Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod VI
← Pennod V | Fy Mhererindod Ysbrydol gan Evan Keri Evans |
Pennod VII → |
VI
(a)
GEILW Hegel grefydd yn diriogaeth fwyaf mewnol yr ysbryd. Gallasai ychwanegu crefydd wir, gan fod allanol a mewnol yn perthyn i grefydd ei hun. Yn y diriogaeth hon y bydd fy mhererindod i o hyn ymlaen, a'i hymgais i dorri drwy len yr allanol i'r mewnol. Gan nad ymdriniais â'm bywyd crefyddol yn uniongyrchol hyd yn hyn, gwell i mi yn y fan hon roi bras olwg arno hyd adeg fy sefydliad yn Hawen.
Fe ddaeth un llygedyn o'r mewnol i mi'n fore iawn, mewn sylweddoliad byw anghyffredin o wynfydedd y bugeiliaid ar y Mynyddoedd Hyfryd (Delectable Mountains) yn Nhaith y Pererin—llygedyn na buaswn yn cyfeirio ato oni bai iddo aros yn ei ddisgleirdeb am flynyddoedd maith, a bod ei ôl—lewych yn parhau o hyd. Ymddengys fel deffroad categori "Y Nefol ynof. Ag eithrio hyn, a rhyw deimlad o ddwyster neilltuol wrth ymaelodi yn y Drewen (er, yn sicr, na ddeallwn lawn ystyr yr hyn a wnawn), rhedeg ymlaen yn dawel ac undonog a wnâi fy mywyd crefyddol, ochr yn ochr â bywyd mwy mwyfus a brwdfrydig barddoni, hyd ugain oed. Ag eithrio fy mhregeth gyntaf oll, yr hon oedd yn dra sobr a "chynnil," "barddonol" i raddau gormodol oedd fy mhregethau cyntaf. Ar derfyn dwy flynedd yn y coleg, fodd bynnag, torrodd ton o frwdfrydedd moesol ar fy ysbryd; o ba le neu sut y daeth ni wn, ond parodd i mi ymwrthod â'r hen bregethau ar "Nef a daear a ânt heibio," etc., a phregethu ar destunau fel "Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith, ac ymlanhewch a golchwch eich dillad," etc., "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain drwy ofn a dychryn."
Er i mi glywed prif bregethwyr Cymru o bob enwad yn ystod y blynyddoedd hyn (1874-80) yn Nhrewen, ac yn fwyaf neilltuol yng nghyrddau arbennig Castellnewydd, nid wyf yn gallu galw i gof i'r un ohonynt gyffwrdd â'm cydwybod. 'Rwy'n cofio'r Dr. Owen Thomas yn apelio'n bendant iawn at eneth (a alwai yn "ti ") ar yr oriel ym Methel, ond ni ddoi ei apêl yn agos ataf i. Nid beirniadu'r pregethu a wnaf yn fwy na mi fy hun, a'r ymagweddiad at bregethu a oedd mewn bri. Aem i'r oedfa am hwyl a huodledd, ac os caem y rheiny tybiem fod amcan addoli wedi ei gyrraedd. Diau, serch hynny, ei bod yn wir, hefyd, nad oedd mwyafrif y pregethwyr poblogaidd yn amcanu cymaint at argyhoeddi neb ag at drafod y testun yn feistraidd a hwyliog a chael "amser da."
