Neidio i'r cynnwys

Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod XI

Oddi ar Wicidestun
Pennod X Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

Pennod XII

XI

Ni fyddai hanes fy mhererindod yn ei brif nodweddion yn llawn heb ryw gyfeiriad at ddisgyblaeth afiechyd mewn blynyddoedd diweddar ynddo. Rhwng 1904 a 1924 yr oeddwn yn mwynhau bywyd, ac yn byw hyd yr eithaf o ran meddwl ac ysbryd, yn llosgi'n angerddol rai prydiau, a phan yn llosgi allan yn cael fy ail-gynnau wedyn. Ond nid oedd fy iechyd yn berffaith o lawer. Dylaswn fod wedi gwrando ar rybuddion diffyg cwsg, cur yn y pen, a'r cyffelyb, neu wrando i well pwrpas, canys gwrandawn arnynt i'r graddau o geisio gwaredigaeth oddi wrth eu poen heb ystyried eu bod yn gondemniad ar ormod llafur. Nid wyf yn cofio i mi erioed ddychmygu bod gormodedd yn bosibl gyda'r gwaith o bregethu'r Efengyl—" yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf" —nes i mi orfod peidio yn 1924. Gyda phregethu deirgwaith y Sul yng nghapel y Saeson yn Briton Ferry (lle y gweinidogaethai'r Parch. Gwyn Thomas), yr oeddwn i roddi anerchiad ar Syr Henry Jones i'r bobl ifainc nos Lun. Bwriadwn siarad am tuag awr, ond oherwydd ceisio esbonio egwyddorion delfrydiaeth i rai anghyfarwydd ag athroniaeth, siaredais—heb lawer o "ryddid "—am yn agos i ddwy awr. Ar ôl cwsg anesmwyth, codais drannoeth i fynd yn fy mlaen i'r Porth, lle yr arferwn fynd pan yn yr ardal i helpu'r Parch. R. B. Jones am ddeuddydd gyda'i ysgol. Euthum i'r trên yn ddidrafferth, ond pan ymdrechais ddod allan ohono yn y Porth ni allwn symud, a bu raid fy nghario i'r tŷ, a dychwelyd i Gaerfyrddin mewn modur, ac yna orffwys oddi wrth fy llafur am chwe mis.

