Neidio i'r cynnwys

Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Pennod I Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

Pennod III

II

DAW profiad hynod a chwbl arbennig i'r neb a gais atgynhyrchu cyfnod yn ei fywyd sydd wedi hen basio: er i lawer o'r ffeithiau fod yn ei gof, y mae'r hen awyddfryd a'i deimladau wedi mynd, a medr edrych arno ei hun fel ar rywun arall, "myfi ac nid myfi." Ni threiais o'r blaen atgyfodi cyfnod o'm hanes mewnol o lwch y gorffennol, ond fel hyn y teimlaf yn awr mewn perthynas â'r chwe blynedd o frwdfrydedd barddol a'm meddiannodd rhwng pedair ar ddeg ac ugain oed.

Nid yw yn hynod yn y byd bod hogyn deuddeg oed yn ceisio efelychu'r emynau sydd wedi mynd yn rhan o'i ymwybod y mae ei duedd ddynwaredol yn arwain yn naturiol i hynny; ond y mae ei fod, yn ddiweddarach, yn cael ei feddiannu gan dwymyn awenyddol sy'n bychanu pob amcan ac ymgais arall yn ei olwg, yn sicr yn eithriadol. O leiaf, ymddangosai i mi felly mewn unrhyw hogyn ysgol y dyddiau hyn. Rhaid inni ragdybied rhyw gymaint o ddawn gynhenid i'w wneud yn bosibl, yn gystal â rhyw symbyliadau yn y cylchfyd i ddeffro'r ddawn. Ychydig, yn sicr, a gwan oedd yr olaf yn fy nghylchfyd i. Yn arbennig, nid oes gennyf unrhyw gof am ddechreuadau fy nghariad at gynghanedd. Rwy'n cofio fy hen athro yn yr Ysgol Sul, Deio Clinllwyd, yn adrodd rhai o linellau Goronwy Owen un prynhawn Sul i ni hogiau difeddwl:

Cyfyd fal yd o fol âr
Gnwd tew eginad daear,—
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don;

a theimlo bod rhyw nerth dieithr ynddynt, ond yn sicr heb wybod dim am gynghanedd y pryd hwnnw. Nid yw o bwys ceisio olrhain y dechreuadau. Yn ddiweddarach, daeth help o amryw gyfeiriadau. Yr oedd gan Gwynionydd—a oedd yn giwrad yng Nghenarth—fab o'r enw Tegid yn Ysgol Ramadeg Emlyn, yr hwn a ddôi â gweithiau y prifeirdd yn fenthyg i mi oddi wrth ei dad, ac yn eu plith gramadeg Siôn Rhydderch. Ef fu fy athro cyntaf yng nghywreinion a mathau gwahanol cynghanedd. Athro digon trwsgl: y mae argraff ei englynion trystfawr yn fy nghof fel sŵn rhugliadau troliau trwm, o'u cymharu â symudiad modurol esmwyth cynghanedd ddiweddarach.

Hynotach na dim oedd imi rywsut ddyfod i gyswllt â dau hogyn arall, Howel Lewis[1] ac Ebenezer Jones,[2] yn yr ysgol ramadeg, a oedd hefyd yn barddoni, a ffurfio math o driwyriaeth (triumvirate) barddoli ddewis testunau i ganu arnynt ac eilwaith i fod yn fwrdd beirniadol. Ni pharhaodd y trefniant hwn yn hir, gan eu bod hwy yn rhy brysur gyda'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiad Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Gofynnodd Mr. Selby Jones i minnau fynd yn bregethwr, ond ni fynnwn, gan nad oedd gennyf ddiddordeb mewn dim ond barddoni. Hyn hefyd a fynnodd benderfynu beth i'w wneud i ennill bywoliaeth. Gofynnais i'm mam geisio gan fy mrawd Emlyn, fel dyn busnes, sicrhau lle i mi mewn banc, er mwyn i mi gael digon o hamdden i farddoni. Ni ddaeth dim o hyn, ac felly dewisais fynd yn saer, fel eraill o'r teulu. Treuliais dair blynedd ar fy mhrentisiaeth, ond treuliais nid yn unig fy oriau hamdden, ond hefyd lawer o'm horiau gwaith—wrth weithio —i saernïo englynion a phenillion.

Yr oeddwn yn cystadlu'n gyson, a rhywbeth yn y gwŷdd yn barhaus: yn ennill yn aml, a cholli'n amlach, yn neilltuol ar y cyntaf. Gan fy mod yn beiddio cystadlu ar destunau fel Y Ddaear, Goleuni, Anfarwoldeb, Gwirionedd, etc., yr oedd yn ofynnol i mi ddarllen llawer ar seryddiaeth, daeareg, etc., ac erthyglau yn Y Gwyddoniadur a llyfrau eraill a oedd yn llyfrgell fy nhad. Wrth edrych yn ôl, 'rwy'n gweld i'r tair blynedd hyn fod yn rhai o dyfiant a disgyblaeth yn feddyliol a moesol yn fy hanes. Gan fy mod i fod yn y gweithdy am chwech o'r gloch y bore, haf a gaeaf, wedi cerdded dros filltir o ffordd, nid oedd cyfle i ddiogi. Buasent yn flynyddoedd caled i hogyn oni bai fod ei ddiddordeb mewn rhyw destun neu'i gilydd yn ysgafnhau'r baich, yn byrhau'r ffordd i'r dref yn gystal ag oriau gwaith wedi cyrraedd. Fel hyn ieuid disgyblaeth a diddordeb ynddynt, a chedwid y meddwl ieuanc rhag llawer o demtasiynau y meddwl a'r corff segur.