Bu raid i mi newid fy osgo at y gwirionedd pan euthum i'r Alban, a'i glywed o enau Henry Drummond. Mewn ffordd esmwyth a didramgwydd, a diarwybod ar y cyntaf, cefais fod y gwirionedd yn fy marnu i, a bod fy marn i am fedr neu hwyl y siaradwyr yn beth dibwys ac amherthynasol, a hawliau'r gwirionedd ar fy ufudd-dod i yn bopeth. Credaf yn sicr i Ragluniaeth fy arwain i Glasgow, nid yn gymaint i ddysgu athroniaeth wrth draed Caird, ag i glywed yr Efengyl o enau Drummond. Felly yr ymddengys i mi yn awr. Eto, rhaid i mi gyffesu i mi gael mwy nag y breuddwydiais amdano erioed gan y naill a'r llall. Yr hyn a deimlai un anghyfarwydd gyntaf wedi mynd i mewn i un o gyrddau Drummond oedd, nid presenoldeb y cannoedd myfyrwyr a oedd yn bresennol, ond yr awyrgylch ddieithr, hyfryd-newydd, "gwbl arall" a barai inni weld y myfyrwyr a phawb mewn medium newydd. Yr oeddwn yn gyfarwydd ag awyrgylch wresog cyfarfodydd hwyliog Cymru, ac wedi teimlo dylanwad areithyddiaeth huawdl Herber, Ossian, ac eraill. a thywallt dagrau'n hidl wrth wrando ar ddisgrifiadau ac apeliadau Plenydd ; ond yr oedd awyrgylch cyfarfodydd Drummond yn rhywbeth digyffelyb, ac fel yn mynd â'r ysbryd allan o'r byd i'w gynefin. Geilw Finney yr awyrgylch a greir gan yr Ysbryd Glân yn awyrgylch toddawl melting atmosphere—disgrifiad cywir o safbwynt yr effeithiau a gynhyrchir, ac ochr wrthrychol yr ystad a ddisgrifiai'n tadau yn yr ymadrodd, "ystad dyner o feddwl" (a tender frame of mind).
Yr oedd awyrgylch cyrddau Drummond felly, ac yn gyfaddas iawn i'r geiriau o ras a gwirionedd a ddeuai dros ei wefusau ef. Rhoddodd inni y rhan fwyaf o'i anerchiadau cyhoeddedig yn y cyrddau hynny. Y maent yn hyfryd i'w darllen, ond nid mor hyfryd ag oeddynt i wrando arnynt, gan fod y bersonoliaeth hawddgar, heulog, ddidwyll, gyfeillgar a'u traddodai yn absennol, er bod peth o'r perarogl eto'n glynu wrthynt i'r rhai a'u clywodd. Hyd yn oed y pryd hwnnw yr oedd rhai o geidwaid yr athrawiaeth ymhlith y myfyrwyr—dan arweiniad highlander Calfinaidd ar ei ôl ; a bu yntau yn ddigon mawr i ddyfod i gyfarfod o'r myfyrwyr i ateb eu cwestiynau ac esbonio ei safle. Ar y diwedd cafodd amryw ohonom ein symbylu i ddwyn tystiolaeth i'r da mawr a gawsom yn ystod y gaeaf. 'Rwy'n cofio i mi derfynu drwy ddweud fy mod wedi derbyn an inspiration that will carry me through life, a chael gair o ddiolch caredig ganddo ef.
Gesyd y gair inspiration allan yr hyn a deimlwn; llanwyd â bywyd ac ysbrydoliaeth y geiriau a'r gwirioneddau crefyddol yr oeddwn o'r blaen yn gyfarwydd â hwy. Yn iaith Thomas Goodwin, aeth y geiriau yn bethau. h.y., yn hanfodion rial. Dygwyd Crist o'r gorffennol ac o'r cymylau i fod yn Berson byw presennol ac yn gydymaith i ni ar ffordd bywyd.
Yn ystod yr haf dilynol cefais fod y llen oedd rhyngof a dwyfoldeb Natur (gwel. Pennod IV), ac, yn wir, rhyngof a gwir werth ysgrifeniadau'r saint—pregethau F. W. Robertson er enghraifft,—wedi ei thynnu ymaith. Yr oeddwn wedi darllen yr olaf o'r blaen ond heb brofi eu blas na gweld eu gwerth yn llawn.
