Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod IX
← Pennod VIII | Fy Mhererindod Ysbrydol gan Evan Keri Evans |
Pennod X → |
IX
PAN ddaeth diwygiad 1904—5, gwyddwn rywbeth, fel y dengys yr ysgrifau blaenorol, am nerthoedd ysbrydol fel pethau gwahanol o ran eu natur a'u heffeithiau i'r gwirioneddau deallol y bûm yn gyfarwydd â hwy; er hyn oll, pan ddechreuodd ei hanes ymddangos yn y papurau, ni wyddwn yn iawn beth i'w wneud ohono. Nid oeddwn yn gyfarwydd â hanes diwygiadau, hyd yn oed diwygiad 1859—60; yn unig clywswn gyfeiriadau ato, a rhai o'i nodweddion yn awr ac yn y man.
Fodd bynnag, teimlwn ddigon o ddiddordeb yn yr hanes a ddechreuodd ymddangos yn Nhachwedd, 1904, i'w ddarllen yn eiddgar, a'i ddarllen y peth cyntaf yn y papur dyddiol. Erbyn gwyliau Nadolig, 1904, yr oedd fy awydd i ddod o hyd i ryw egwyddor o unoliaeth yng nghymhlethrwydd yr hanesion a ymddangosai yn ddigon cryf i'm harwain i dreulio'r gwyliau i astudio'r mater, eithr nid drwy fynd i Forgannwg ar y cyntaf, ond i dawelwch Castellnewydd Emlyn; ac euthum o gylch llyfrgell y coleg y diwrnod cyn gadael i chwilio am lyfrau a'm helpai. Dywedais "chwilio ", er nad dyna'r gair iawn yn hollol, gan na wyddwn yn bendant am un llyfr a'm cynorthwyai. Ond yr oedd gennyf ryw fath o gred isymwybodol, er na wyddwn ddim am " arweiniad," yr arweinid fi rywsut at lyfr neu lyfrau o'r fath. Ac yn sicr, hynny a ddigwyddodd; o leiaf, gosodais fy llaw ar ddau lyfr a fu o help mawr i mi y pryd hwnnw, ac yn ôl llaw, sef Nature and the Supernatural gan Bushnell, a hen lyfr tua chanmlwydd oed, yn cynnwys hanes diwygiadau America a'r wlad hon yn y ddeunawfed ganrif. Dechreuais ddarllen y blaenaf yn ei ddiwedd, am mai yno yr oedd mwyafrif y ffeithiau y seilid damcaniaeth y llyfr arnynt, neu ynteu a eglurebai y ddamcaniaeth. Eto y prif wasanaeth a roddodd y gyfrol i mi oedd fy arwain at yr awdur a'i weithiau eraill, a fuont i mi yn drysordy o ddoethineb a gwelediad ysbrydol yn ddiweddarach. Am y llyfr arall ar hanes yr hen ddiwygiadau, gellir casglu sylwedd y cyfarwyddyd a gefais ynddo i un frawddeg a ddigwydd ynddo droeon ac a bwysleisir gan y sawl a'i hysgrifennodd, sef "Conviction is not conversion." Wedi dod yn ôl o'm gwyliau, deuthum o hyd i ddarlithiau Finney ar ddiwygiadau, a chael allan ei fod ef yn gosod awakening o flaen conviction, a baptism of the Holy Spirit ar ôl conversion. Fel hyn deuthum o hyd i linyn neu linell arweiniol drwy gymhlethrwydd y ffenomenau—llinell a barai fod y deall, y teimlad, y gydwybod, a'r ewyllys yn syrthio i'w lle, o leiaf yn ddeallol i mi.
