Neidio i'r cynnwys

Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod V

Oddi ar Wicidestun
Pennod IV Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

Pennod VI

V

NID yw llwyddiant academig, mwy na llwyddiant bydol, yn ddangoseg o gynnydd ysbrydol-yn yr ystyr gyfyng i'r gair-a gall beidio â bod yn ddangoseg ohono yn yr ystyr eang, am nad yw arholiadau bob amser yn braw teg, annibynnol ar amgylchiadau digwyddiadol neu bersonol. Bûm i'n dra llwyddiannus gyda'm haroliadau athronyddol, am fod athroniaeth yn awr wedi mynd i'm gwaed, a'r prif arholwr yn gwerthfawrogi atebion a oedd â gwreiddyn y mater ynddynt, ac unrhyw awgrym o wreiddioldeb. Er nad oeddwn yn gwbl ddi-gryn wrth eistedd wrth y bwrdd, ar ôl ysbaid fer yr oeddwn fel rheol yn gallu setlo i lawr i ysgrifennu'n rhydd, mewn anghofrwydd o bopeth ond y testun. Nid mater o drosglwyddo i bapur bethau a oedd gennyf yn fy nghof ydoedd o gwbl, ond o'm mynegi fy hun mewn geiriau cymwys (ac y mae'n hynod mor gymwys y daw'r geiriau pan fo dyn " yn yr hwyl ").

Yr oedd blwyddyn fy nychweliad o Germani hefyd yn flwyddyn cystadleuaeth y "George A. Clark Fellowship" mewn Athroniaeth yn y brifysgol. Rhoddir hi bob pedair blynedd, ac y mae ei hennill yn uchafbwynt uchelgais athronyddion ieuainc. Mynnai fy nghyfeillion i mi gystadlu, ac nid yw ond iawn cyffesu nad oedd eisiau llawer o anogaeth arnaf. Wedi ei hennill, a'm gwahodd i fod yn gynorthwywr i Caird, yr oedd y demtasiwn i barhau yn llwybr dysg yn gryfach na'r alwad i'r gwaith mwy ; ac arhosais yn Glasgow. Rhwng popeth, yr oedd yn well arnaf yn fydol nag y bu na chynt na chwedyn.

Ynglŷn â'r gymrodoriaeth hon, yr oedd gennyf bedair darlith i'w traddodi o flaen y brifysgol, ac yna i'w cyhoeddi'n llyfr, ar destun a oedd i'w gymeradwyo gan yr awdurdodau. Y testun a ddewisais, ac a gymeradwywyd, oedd "Ffydd a Gwybodaeth." Dewisais y testun am ei fod yn rhoddi i mi'r canolbwnc gorau y gallwn drefnu'r golygiadau a oedd wedi dod imi yn ystod y tair blynedd blaenorol o'i gylch. Byddai paratoi'r darlithiau felly'n waith cymharol rwydd a phleserus. Yr oedd gennyf ddigon o ddefnyddiau. Ar âl i mi ennill fy ngradd, a chael fy nhraed yn rhydd i fynd i borfeydd eraill, cefais fod llawer o syniadau ac awgrymiadau newydd yn ymgynnig i'r meddwl y dylaswn wneud cofnodiad ohonynt. "Y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun": y mae'r un peth yn wir am y meddwl, y meddwl ieuanc yn neilltuol. I gadw'r syniadau a ddeuai imi ar glawr, mabwysiedais y cynllun o gario note book bychan yn wastad yn fy llogell.

'Rwy'n cofio cael ysbeidiau mor hyfryd yn y trên ag a gawswn ar lan Teifi, am fy mod yng nghwmni'r un syniadau, neu berthnasau iddynt. Byrhawyd y ffordd i Glasgow imi o ddegau o filltiroedd lawer tro drwy drafaelu yn stratosphere yr ysbryd, uwchlaw amser a lle. Trodd y lleoedd unig, anial, rhwng Lloegr a'r Alban, lawer tro felly'n fannau poblog iawn.

Cyn i mi allu traddodi—nac, yn wir, baratoi—y narlith gyntaf, cefais fy apwyntio i gadair Athroniaeth yng Ngholeg Bangor, gyda'r canlyniad i mi orfod rhoddi'r gymrodoriaeth yn Glasgow i fyny, a chael fy rhyddhau o draddodi'r pedair darlith. Eto yr oeddynt yn fy meddwl, ac ni feddyliais lai na chael hamdden i'w hysgrifennu a'u cyhoeddi ym Mangor. Ond yn ofer, gan nad oedd gennyf adnoddau nerfol digonol i wneud mwy na llanw fy swydd fel athro yn y coleg. Y gwir yw, imi fod yn tynnu ar yr adnoddau hyn yn ddiorffwys am ddeng mlynedd, heb gymryd gwyliau yn yr ystyr gyffredin o gwbl. Nid oeddwn heb gymryd ymarferiad mewn cerdded, nofio, pysgota a seiclo yn rheolaidd, eithr heb ymddihatru o'm gwisgoedd gwaith meddyliol. Yn ddiweddarach darllenais yn llyfr Dr. Schofield, For Christian Workers, y dylai gweinidog, er enghraifft, roddi'r drydedd ran o bob dydd, y seithfed ran o bob wythnos, a'r ddeuddegfed ran o bob blwyddyn, i seibiant hollol mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Gwn fod rhai o'm cydathrawon yn mynd i ffwrdd i fynyddoedd y Swistir a mannau eraill, lle na allai papur newydd hyd yn oedd eu cyrraedd. Ond ni fûm i yn ddigon call i wneud hyn.