Ni pharhaodd cyrddau Drummond ar ôl gaeaf 1885-86, a bu raid i'r ŵyn ieuainc a arweiniodd ac a borthodd fodloni ar borfa lai iraidd, neu ynteu chwilio am flewyn glas yma a thraw. Dengys fy ail ymgysegriad yn 1887 fy mod yn teimlo'r angen. Arferwn fynychu capel Dr. Hunter yn y bore, lle y caem wasanaeth defosiynol o'r radd uchaf, ac yna draethiad huawdl ar ryw bwnc o grefydd neu foes, ond yr oedd yn rhy debyg i'm gwaith beunyddiol i'm hatynnu eilwaith yn yr hwyr. Byddai'r Prifathro Caird yn pregethu yn awr ac yn y man yn y prynhawn yng nghapel y Brifysgol, a lluoedd yn tyrru i'w wrando. Ar ddiwedd y gwasanaeth teimlwn fel un wedi bod yn gwrando ar organ fawr yn canu. Trafod rhyw wirionedd yn gyffredinol a wnâi ef, fel Hunter a'r rhelyw o bregethwyr y ddinas. Dygent ni i berthynas ddeallol â Christ, ac yn y fath gyflwyniad ohono fe âi yn bwnc i'w ddirnad ac nid yn berson i ddod i berthynas o ffydd ag ef, fel yng nghyflwyniad Drummond.
Tebyg oedd pethau yng Nghymru pan awn yno ar fy ngwyliau, ac ym Mangor yn ddiweddarach. Ar waetha'r cwbl, ni phallodd fy niddordeb mewn llenyddiaeth grefyddol a diwinyddol. Yr oedd rhai llyfrau'n neilltuol, megis eiddo Horton, yn dod ag awyrgylch cyrddau Drummond, neu yn hytrach yr elfen bersonol brofiadol a oedd ynddynt, yn ôl. Ochr yn ochr â'm hastudiaeth athronyddol parheais i ddarllen llyfrau diwinyddol a phregethu pan ddoi'r alwad, fel nad oeddwn yn hollol amharod pan gychwynnais ar fy ngweinidogaeth yn Hawen a Bryngwenith.
(b)
Y mae Brynhawen, tŷ gweinidog Hawen a Bryngwenith, yn sefyll ar fan uchel, iach, ond unig. Nid oes dim ynddo yn atyniadol i un sydd â'i ddiddordeb mewn bywyd yn dibynnu ar amlder pobl. Eto, mentrodd merch ieuanc o ganol tref ddod i fyw ynddo gyda mi ; ac yn y man ffodd yr unigrwydd ymaith, a daeth y tŷ llwyd ac unig yn gartref annwyl a swynol. Yr oedd gardd wrth y tŷ a alwai sylw ati ei hun, ac yn fuan aeth hithau yn lle o ddiddordeb meddyliol yn gystal ag ymarferiad corfforol. Nid oedd wedi cael llawer o driniaeth ers blynyddoedd, ac atebodd yn galonnog i'r diwylliant newydd. Yr oedd pobl yr eglwysi hwythau agos yn un i wneuthur y cylchfyd tymhorol yn hyfryd, a rhai o'r cymdogion yn arbennig, yn rhyfeddol o garedig. Nid oedd y gwaith yn anghyson â'r gorffwystra nerfol y crefwn amdano; ac ar ben dwy flynedd yr oedd fy ymarferiadau garddol, ynghŷd â'r teithiau ar draws gwlad, ac awyr iach y bryndir, a bwyd iach y wlad wedi adnewyddu fy nerth a dwyn fy nghwsg yn ôl i raddau helaeth.
Dyna'r ochr dymhorol, ac yr oedd hon yn bwysig i mi ar y pryd. Gyda golwg ar yr ochr grefyddol, cefais, fel y tybiwn, ganfyddiad meddyliol clir o natur gwaith yr eglwys, sef, nid gwneud ysgolheigion na diwinyddion, ond gwneud dynion. Un o'm testunau cyntaf oedd, "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef," a gellir edrych ar yr adnod hon fel yn taro nodyn fy ngweinidogaeth tra fûm yno. Dyna lle'r oeddwn i fy hunan, a dyna eu heisiau hwythau yn yr eglwysi, fel y gwelaf yn awr. Er bod fy mlaenoriaid wedi bod yn egluro'r delfryd Cristnogol iddynt gyda gallu ac ymroddiad mawr, y mae'n hynod mor annelwig ydoedd yn eu meddwl a'u bywyd. Y mae yr un o hyd, a'r un ym mhob man, ac yn debyg o barhau, ac am y rheswm hwn yn unig y gellir cyfiawnhau pregethu llawer o'n gweinidogion ifainc; gobeithio y derbyniant yr un golau ag a ddaeth i mi yn ddiweddarach.