Cofiaf yn dda fod tuedd ynof i ddisbrisio'r hanesion a gyhoeddid ar y cyntaf, a chael help i beidio â'u dibrisio nes cael praw i'r gwrthwyneb o ddau gyfeiriad annisgwyliadwy, sef Shakespeare a rhesymeg! Os gwir a ddywaid Shakespeare, "The devil can quote Scripture," dywedai fy mhrofiad i yr adeg hon, "The Spirit can quote Shakespeare," canys gwisgwyd y llinellau cyfarwydd
There are more things in heaven and earth, Horatio,
Than are dreamt of in our philosophy;
â nerth argyhoeddiad i mi; ac ar yr un pryd yr egwyddor a arferwn bwysleisio wrth ddysgu Rhesymeg Gasgliadol (Inductive Logic) yn y dosbarth: "Facts first, theories then "—un o'r ychydig droeon y bu rhesymeg dechnegol o help ymarferol i mi. Credaf mai'r pryd hwn, ac yna ymlaen i'r diwygiad, y deuthum i weld pwysigrwydd yr egwyddor hon mewn perthynas â diwinyddiaeth yn arbennig, mewn perthynas, er enghraifft, â phersonoliaeth yr Ysbryd Glân, ail-enedigaeth, gallu gweddi, etc.; ac i weld hefyd fy mod i fy hun wedi bod yn euog o seilio fy nghred ar ddamcaniaeth haniaethol, ac " esbonio ymaith" ffeithiau na chydgordient â hi.
Felly, i fod yn gyson, gwelais y dylaswn wneuthur praw ac ymweld â'r mannau yr oedd y diwygiad yn ei rym ynddynt. Yn unol â hyn, pan oedd gennyf ymrwymiad yn Ebeneser, Abertawe, a deall bod y diwygwyr yn y Pentre (Rhondda) y Sadwrn, euthum i fyny yno erbyn oedfa'r prynhawn. Nid oedd Siloh'n agos llawn, na'r cyfarfod i fyny ag eraill y darllenaswn amdanynt mewn grym a hwyl. Y peth a wnaeth fwyaf o argraff arnaf oedd gwaith merch ieuanc heb nemor ddim llais—yr oedd hi wedi ei dwyn at Grist yn ystod y diwygiad, a'i thanio â sêl i ennill eraill nes dihysbyddu ei hadnoddau nerfol a'i llais yn adrodd yr emyn, "There is a fountain filled with blood," etc., gydag effeithiolrwydd a barai i mi edrych heibio ei ystyr llythrennol a oedd ac y sydd yn destun beirniadaeth" doethion y byd hwn," a minnau yn eu plith. Yr oedd Bethesda yn yr hwyr yn orlawn ymhell cyn amser dechrau, ac felly cychwynnais am Abertawe drwy gerdded i orsaf Treorci. Nid wyf yn cofio bod dim wedi ei ddweud yng nghyfarfod Siloh i beri i mi feddwl am fawredd dwyfol yr Arglwydd Iesu, heblaw yr emyn uchod, ond cofiaf yn glir iawn mai dyna destun fy myfyrdod yn ystod yr amser y bûm yn cerdded i fyny ac i lawr llwyfan yr orsaf, mewn ymgais i amgyffred ei led a'i hyd, ei ddyfnder a'i uchder. Nid wyf yn cofio ai dyna fy nhestun yn Abertawe, ond arferai Mr. David Lloyd, Killay, a oedd yn ddiacon yn Ebeneser y pryd hwnnw, ddweud iddynt gael blaen adain y gawod yno'r Sul hwnnw. Ym Melincrythan, bythefnos yn ddiweddarach, y gwelais i effeithiau y nerth ysbrydol a wnâi gynulleidfaoedd yn gyfryngau iddo'i hun gyntaf. Dywedaf" gwelais " yn hytrach na teimlais," gan na theimlwn i fel y rhai a gymerai ran, niferi o fechgyn a merched, ond yr oeddwn yn gallu cydymdeimlo i fesur, a phlygu fy mhen dan yr ystormydd o fawl a gweddi a ysgubai drwy'r oedfa. "Dim ond emosiwn," meddai rhai beirniaid amddifad o brofiad a gwybodaeth feddylegol yr un pryd—yr olaf am y gwnâi meddyleg iddynt ystyried bod achos meddyliol i emosiwn, a'r blaenaf am y byddai'n eglur iddynt mai'r gwerthoedd a achosai emosiwn mawr y diwygiad oedd gwirioneddau yr Efengyl yn y ffurf o ganfyddiadau uniongyrchol. Nid oedd nemor sôn amdanynt fel erthyglau mewn cyfundrefn ddiwinyddol, ac nid oedd eisiau, gan eu bod yn sylweddoledig gan y saint symlaf, yn fara'r bywyd i gyfranogi ohono, yn hytrach nag yn bwnc i ddadlau yn ei gylch.
