Er Mwyn Cymru/Bedd Gŵr Duw

Oddi ar Wicidestun
Y Plant a'r Eisteddfod Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Yr Ysgol Sul

BEDD GŴR DUW

AR un o ddyddiau heulog diwedd haf, cefais fy hun yn dringo ffordd weddol serth o Benrhyn Deudraeth i gyfeiriad Eryri. Wedi cyrraedd pen y bryn cyfarfyddais â dau arlunydd, y naill yn prysur godi i enwogrwydd fel un o brif arlunwyr y dydd a'r llall yn ŵr enwog ar y Cyfandir. Cymro oedd y naill, Norwegiad y llall. Wrth syllu ein tri ar y goleuni tyner glas ar lawer mynydd cribog ac ar fwynder hyfryd cymoedd aml, dywedai'r tramorwr, er ei fod wedi gweled mynyddoedd pob gwlad, o'i wlad ei hun i Zealand Newydd, na wyddai am le oedd gymaint wrth fodd arlunydd a chilfachau Eryri. Ac heb fynd ymhellach ar fy ystori, ddarllenydd mwyn, dylwn dy rybuddio, rhag peri siom i ti, nad wyf yn meddwl dodi i lawr yma yr ymgom a gefais â'r ddau arlunydd enwog. Arhosasant hwy i wylio rhyw agweddau ar y Wyddfa, yn ei mawredd brenhinol. Disgynnais innau i lawr i'r ochr arall; a chyn hir ni welai'r ddau arlunydd, os rhoddasant funud o sylw i mi wedyn, ond ysbotyn du yn symud yn araf hyd y ffordd wastad tua'r gogledd. Cerddwn hyd wastad y morfa enillwyd oddiar y môr, wyth mil o aceri, ebe rhywun a gyfarfyddais. Ar y dde i mi codai mynyddoedd Meirionnydd eu pennau,—y Moelwyn a'r Cnicht; ac ar y chwith, dros y morfa, yr oedd mynyddoedd Eifionnydd,—y Foel Ddu a Moel Hebog a'u cymdeithion. Yn union o'm blaen, ymhell i'r gogledd, codai'r Wyddfa yn ddistaw fawreddog ymysg ei theulu.

Ond nid i fwynhau cymundeb ysbryd â'r mynyddoedd y teithiwn i y nawn hwnnw. Yr oeddwn yn chwilio am fedd.

Er hynny nis gallwn beidio sylwi ar ambell beth ar y ffordd yn y fro gyfareddol hon. Unwaith yr oedd y môr dros y gwastadedd gerddwn, i fyny hyd Aber Glaslyn; a golchai'r tonnau ymyl gwisg y mynyddoedd y cerddwn hyd eu godre. A'r adeg honno mor ardderchog oedd yr olygfa, a'r môr yn ei rwysg.

Wrth ddringo i fyny teimlwn yn fwy gonest a chryf gan fod tir dan fy nhraed nad oedd yn dir lladrad, a hwnnw'n graig na fedr y môr ei adfeddiannu byth tra bo deddf ei ryddid fel y mae. Dyma bentref bychan glân fu gynt uwch y môr a'i ru, ac ar y chwith westy ac arwydd o waith haearn cain yn tynnu sylw pob fforddolyn. Y mae'r gwaith haearn tlws, wrth ysgwyd yn y gwynt, yn ddarlun o beth allai gofaint cywrain Cymru wneud pe wedi rhoddi eu meddwl yn eu crefft. Ond, ysywaeth, gwaith cenedl ddieithr yw, a dyllhuan rhyw hen deulu Cymreig wedi ei rhoi yn lle eryr y genedl uchelgeisiol. Troais i mewn i'r gwesty, tŷ glân cysurus, llawn o hen lestri prydferth a gwerthfawr, a'r bwyd dan gamp.

Cerddais ymlaen trwy'r pentref, a throais ar y dde, heibio i hen gartref Cymreig, y tŷ wedi ei drwsio'n brydferth, a'i erddi llawn dan eu llwyth o ffrwythau. Yna, wedi mynd dan fwa cerrig, wele ffordd gul yn fy arwain i mewn i fryniau Meirionnydd, i un o'r glynnoedd sy'n awr yn ymagor ar y morfa marw ond a fu gynt yn agor ar y môr byth aflonydd. Cerddais, am nas gwn i faint, wedi ymgolli yn nhlysni blodau ochrau'r ffordd a glesni'r mynyddoedd mawr yn eu tawelwch pell. A pha ryfedd? Onid diwedd haf oedd hi, a'r amaethwyr yn cludo olion gwair oddiar y ffriddoedd a thoraeth euraidd yr yd o'r caeau islaw? A chanai clych yr eos ogoniant yr hydref.

Ond, ar y dde, yn ochr y ffordd, dyma fynwent. Y mae mur cadarn, trwchus ac uchel, o'i hamgylch, rhyngddi a'r ffordd odditanodd a rhyngddi a'r llechwedd oddiarni. Medrais ddringo iddi, i annedd dawel y marw. Ac wedi i mi edrych o'm cwmpas, yr oeddwn megis wedi dringo i brydferthwch y nefoedd.

Edrychais i ddechre dros y ffordd y dringaswn ohoni. Odditanaf yr oedd llawr Aber Glaslyn, a throsto codai'r Wyddfa i'r nen o ganol ei theulu cawraidd. Troais i'r ochr arall, ac yr oedd yno lechwedd creigiog, coediog, uchel, yn ddarlun o gadernid. Ar y dde yr oedd perllan a choedydd yn codi o gaeau gwyrddion; ar yr aswy gwelwn lethrau creigiog Croesor a'r Cnicht pigfain dieithr. Ac o'm hamgylch yr oedd beddau. Eto, er y gellid clywed su esgyll gwybedyn heb glustfeinio, yr oedd y distawrwydd fel pe'n orlawn o leisiau a'r tawelwch fel pe'n orlawn o fywyd.