Heblaw hyn, yr oedd awyr Bangor y fwyaf relaxing a anedlais erioed. Ni fuaswn wedi gallu gwneud fy ngwaith fel athro hyd yn oed, oni bai fy mod yn mynd i Fethesda fel rheol bob wythnos, i ddringo'r mynyddoedd gydag Adams ac eraill, a dod yn ôl wedi fy adnewyddu. Wedi traddodi fy narlith (dwy deirgwaith yr wythnos) yn y bore, nid oeddwn yn dda i ddim ond i orffwys ar yr esmwythfainc a'm paratoi fy hun felly ar gyfer y ddarlith arall drannoeth.

Yr oedd y darlithiau hyn hefyd yn golygu mwy o waith i mi am eu bod â'u bwriad y pryd hwnnw i baratoi myfyrwyr ar gyfer arholiadau Prifysgol Llundain, ac fel y cyfryw yn fwy meddylegol na metaffysegol. Yr oedd yn angenrheidiol, felly, i ymgydnabod â'r llyfrau diweddaraf ar feddyleg; yn wir, nid oeddwn yn gyfarwydd iawn â'r llyfrau a oedd yn adnabyddus eisoes ar y testun, gan mai ychydig le a gaffai yn Glasgow. Ai yr angen am roddi cymaint o'm hamser i un testun yn llai a llai gyda threigl y blynyddoedd, a chawn innau gyfle i roddi rhan ohono i "Ffydd a Gwybodaeth," ond ni ddaeth i hyn yn ystod fy arhosiad ym Mangor.

Wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd hyn, ymddangosant i mi mor " ddrwg yr olwg, a chul o gigi ag oedd y blynyddoedd blaenorol yn Glasgow o" deg" a thew". Ac eto, nid oeddynt yn gwbl anffrwythlon. Efallai, hefyd, eu bod yr hyn oedd eisiau arnaf i ddarostwng y " tewdra " myfiol a ddaw gyda llwyddiant rhy gyson. Cefais gryn bleser wrth feistroli testun newydd, neu yn hytrach arweddau newydd arno, ac eilwaith wrth gyfrannu o'r hyn oedd gennyf i fyfyrwyr galluog a derbyngar. Nid wyf yn cofio i un ohonynt fethu yn ei arholiad. O leiaf, gwneuthum fy ngorau dan yr amgylchiadau. Ac ni ŵyr neb ond mi fy hun pa mor anffafriol oedd yr " amgylchiadau." Euthum i golli fy nghwsg, a cholli fy ynni. Ni fwynhawn y bywyd cyfoethog gynt. Yr oedd "llif athroniaeth" yn treio'n gyflym, a phan ddaeth storm o wyntoedd croes anghyffredin i guro ar fy nghwch bach, bu'n dda gennyf ddianc i " gilfach â glan iddi" yn y weinidogaeth.

Bu'r ddisgyblaeth yn werthfawr i mi fel gweinidog: deuthum i gyswllt â gwahanol fathau o gymeriadau —y gwleidydd, y cyfreithiwr, yr ysgolhaig. Gwelais y gwahaniaeth rhwng diwylliant y deall a diwylliant ysbryd a chalon, a bod " mawrion byd " yn sefyll ar y pegwn cyferbyniol i fawredd teyrnas Dduw.

Nid oedd newid y cwrs—er mai dyfod yn ôl i'r cwrs dechreuol a wneuthum—ar y pryd yn hyfryd, eithr yn anhyfryd, ond byddaf yn ddiolchgar byth am yr amgylchiadau—efallai y dylwn ddweud "arweiniad " —a'm dug yn ôl, am na chymerwn holl gadeiriau athroniaeth y byd am y profiad a ddaeth i mi yn ôl llaw. Nid na all athro athroniaeth fod yn Gristion trwyadl, ond y mae lle i ofni y buaswn i, cyn i mi eto gael fy ngwneud yn gydostyngedig â'r rhai iselradd, yn edrych i lawr ar nerthoedd yr oes a ddaw fel yn anghyson â'r oes olau hon, a safle athro ynddi.

Y pryd hwn yr oedd gennyf gyfaill o gyfreithiwr, a ddymunai i mi fynd i mewn am y gyfraith (yn hytrach na gweinidogaeth gras), ac uno ag ef, a chymryd at ochr ddadleuol (advocacy) y busnes. 'Rwy'n cofio cael fy atynnu gan hyn, ac 'rwy'n cofio'r fan ar stryd Castellnewydd pan ddaeth dylanwad tyner fel llaw esmwyth i'm cadw rhag ymateb i'r demtasiwn honno. Dyna'r unig arweiniad goddrychol a gefais i gyfeirio fy nghamau y pryd hwnnw. Daeth yr arweiniad gwrthrychol drwy fod eglwysi Hawen a Bryngwenith, heb unrhyw geisio na disgwyl ar fy rhan i, yn fy ngwahodd i fynd yn weinidog arnynt. Pan ddaeth i'm clustiau fod bwriad felly ar droed, gofynnais iddynt ymbwyllo a rhoi amser i mi ystyried y mater yn gyntaf, gan nad oeddwn am dynnu galwad a'i gwrthod wedyn. Ond ni chydsyniasant â hyn.

Nodiadau[golygu]