"Ysbryd y gwirionedd " a oedd yn weithgar yn y diwygiad a barodd i gantores ifanc na wyddai nemor ddim am ddiwinyddiaeth, ond a feddai ar fam dduwiol i ddatgan gorfoledd ei henaid yn emyn Hiraethog,
Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli,
a'i wneud yr un pryd—yr hyn na wyddai hi—yn brif fynegiad gwirionedd y diwygiad, ac yn brif gyfrwng ei foliant. Nid i bawb, yn ddiau ychydig, y mae'n debyg, a gyffyrddid yn ddwfn ac arhosol, tra y cyffyrddid ag eraill na fynnent roddi'r Engine-room i Grist yn ymylon eu natur yn unig.
"Ai ychydig yw y rhai cadwedig, Mr. Evans?" meddai'r Parch. Rees Morgan, Llanddewibrefi, wrthyf un prynhawn Sadwrn, gyda'm bod yn cymryd fy sedd yn ei ymyl yn y trên yng Nghaerfyrddin.
"Wel," meddwn innau, ar ôl munud o ystyriaeth, "y mae un mwy na mi wedi gwrthod ateb y cwestiwn yna yn bendant; pam 'rych chi'n gofyn ?" "Y mae gennym ni gwrdd gweddi undebol yn ardal Tregaron, ac yr oedd gennym un yr wythnos ddiwethaf, a chymerodd gwraig gyffredin ei dysg a'i gallu ran, ac os bu un yn ysbrydoledig erioed, teimlai pawb ei bod hi felly y nos honno. Y mae gennym henwr trigain oed, wedyn, sydd fel un o broffwydi'r Arglwydd ar y bryniau acw: y maent hwy'n amlwg—fel saint yr Eglwys fore y mae gennym hanes amdanynt yn yr Actau—yn gadwedig; ond beth am yr ugeiniau o aelodau eraill sy'n bobl dda hyd y gallwn weld, yn foesol eu buchedd, yn helpu cynnal yr achos, ond heb unrhyw brofiad ysbrydol arbennig?" Yr oedd hyn tua diwedd 1905, pan oedd y penllanw mawr yn treio, gan adael y llongau a oedd yn rhwym wrth y glennydd, neu ynteu, na chodasant eu hangorau o laid y byd, ar ôl.
Tua'r pryd hwn y galwyd fi i wasanaeth y diwygiad, neu, o leiaf, y rhoddwyd i mi gyfleusterau i fod o ryw wasanaeth. Dywedaf "galwyd " am na ddaeth i'm meddwl yn flaenorol y gallwn fod o un help yn yr amgylchiadau. Nid oeddwn yn bregethwr cyrddau mawr—dim ond tipyn o athro yn y pulpud fel yn y dosbarth; ond cefais fy ngwahodd i gyrddau i fyny ac i lawr y wlad a chyhoeddi'n bennaf, "Conviction is not conversion "—" "Nid yw argyhoeddiad yn droedigaeth "—ac ychwanegu "na deffroad chwaith eto yn argyhoeddiad." Bu'r datganiad hwn yn help i lawer, fel i mi fy hun yn flaenorol, ond yn fwy o help ymarferol iddynt hwy; oblegid yr oedd lluoedd o fechgyn a merched wedi bod ar frig ton o orfoledd am yn agos i flwyddyn, a phan oedd y gorfoledd yn pallu yn ceisio ei adfeddiannu yn gelfyddydol, heb deall bod yr Ysbryd Glân am fynd drwy'r dychymyg a'r emosiwn at y gydwybod i gynhyrchu argyhoeddiad, a thrwy'r gydwybod ar yr ewyllys i arwain i droedigaeth. Ymhlith mannau eraill, cofiaf yn dda am gyfarfod ym Mrynteg, Gorseinon, a anerchid gan y Parch. W. W. Lewis a minnau, a degau o bobl ieuainc ar yr oriel yn aros ar y diwedd i'w cyflwyno eu hunain i Grist, ac wedi eu cyflwyno eu hunain yn adfeddiannu'r llawenydd a gollasant, a mwy. Y maent yn aros hyd heddiw yn hardd a gwasanaethgar gydag achos eu Harglwydd.
