Er Mwyn Cymru/Y Plant a'r Eisteddfod
← Ffyrdd Hyfrydwch | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
Bedd Gŵr Duw → |
Y PLANT A'R EISTEDDFOD
LLAWER o ddefnydd wnawd o ddywediad yr hen geidwadwr gonest Dr. Johnson am ei gasbeth, yr Ysgotyn, sef y medrir gwneud rhywbeth ohono yntau ond ei ddal yn ddigon ieuanc. Nid am yr Ysgotyn yn unig y mae hyn yn wir. Hwyaf wyf yn byw cadarnach yw'm cred fod yn rhaid i addysg dyn ddechre pan yn ieuanc. Ni fyn yr hen ddysgu; neu, yn hytrach, ni fyn ddysgu cerdded llwybr newydd. Erbyn hyn nid wyf fi'n gofyn iddo wneud. Rhaid dal y plentyn. Pe byddai'r ysgolion a'r athrawon yr hyn ddylent fod, gallent newid y byd yn ystod un genhedlaeth Cymerer un peth yn enghraifft. Y mae preswylwyr ein glannau moroedd iach a phrydferth, cyrchfeydd miloedd ar filoedd o ymwelwyr haf, yn brysur iawn am rai o fisoedd y flwyddyn. Ond beth sydd ganddynt i'w wneud trwy fisoedd meithion y gaeaf, nis gwn i. Gallent droi eu dwylo at wneud teganau prydferth, o bren a chragen a defnyddiau eraill, megis cychod a llongau bychain cain. Nid oes eisiau ond cyllell morwr, y mae coed ar y llethrau a miliynau o gregin ar y traeth, ac ychydig amynedd, i roddi gwaith pleserus i ddwylo sy'n llonydd tra bo amser yn mynd. Yn lle hynny, prynnir gwerth miloedd o bunnau o deganau hagr a di-chwaeth o'r Almaen ac Awstria. Ni fyn yr hen bobl newid. Hepian welsant, a hepian wnant. Ond hawdd fai cael y plant i ddysgu. Medrai dau neu dri o athrawon ieuainc egniol a brwdfrydig ddod a diwydiant newydd gwerthfawr i'n harfordiroedd. Dau ddyn wnaeth hynny yn Switzerland, ac y mae eu llafur a'u hesiampl wedi dwyn golud dirfawr i'w gwlad bob blwyddyn.
Y mae rhieni Cymru yn wladgar iawn ar ddiwrnod cymanfa ac eisteddfod, yn hyfryd ganu, meddwl a theimlo yn Gymraeg. Ond ni ellwch eu cael i siarad Cymraeg gartref, ac nid yw eu cymdogion Seisnig, na'u plant hwythau, yn dod i'r cyfarfodydd. Ond cydied ysgol dda yn y plant, a daw'r cartref eto'n Gymreig ei iaith a'i ysbryd.
Bu cynnydd y Methodistiaid,—cymerwn eu hanes hwy am mai hwy yw y diweddaf,—yn rhyfeddol gyflym adeg tân ymdeithiol y diwygiadau. Yna arafodd eu camrau hyd nes iddynt, wedi hir betruso, agor dorau eu seiadau i'r plant. Ond er hynny, buasent wedi darfod am danynt cyn hyn oni bai am eu Hysgol Sul. Cydiasant yn y plant, a buont fyw. Gŵr llygad-graff oedd Thomas Gee, a gorwel ei drem ymhell. Os na chredodd mewn gweinidogaeth sefydlog, credodd â'i holl enaid yn yr Ysgol Sul. Ceisiodd ddysgu Cymru, pe mynasai wrando, mai trwy ennill y plant yr enillid y werin. Pe mynaswn weled fy enwad fy hun yn meddiannu Cymru i gyd—y peth olaf a hoffwn—trown ei holl gyfarfodydd yn Ysgol Sul. Cawn y plant a'r dyfodol.
Os ydyw Cymru i fyw fel y Gymru adnabwn, garwn, hanner addolwn ni, os ydyw'r Gymru honno i fyw, rhaid i ni gydio yn nwylaw'r plant, a'r rhai hynny yn blant y genhedlaeth hon. Aiff y gymanfa'n gynhulliad teneu, heb y plant. Crina'r Eisteddfod i henaint a bedd, heb y plant. Dylai pob sefydliad cenedlaethol Cymreig gydio yn y plant os am fyw.
Gwelodd Rhys J. Huws fod y pethau hoffai ef yn dod yn eiddo i'r hen yn unig,—ysbrydol llenyddol dwys a hoffus. Tra'r ymhyfrydai hen feirdd wrth ganu am ogoniant a fu, yr oedd y plant a'u pennau yn y gwynt, yn byw ar lenyddiaeth salw, a chof am feirdd goreu Cymru'n cilio o gof. Bu amser nad oedd sôn am Geiriog na Hiraethog nag Islwyn ymysg plant Cymru. O deimlo hyn trodd meddwl Rhys J. Huws at Eisteddfod y Plant. Yn araf, ond yn sicr, ceir gweled y bydd Eisteddfod Plant Bethel, ac Eisteddfod Plant Bethesda, yn gychwyniad newydd i fywyd ein cenedl ni.
Gwyn fyd na chawsai Rhys J. Huws fyw ychydig yn hwy i weled ei waith yn dechre dod i'r golwg yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd. Y mae'n debig na fedr neb oedd yn y babell fawr orlawn ar ddydd y plant anghofio'r olygfa tra byddant byw. Canai'r corau plant o ysgolion ardaloedd poblog y De nes swyno'r gynulleidfa enfawr i ddistawrwydd amyneddgar a boddhaus trwy gydol yr hirddydd. Canai'r plant alawon gwerin Cymru yn Gymraeg. Os oedd yr effaith ar y dorf yn drydanol, bydd yr effaith ar yr ysgolion yn arhosol.
Daw canu alawon gwerin yn Gymraeg i'r ysgolion eraill. Daw canu Cymraeg a siarad Cymraeg eto i heolydd oedd wedi colli yr hen seiniau hudolus. A deffry pobl mewn oed sy'n gweddio'n gysglyd am i'r hen iaith barhau tra heb fod o ddim cymorth iddi, a gwelant fuddugoliaeth yr iaith yn ffyddlondeb gwladgar y plant. Trwy'r plant y codir yr hen wlad yn ei hol.
Cymerodd Castell Nedd un cam, cymered Corwen y cam nesaf. Daeth Castell Nedd a'r plant i ganu yn yr Eisteddfod, doed Corwen a hwy i holl waith un dydd. Rhodder dydd y plant yn gyfangwbl iddynt hwy eu hunain,—canu bid sicr, ond traethawd hefyd, a darlun, ac adrodd, a map, a'r holl fyd cyfoethog sy'n ymagor o amgylch plentyn yn ysgolion Cymru.
Cymered yr Eisteddfod afael ym mhlant Cymru. Y plant yn unig fedr ei chadw'n fyw, a chadw'r nodweddion cenedlaethol sydd eto mewn bri yn ei phebyll.