Yn adeg y diwygiad y darganfûm i weithiau Dr. Bushnell a'i hanes, a chael allan fy mod yn pasio drwy argyfyngau tebyg i'r eiddo ef o ran ansawdd ac amser. Wedi dod allan i oleuni cyfiawnder y Deyrnas yn ddyn ieuanc, a gadael y gyfraith am bregethu, fe'i cadwyd ef i bregethu cyfiawnder am tuag ugain mlynedd, ac yna dihuno un bore a dweud wrth ei briod fod y goleuni wedi dod y buont yn disgwyl amdano fel gwylwyr am y bore. Nid oeddwn innau'n fodlon ar gyflwr crefyddol yr eglwysi nac ar fy nghyflwr fy hunan, ac am hynny'n ddisgwylgar ac ymchwilgar. Y mae yr argraff a wnaeth profiad un Sul arnaf yn dwyn hyn i'm cof yn glir iawn. Yr oeddwn wedi bod yn pregethu yn Llechryd, ac yn dychwelyd mewn cerbyd, heb neb gyda mi, gyda glan Teifi. Teimlwn yn flin a siomedig ar waith y dydd, er fy mod wedi treio cyflwyno'r gwirionedd fel yr ymddangosai i mi, a thaflwyd fi yn ôl arnaf fy hun i amau fy mherthynas â Duw. Yn union wedi gadael y pentref rwy'n cofio fy holi fy hun fel hyn: "Onid yw yn bosibl i mi gael sicrwydd o Dduw a'r byd ysbrydol, fel yr un sydd gennyf o'r byd hwn, o'r coed yma sydd ger fy mron yn awr ?" Ac ateb—fel athronydd—fel hyn: "Nac yw, y cwbl allaf wneud yn bresennol yw credu ynddynt, ac ymgyfaddasu iddynt fel ag i ffurfio cymeriad â'm galluoga i'w mwynhau wedi gadael y ddaear." Fe wêl y darllenydd fod y cwestiwn yn llawer gwell na'r ateb. Yr oeddwn am berthynas fwy uniongyrchol â Duw nag a feddwn, ac yn ateb fel athronydd agnosticaidd. Eithr nid i chwilio ateb i'r cwestiwn hwn yr euthum i Gaerfyrddin.
Wedi adnewyddu fy nerth i fesur dylaswn fod wedi setlo i lawr i ddechrau ysgrifennu'r llyfr a oedd o hyd yn fy meddwl, ond ni wneuthum. Gan fy mod yn arholwr mewn athroniaeth (am y radd o M.A.) yn Glasgow, parhawn mewn cyswllt â syniadau athronyddol. Ond aethai garddwriaeth â'm bryd, a thueddai i fynd â mwy na'i rhan o'm hamser. Paratown fy mhregethau, a darllenwn gryn lawer o lenyddiaeth grefyddol a diwinyddol, fel mater o bleser yn gystal ag o ddyletswydd, ac yna rhoddwn fy oriau hamdden i'r ardd a llenyddiaeth garddwriaeth. Fel hyn, pan basiodd y trydydd haf, a minnau heb roddi pin ar bapur, cefais ofn gwywdra meddyliol. Pan oeddwn yn athro ym Mangor, a threulio'r Sul—fel y gwnawn yn aml—ym Methesda, dygwyd fi i gyffyrddiad â hen frawd annwyl a bregethai weithiau ym Methesda yn y bore, yn unol â'r drefn yno o newid pulpudau, ac na wnâi ddirgelwch o'r ffaith (a oedd yn amlwg i bawb) nad oedd ganddo ddim i'w bregethu. Yr oedd wedi bod yn boblogaidd iawn, a chanddo barabl hylithr a dawnus, ac aeth i fyw ar hynny ac ar bregethau'r gorffennol, gyda'r canlyniad ei fod yn awr yn wyw ei feddwl; a pheth trist oedd ei weled a'i glywed yn treio codi hwyl a gweiddi " tali-ho " ar gefn rhyw stori. Cefais ofn gwywdra felly "cyn fy medd," ac yr oedd yn un o'm cymhellion i adael tawelwch y wlad am