Ond beth am yr ymchwil am y prydferth? Nid oes eisiau dweud mai syniad haniaethol (abstract) yw "y prydferth" fel y sonnir amdano gan ysgrifenwyr athronyddol, ac mai peth prydferth, neu berson prydferth, a gais yr enaid. Dyna fy hanes innau. Ac er bod mwy o symbyliadau i ddatblygu'r ddawn gerddorol yn y teulu a'r ardal, ac i minnau ar y dechrau ymateb iddynt, diau mai'r gynneddf awenyddol oedd gryfaf yn fy natur, a hi a orfu maes o law. Yr oeddwn yn hoff yn ieuanc o eiriau prydferth; yn raddol dysgais garu brawddegau a ffigurau a drychfeddyliau prydferth. Digon amrwd yn ddiau oedd y canfyddiadau a'r syniadau ar y cyntaf, a'r mynegiadau ohonynt yn fwy amherffaith fyth. Yr oedd tuedd i orliwio neu ddwyn y dwyfol a'r nefol i mewn i fwyhau disgleirdeb y lliwiadaeth neu wneud i fyny am ei ddiffyg—megis galw'r enfys yn

Oludog bleth o flodion—y wawrddydd,
Neu erddi angylion.

Y mae'r aruchel (sublime) yn gynwysedig yn y prydferth athronyddol. Nid wyf yn sicr am y beiddgar, ond gan y cymeradwyid ef gan feirniaid y dyddiau hynny fel y molir cynildeb heddiw, yr oedd yn gystal â chymhelliad i feirdd ieuainc i "feiddio" dweud, er enghraifft, am y llew:

Ei ru fel rhaeadr a fydd,
Megis dirmyg ystormydd!

Ac wrth ddisgrifio "ystorom Awst ar y môr,"

Llwybr y llong yw llwybr cymyl yr wybrau.
Gwawdia'r daran ddyn gwan. O'r eigionau
Rhydd fyned wna'i riddfannau—ef i'r lan,
A'i lef wan fydd yn uwch na'r elfennau.

Ond diau fod cymaint o wir ag o feiddgarwch yn y llinell olaf; yr hyn a ddengys ei bod yn bosibl mynd i eithafion gyda "chynildeb." Y mae i'r pwys a roddir iddo heddiw ei le fel protest yn erbyn y duedd i orwneud neu orliwio, ond nid yn erbyn y priodoldeb o ddisgrifio storm yn wahanol i awel. Yr unig egwyddor sicr yw "cydfyned ag Anian."

Nid wyf yn barnu i mi gynhyrchu un cyfanwaith prydferth yn ystod y blynyddoedd hyn, ag eithrio rhyw fan bethau, efallai: unoliaeth traethawd yn fwy nag unoliaeth artistig sy'n nodweddu yr awdlau ar "Y Goleuni" a'r "Ddaear" (yr olaf yn ddeunaw cant o linellau!). Y delfryd y dyddiau hynny oedd dyfod i fyny â'r farn "fod y bardd hwn wedi disgyn fel eryr ar ei ysglyfaeth a sugno ei holl waed ef."

Eto yr oedd ynddynt dameidiau digon prydferth. Cefais gryn foddhad yn ddiweddarach o ddarganfod fy mod wedi taro ar rai o gymariaethau y prifeirdd Saesneg flynyddoedd cyn eu darllen. Ni wyddwn, er enghraifft, fod Shelley yn cymharu "ieir bach yr haf" â "winged flowers" pan ddywedwn eu bod i'w gweld

Ddegau ar chwaraefa'r rhos
Fel adeiniog flodionos;

nac ychwaith fod Tennyson wrth ddisgrifio tanbeid— rwydd blodau eithin wedi canu

The furzy prickle fire the dells,

pan ddisgrifiwn i eithin glannau Teifi a Cheri'n gyffelyb

A thanio moelydd mae eithin melyn;

—yr hyn a ddengys y gall prentis rai prydiau gael yr un llygedyn o ysbrydoliaeth â meistr.


Ond y wobr werthfawrocafa enillais i drwy ymchwil y blynyddoedd hyn oedd dysgu ymgydnabod å Natur yn amrywiaeth dihysbydd ei phrydferthwch : gwobr anhraethol fwy gwerthfawr na chadair a chlod am ei bod yn gyfoethogiad mewnol, ac yn mynd yn rhan o ddyn "nas dygir oddi arno."

Wrth gyfansoddi ar destun fel "Y Goleuni," yr oedd un oedd o ddifri, a'i galon yn y gwaith, yn cadw ei lygad ar y gwrthrych a ddisgrifiai. Cofiaf fy nhad yn cael difyrrwch mawr wrth ddarllen englyn o'r eiddof pan yn hogyn ysgol, i " Wawr" nas gwelswn erioed. Eithr pan ddaeth yr amser i mi fod wrth fy ngwaith am chwech o'r gloch y bore, cefais fantais i ymgydnabod â holl raddau gwawr a chysgod, a chyfoethogi fy nychymyg â'r profiad ohonynt. Gwir fod fy ngwerthfawrogiad ohonynt eto yn rhy arwynebol a chyfyngedig i'r arweddion mwyaf amlwg, ond yr oedd yn wir mor bell ag yr oedd yn mynd. Yr oedd hefyd yn fwy onest ac iach na'r ffasiwn bresennol o droi testunau naturiol yn lledrithiau meddyliol y gellir canu amdanynt heb ofn condemniad safon wrthrychol. Ac yn sicr, yr oedd yn well paratoad-gan eu bod yn waith yr un Awdur-ar gyfer y gyfathrach fwy ysbrydol à Natur a ddaeth i mi yn ddiweddarach, pryd y'm harweiniwyd

Heibio i degwch
At y Tegwch gwir ei hun.


Nodiadau[golygu]

  1. Elfed.
  2. Dr. Griffith Jones.