'n rhoddi iddi nod cyson, unoliaeth bywyd, a sicrwydd am lwybr datblygiad diogel. Nid beichio'r cof â gwybodaeth rhai eraill yw ei phrif amcan, ond defnyddio gwybodaeth i ddatblygu meddwl a chymeriad. Ei nod yw ACHUB pob disgybl i fywyd uwch. Nid ei hamcan pennaf yw dosrannu gwybodaeth yn drefnus ger ei fron, ond agor ei lygaid i weled. Deffry enaid, dadlenna fyd newydd; ei nod yw ail eni pob disgybl i weled teyrnas Crist. A'r nod uchel hwn yw sicrwydd llwyddiant yr Ysgol Sul. Ceidw hi'n fyw, yn effeithiol, yn gyfaddas i anghenion newydd a datblygiad uwch, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth.

Nodiadau[golygu]