Gaerfyrddin. Fel mater o deimlad, nid oeddwn i na'r wraig am fynd. Yr oeddem yn eithaf hapus ym Mrynhawen. Nid oedd un atyniad i mi yn y Priordy y pryd hwnnw, ac nid euthum yno i bregethu gydag un breuddwyd am alwad. Yr oeddwn mor hoff o'm cartref fel y gwrthodwn fynd ymhell i bregethu, ac euthum i'r Priordy yn unig am ei fod yn weddol agos. Rhoddais bregeth ddirwestol gref y tro cyntaf, am y deallwn fod ei heisiau—ond nid i godi galwad! Ond pan ddaeth yr alwad, a gair cyfrinachol oddi wrth y Prifathro Walter Evans, y byddai eisiau fy help yn fuan yn y Coleg Presbyteraidd, gwelais fod cynhorthwy effeithiol yn cael ei gynnig imi i lorio bwgan y gwywdra meddyliol a ofnwn, ac y dylwn ei dderbyn. Ni chefais fy siomi yn effeithiolrwydd y cynhorthwy a gefais, pa un bynnag a oedd perygl o'r fath a ofnwn ai peidio. Credaf fod perygl, nid yn unig i mi, ond i bawb, i orffwys ar eu rhwyfau " yng nghanol y blynyddoedd."
Gall ymddangos i rywrai fy mod yn ystyried fy muddiannau fy hunan yn fwy nag eiddo'r eglwysi a'r achos wrth symud mor fuan. Ond ni fyddai hynny'n holl gywir, canys yr oedd y symudiad yn groes i'm teimlad, ac ystyriaethau eraill yn cynnwys barn fy holl gyfeillion o blaid mynd. Ni chredaf y gallwn newid dim ar y veterans a oedd yn Hawen na'r Bryn ped arhoswn hyd fy medd. Yr oeddynt wedi hen gau pen eu mwdwl, ac yn eu plith babau a oedd yn anffaeledig geidwaid llythyren yr athrawiaeth. Gyda golwg ar y bobl ifainc, cefais dros dair blynedd o gyfleusterau i egluro'r delfryd Cristnogol iddynt hwy o'r pulpud yn gystal ag mewn dosbarth moeseg a fu yn dra llwyddiannus. Pan ddeuthum i brofiad llawnach o wirionedd yr Efengyl fy hun, teimlwn yn fawr oherwydd y diffyg yn fy nghyflwyniad ohono yn ystod fy ngweinidogaeth yno, ac yn 1905 agorwyd ffordd imi i wneud i fyny i fesur am y ddiffyg mewn dull tra hynod. Estynnodd pobl ifanc Castellnewydd (o bob enwad) wahoddiad i mi i'w hannerch ar fater y diwygiad, am wyth o'r gloch un nos Sul ym Methel. Gan nad oedd fy eisiau yn y pulpud gartref, euthum i lawr nos Sadwrn, ac yn y trên cododd ynof ddymuniad cryf am gyfle i annerch pobl ifainc Hawen a Bryngwenith, ac yna ieuenctid y Drewen. Erbyn cyrraedd tŷ fy chwaer, yr oedd yno gennad o Fryngwenith yn gofyn i mi bregethu yno trannoeth, ac yn y man un o'r Drewen am i mi bregethu yno am chwech yr hwyr. Cefais fantais yn ddiweddarach i egluro " ffordd Duw yn fanylach" i eglwys Hawen.
Os pryder ynghylch fy nghyflwr meddyliol a aeth â mi i Gaerfyrddin, wedi mynd yno cefais fendith ysbrydol anhraethol fwy, nid am fod rhyngddi berthynas yn y byd â Chaerfyrddin, ond am mai yno y digwyddwn fod yn myd amser a lle pan ddaeth i mi yng nghwrs fy mhererindod ysbrydol; cefais ateb diriaethol a phrofiadol i'r cwestiwn a ofynnais ar y ffordd adref o Lechryd, ac y ceisiais ei ateb, a'i ateb yn anghywir, o safbwynt athroniaeth haniaethol.