Nid pawb, o gryn lawer, oedd yn barod i ufuddhau, a gwneud hunanfoddhad canu yn iswasanaethgar i ufudd-dod. Y canlyniad a fu iddynt golli hwyl canu ysbrydol maes o law. "A gymrwch chi lwmp arall o siwgr yn eich tê, Mr. Evans, i gael gweld a ellir melysu ychydig arnoch ?" meddai Mrs. Bowen, Penygroes, wrthyf un tro, pan oeddwn wedi bod yn pregethu ar " ffrwythau'r Ysbryd," a phwysleisio'r angen am ddwyn ffrwyth. Dynes ragorol oedd hi, ond ar y pryd yn mwynhau nofio mewn cariad a hedd." Dichon fy mod innau wedi bod yn annoeth, a thorri ar draws neu fynd yn erbyn llif llawenydd y cwrdd. Nid pawb oedd yn gwrthwynebu mewn dull mor gwrtais. Credaf mai'r tipyn gwasanaeth a ellais ei roddi ar y llinellau hyn oedd mewn golwg gan y Parch. Dyfnallt Owen pan ddywaid (yn llawlyfr yr Undeb yng Nghaerfyrddin): Galwyd ef yn bennaf i efengylu, a gwasanaethodd ei genedl yn arbennig trwy gyfeirio dylanwad diwygiad 1904—5 i diriogaeth y gwir fywyd ysbrydol."
Wedi i mi bregethu yng nghapel yr Annibynwyr yn Llandrindod ar y Sul cyn y Convention un flwyddyn, daeth boneddwr ymlaen ataf a gofyn, "A ydych chwi'n nabod rhywrai eraill yng Nghymru sy'n pregethu Crist, ac nid pregethu pregethau ?" Yr oedd y cwestiwn yn newydd a dieithr i mi, ond wedi gweld ei bwynt enwais nifer o'r cwmni a fu yn Keswick y flwyddyn honno.
Mr. W. P. Roberts, Llundain, oedd y gŵr hwn, un a dderbyniodd fendithion ysbrydol arbennig ei hun, ac a ddymunai ddangos ei ddiolchgarwch drwy ddefnyddio rhan o'i gyfoeth i'r amcan o arwain "plant y diwygiad" drwy Gymru i brofiad dyfnach o ras Duw, drwy drefnu conventions mewn trefi ac ardaloedd poblog, pe le bynnag y byddai drysau'n agor. Cynhaliwyd degau o'r cynadleddau hyn, a barhaent fel rheol am dri neu bedwar diwrnod, ambell waith am wythnos, yn Ne a Gogledd Cymru, a chafwyd tystiolaethau lawer i'r bendithion a dderbyniwyd gan bobl ymchwilgar a disgwylgar ynddynt. Bûm yn y rhan fwyaf ohonynt gyda phedwar arall (yn bennaf), sef y Parchn. W. W. Lewis, W. S. Jones, R. B. Jones, ac O. M. Owen. Ni wn paham y dewiswyd y rhai hyn yn hytrach nag eraill, ond gwelir eu bod yn cynrychioli'r tri enwad, ac yr oeddynt hefyd yn gyfarwydd â siarad yn y ddwy iaith, yr hyn oedd yn fantais os nad yn anghenraid. Nid oedd y gair team mewn bri yn grefyddol eto, ond yn sicr yr oeddem yn team" delfrydol ymron, os perffaith unoliaeth mewn amrywiaeth sy'n gwneud team. Yr oeddem oll mor llawn o'r un ysbryd, mor ufudd i'r un Meistr, ac ym mhob oedfa yn ceisio yr un amcan, a hwnnw'n amcan tu allan i ni ein hunain, fel y bu perffaith gytgord rhyngom yn ystod blynyddoedd y cynadleddau. Nid aem ag amser ein gilydd, ond os digwyddai bod arddeliad neilltuol ac amlwg ar genadwri un siaradwr, yr hyn a wnâi'r ail fyddai cymhwyso ei gwers neu ei gwersi mewn anerchiad byr a phwrpasol. Cyfnod "symlrwydd tuag at Grist" oedd y cyfnod hwnnw—yn ddiweddarach daeth cymhlethrwydd ffyndamentaliaeth i rwystro'r hen gydweithrediad er nad i ddinistrio'r hen gyfeillgarwch yn y dwfn.