Yn y gornel ar y dde, a'r graig yn gysgod iddo, cefais y bedd yr oeddwn wedi dod i chwilio am dano. Symledd a chadernid oedd nodweddion y bedd, carreg las o'r mynydd gerllaw yn gorwedd ar gerrig celyd y fro. A dyma'r ysgrif sydd arno, wedi ei cherfio'n eglur a dwfn,—

Yma y gorwedd hyd yr

Adgyfodiad, Gorph

JOHN RICHARD JONES,

wedi treulio yn agos i 34n o flynyddau
yn FUGAIL diwyd, ffyddlon, a
llafurus: i'r EGLWYS gynnulledig
yn y lle hwn; gan ymdrech yn
ddiysgog o blaid yr EFENGYL
hyd ei ddiwedd; a goddef cystydd
am air Duw, a thystiolaeth Iesu, &c.

Gorphenodd ei waith a'i Yrfa
Mehefin y 27n 1822, ei oedran 57.


Pregethwr pur, ac ieithydd; hyd ei farw
Adferwr gwir Grefydd;
Pur ei araeth, Ferorydd,
Un hoff iawn, iach yn y ffydd.

O'r gro pan ddeuo ryw ddydd, gyda'r OEN
Caiff gadw'r wyl dragywydd;
Ail einioes o lawenydd,
A hir saif, i'w aros sydd.


A dyma'r lle hyfryd y gorwedd J. R. Jones o Ramoth ynddo, wedi bywyd ymdrechgar llawn o agor bydoedd newydd y meddwl a thragwyddoldeb o flaen gwerin gwlad. Canmolais ef unwaith wrth yr hwn sydd erbyn heddyw yr enwocaf o'i bobl, a'i enw ledled y byd. Ac atebodd yn chwareus, nid oedd ond llanc y pryd hwnnw,—"Buasai'n well iddo o lawer fynd i Lundain, lle cawsai ei alluoedd chware teg yn lle aros yn y fan yma, i gario mawn ar ei gefn o'r mynydd." Ond gall dyn mawr weithio mewn cylch bychan, ac y mae'n rhaid i rywrai aros yn y wlad. Y mae ffrwyth llafur yr efengylwr diofn a difloesgni, meddylgar ac ysgolheigaidd yn aros eto, a chynhydda o gynhaeaf i gynhaeaf. Gorwedd yma fel Arthur yn ei ogof, a'i farchogion o'i amgylch,—wele eu beddau hwythau'n llu gerllaw.

Bum yn ymgomio hyd ffyrdd y fro swynol, ers llawer o flynyddau, â phobl J. R. Jones. Bob blwyddyn dyfnheir yr argraff gyntaf wnaethant arnaf, fod tri nodwedd iddynt,—boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, a gwybodaeth o'r Beibl. Dylaswn nodi y nodwedd olaf yn gyntaf, hwyrach, oherwydd mai hi yw sylfaen ac achos y lleill. Ac yma y mae eu blaenoriaid yn huno, a'r bugail yn eu mysg. Y mae'r fynwent ar y llechwedd fel gorffwysfa milwyr ac offeiriaid rhyw Urdd Ioan, wedi eu dydd o ymladd a gwaith, dygir hwy yma i huno gyda'i gilydd. Y mae'r cerrig yn hanes byw. Gorwedd hon ar fyfyriwr o Goleg Normalaidd Bangor, llanc o Ffestiniog, wywodd wrth hogi ei gryman ar gyfer cynhaeaf mawr,—

"Arwyddfan uwch gorweddfa—y diwyd
Owen Jones geir yma ;
Gŵr o addysg orwedda,
Ac un o deg enw da."

A chydag ef huna ei dad o'r un enw, "a alwyd yn dra sydyn," fel y gwneir yn y chwarelau ambell dro,—

"Tad hawdd ei hoffi, gwir serchog briod,
A hoff was Iesu, sy'n gorffwys isod;
Daeth oes o ymdrech yn erbyn pechod
Yn sydyn i derfyn.—gwaith yn darfod;
Ond gwyddai am gyfamod—a ddeil mewn bri
Yn hwy na meini cedyrn y Manod."

Dyma golofn i chwarelwr laddwyd yn chwarel Oakeley, "godwyd o barch gan ei gydweithwyr." Ac fel yr eir o'r naill garreg las i un arall, o golofn i golofn, ceir yma deulu crefyddol o wŷr a gwragedd o feddwl disgybledig ac o chwaeth bur. Am un bedd yn unig yr holais, bedd newydd oedd wedi ei gau ddoe, bedd y blodau gwylltion, wedi eu casglu gan blant, eto heb wywo arno. Bedd cenhades ieuanc oedd, fu'n cyhoeddi'r efengyl ar Fryniau pell; ond daeth hithau adre i huno. Yr oedd su dyner yn y fynwent, alaw awel wedi ehedeg o'r môr, gan gludo arogl y gwair cynhaeafus a'r gwenith gwyn ar ei hedyn. A disgynnodd rhyw ddedwyddwch tawel dros fôr a mynydd, a thros fy enaid innau. Os mai ystormydd canrifoedd sydd wedi rhoddi ei harddwch i'r fro hon, ysbrydoedd dynion mawr sydd wedi rhoddi eu cadernid hoffus i'r cenedlaethau sy'n gweithio eu dydd, ac yna'n huno, y naill genhedlaeth ar ol y llall.

Nodiadau[golygu]