Eithr yr oedd mwy na'r gwaith dau ddiwrnod yn Briton Ferry y tu ôl i'r "torri i lawr" yma; oblegid er i'r rhyfel (1914-18) leihau'r galwadau am wasanaeth oddi cartref, trowyd y blynyddoedd hyn i mi, gan amgylchiadau neilltuol, yn gyfnod o ysgrifennu ychwanegol. Yn gyntaf, ar gais awdurdodau'r Undeb (Annibynnol), ysgrifennais esboniad ar y Philipiaid a Philemon. Golygai hyn fwy o ddarllen a myfyrio nag a ymddengys ar yr wyneb. Yn wir, cefais dystiolaeth gan un gweinidog graddedig ei fod ef ar y cyntaf yn darllen hanner dwsin o esboniadau ar wers y Sul, ond iddo gael gwaredigaeth oddi wrth y llafur hwnnw drwy ddarganfod bod eu sylwedd yn fy esboniad bychan i. Yna cefais fy mherswadio gan berthnasau a chyfeillion i ysgrifennu cofiant i'm brawd Emlyn, am, meddent hwy, os na wnawn y byddai rhywun, arall—un arall yn neilltuol—yn sicr o wneud. Yr oedd mynd allan o linell fy mhererindod i gyfeiriad arall yn gwbl groes i'm teimlad, ond wedi llawer o betruster ymgymerais â'r gwaith, a chefais gryn bleser ar hyd hen lwybrau awen a chân. Yn wir, cefais gymaint o bleser fel, pan ddaeth awgrym y dylwn ysgrifennu cofiant i Dr. Parry, ni'm lluddiwyd gan un petruster. Yr oedd Parry yn wrthrych o lawer o ddiddordeb i mi fel person, ac yn neilltuol fel artist. Yr oeddwn mewn blynyddoedd cynt wedi darllen cryn lawer o hanes artists, yn gerddorion, beirdd, ac arlunwyr. Yr oeddynt o diddordeb meddylegol i mi'r pryd hwnnw, ac yn y blynyddoedd ar ôl y diwygiad dyfnhawyd y diddordeb gan yr anhawster i gael lle yn Nheyrnas Nefoedd i bobl fyfiol (egotistic), canys maentumid mai rhai felly yw artists wrth natur, ac y rhaid iddynt barhau felly. Nid oeddwn i, yn sicr, yn maentumio hyn, ond yr oedd yn elfen yn y diddordeb a deimlwn yn hanes Parry. Cymerais lawer mwy o drafferth gyda'r cofiant na chydag un Emlyn, a bûm yn fwy gofalus gyda ffeithiau ei fywyd a'i weithiau. Eithr blotiwyd allan wir nodweddion y llyfr gan fŵg ysgrif Mr. Cyril Jenkins, a meddyliodd adolygwyr y De mai ymosodiad ar Dr. Parry ydoedd, ac nid amddiffyn rhag y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn. 'Rwy'n cofio gweld Arglwydd Kelvin yn llosgi stwff yn y dosbarth a newidiai'r awyrgylch ac a barai ei fod ef ei hun, ei wyneb a'i ddwylo, yn troi i liw copr: rhywbeth tebyg oedd effaith yr ysgrif uchod ar y cofiant, neu yn hytrach ar lygaid y rhai a'i darllenai drwy ei mwg. Cyhoeddodd Mr. Jenkins ei ysgrif yn un o bapurau Saesneg y De pan oedd y cofiant ar fin ymddangos, a bu'n foddion i ffurfio awyrgylch o ragfarn o'i gylch; ac ni ffurfiodd fy meirniaid deheuol eu barn ar sail darllen y llyfr ond ym mwg yr ysgrif honno. Yr oedd adolygwyr y Gogledd, Anthropos, Pedrog, a Llew Owain, yn fwy golau a theg, ac yn dangos eu bod wedi gweld mai nid yr un yw safbwynt y cofiant a safbwynt yr ysgrif. Cafodd hon ymddangos o gwbl am y tybiwn y dylid cael barn cerddor modern ar Parry. Ymddangosai'n eithafol i mi ond nid yn fwy felly na beirniadaethau ein beirdd diweddar ar feirdd y ganrif ddiwethaf, o Dewi Wyn i lawr at Ceiriog ac Islwyn. Barnai rhai o'n prif gerddorion i mi fod yn llwyddiannus gyda'r ddau gofiant, a gofynasant i mi fynd ymlaen i ysgrifennu cofiant Gwilym Gwent. Gomeddais wneud, ac yn fy ngohebiaeth â Dr. Prothero awgrymais mai ef, fel un cyfarwydd â Chymru ac America, oedd y dyn i wneud, a'i bod yn rhaid i mi'n awr fynd yn ôl i'm llwybr fy hun. Nid oedd cofiant Adams yn mynd â mi ymhell o'm llwybr, o leiaf ni allwn wrthod cais Mrs. Adams ataf i ymgymryd â'r gwaith. Addewais wneud, ond cael help Mr. Pari Huws. Ni ŵyr y darllenydd cyffredin yr hyn a olygai gwneud cofiant i ddyn fel Adams—ni wyddwn fy hunan nes mynd at y gorchwyl. Nid oedd ei ysgrifennu ond tua thrydedd ran y gwaith; oblegid cyn dechrau ar hynny yr oedd yn angenrheidiol mynd drwy lond cist fawr o lawysgrifau, pregethau, pryddestau, llythyrau, etc., yn gystal ag ail-ddarllen ei lyfrau, ac wedyn ddethol a threfnu'r defnyddiau perthynasol a rhoddi iddynt eu lle yng nghyfanwaith y cofiant. Arnaf i y syrthiodd y ddau beth olaf hyn, a disgwyliwn gael mwy o help Mr. Huws gyda'r gwaith o ysgrifennu, yn neilltuol dibynnwn arno ef i drafod safle farddol Adams. Addawodd wneud, ond diau iddo fethu gan ei fod yn awr mewn gwth o oedran. Y canlyniad fu i mi orfod ysgrifennu pennod ar ruthr i orffen y llyfr y peth olaf cyn mynd i Briton Ferry, a "thorri i lawr."