Un o gynhyrchion eraill y diwygiad y bu i mi ryw berthynas ag ef oedd "Cerbyd yr Efengylydd," cerbyd a âi o gylch y wlad â chenhadwr ynddo i bregethu Crist yn yr awyr agored. Ai un o'r pump uchod, ac eraill yn eu tro, i helpu'r cenhadwr am tuag wythnos —weithiau am bythefnos, pan fyddai cynnydd y cynulleidfaoedd yn gofyn am hynny. Felly y bu, 'rwy'n cofio, yn Nhregaron: ni wyddai preswylwyr y conglau pellaf am y cerbyd ar y cyntaf, ond cyn diwedd yr wythnos aeth y sôn i'r bryniau, fel gynt "dros fryniau Dewi," fel ag i ddwyn cymanfa at ei gilydd erbyn nos Sul, a gofyn i'r cerbyd aros wythnos yn hwy. Un noson a fwriadem ei rhoddi i Aberarth ar ein ffordd i Aberaeron, ond bu raid inni aros dros nos Wener; a'r nos honno—noson braf yn naturiol ac ysbrydol—wedi diweddu'r oedfa, yr oedd fel pe buasai to anweledig wedi dod i'n cysgodi, ac ni fynnai'r bobl ymadael, fel y bu raid inni gael seiat—seiat a agorwyd gan hen wraig 80 oed o Lannon, a ddaethai at Grist yn niwygiad 1859—60.
Ni chaem un tâl drwy gynhadledd na cherbyd, ond llety a bwyd—a thâl y Tad mewn llawenydd a thangnefedd na all aur ac arian eu prynu.
Aeth y llanw â mi i ffwrdd oddi wrth gysylltiadau coleg ac eglwys o leiaf, yr oedd fy eglwys yn caniatáu i mi lawer iawn o ryddid ar yr amod fy mod yn rhoi cyfran o'm gwasanaeth iddi hi. Nid oedd ball ar bregethau ar gyfer oedfaeon a chenadaethau; diflannodd ofn "gwywdra meddyliol" fel lledrith nos. Yr oedd y pregethau o leiaf yn fyw—yn tyfu fel planhigion byw yn hytrach na chael eu hadeiladu fel tai neu eu gwneuthur fel byrddau. Mynnai rhai o'm cyfeillion, Rhys J. Huws yn arbennig iawn, i mi eu cyhoeddi, ond er i mi gael cynnig da gan firm adnabyddus, ni wneuthum. Drwg gennyf hynny yn awr, gan eu bod wedi mynd o'm cof, o ran eu manylion, ag eithrio dwy neu dair.
Y mae digon wedi ei ddweud i ddangos bod llwybr fy mhererindod yn ystod y blynyddoedd ar ôl y diwygiad yn mynd â mi drwy leoedd hyfryd iawn, ar ben y bryniau yn aml, ac yna i borfeydd gleision ar lan dyfroedd tawel.
Ni allaf fesur nac angyffred dylanwad y blynyddoedd hyn arnaf, er y bydd yn rhaid i mi gyfeirio ato yn y bennod nesaf; ond y mae rhai pethau a ddysgais ynddynt yn sefyll allan yn eithaf clir yn fy meddwl; er enghraifft, dysgais fod yr Iddew deddfol am groeshoelio'r Crist grasol o hyd; mai peth anodd iawn yw deffroi dyn deddfol, sy'n rhwym mewn ffurfiau a dogmâu; mai anos fyth yn aml yw cael gan ddyn deffroedig i blygu ei ewyllys i Dduw; ac mai'r prif rwystr i ufudd-dod ar ran plant ysbrydol—fel y dywaid Paul, John Wesley a Phantycelyn—yw balchder, gwag-ogoniant. Gwelais hefyd fod yr "hen ddyn" mor hagr mewn gŵn academig ag mewn corduroy, a Christ mor hardd mewn corduroy ag mewn gŵn academig.