Dywedai fy meddyg mai bendith dan gochl oedd y methiant hwn, rhybudd mwy pwysleisiol na'r rhai a gawswn eisoes mewn diffyg cwsg, etc., o berygl gorlafur, yn neilltuol yn awr a mi yn henwr, ac analluog i wneud cymaint o waith â chynt yn ddigosb. Nid wyf yn gallu galw i gof a ddaeth geiriau'r Salmydd i'm cof ar y pryd, ond daethant lawer gwaith wedyn: "Cyfarwyddaf di a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â'm llygad arnat y'th gynghoraf. Na fydd fel march neu ful heb ddeall, yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa ac â ffrwyn. Yn fy ystad orweddog yn ystod misoedd gorffwystra cefais ddigon o gyfleusterau i ymgydnabod â chyfarwyddyd "llygad" fy Arweinydd, a cheisio ei "ddeall" a datblygu'r lledneisrwydd canfyddiad sydd yn angenrheidiol i hynny. Diau mai nid cosb ond anghenraid gorffwystra llawn oedd fy amddifadu o ysbrydoliaeth yr awr weddi foreol: o leiaf, nid oedd yr ymroddiad a'r canolbwyntiad a ofynnai yn fy ngallu i'w roddi am beth amser. Yn raddol, drwy ymgadw oddi wrth bob ymdrech corff a meddwl, a rhoddi sylw manwl i fwyd a diod, cefais y blood pressure i lawr yn agos i'w le, a deuthum yn alluog i bregethu fel cynt, ond yn fwy gofalus. Eto, y mae'n amlwg nad oedd fy addysg yn ysgol cystudd wedi ei gorffen, oblegid ar ben tua deng mlynedd cefais un bore dydd Llun na allwn gerdded llawer o gamau heb ddioddef y boen fwyaf arteithiol ar draws fy mrest, o ysgwydd i ysgwydd. Yr angina pectoris ydoedd, meddai'r meddyg, y darllenaswn amdani fel rhagredegydd angau. Gan fy mod wedi ymgadw y tu mewn i derfynau cymedroldeb ym mhob ystyr yn ôl y cyfarwyddyd a gefais, yr oedd yr ymosodiad newydd a dieithr hwn yn ddirgelwch hollol hyd oni esboniwyd i mi nad oedd cael y blood pressure i lawr yn ystwytho'r arwythi (arteries), a bod gorlif emosiwn, er iddo fod yn hollol ddiymdrech, yn peri i fwy o waed nag arfer ruthro drwy arwythi'r galon a'u dirdroi (strain), a chynhyrchu poen yr angina. Eto, "bendith dan gochl" oedd hyn eilwaith, meddai'r meddyg, gan fod y boen yn fy rhwystro i geisio gwasanaeth oddi wrth galon wan oedd y tu hwnt i'w gallu i'w roddi.

Yng nghwrs y deng mlynedd ar hugain blaenorol yr oeddwn wedi darllen cryn lawer ar wellhad drwy ffydd, fel mater o ddiddordeb damcaniaethol, ond yn awr, aeth yn fater o ddiddordeb ymarferol agos. Yr oeddwn yn gyfarwydd â llyfr A. J. Gordon ar Faith Healing, ac â hanes Dorothea Trudel a'r cyffelyb; ond yn awr galwodd y Parch. Rees Howells (y Coleg Beibl, Abertawe) fy sylw at gofiant Andrew Murray, yn fwyaf neilltuol at y bennod ar "Wellhad drwy ffydd" sydd ynddo—pennod sydd yn seiliedig ar brofiad personol gwrthrych y cofiant. Gan i'w ddarllen fod yn foddion gras a chyfarwyddyd i mi ar fy nhaith bererin, rhoddaf rai o'i phrif bwyntiau yn y fan hon. Dylwn esbonio i'r darllenydd fod Dr. Murray wedi colli ei lais a methu ei gael yn ôl er ymgynghori â meddygon De Affrig, a dyfod i Lundain ar ei ffordd i'r Swistir at Pastor Stockmayer. Yn Llundain, fodd bynnag, daeth i gyffyrddiad â Dr. Boardman, ac aeth i mewn i Beth Shan, sefydliad enwog lle y gwellheid rhai drwy ffydd a gweddi, a chael ei lais yn ôl ar ben tair wythnos. Wele rai o'i brif ddatganiadau: " Y mae Duw rai prydiau—er nad bob amser —yn ceryddu Ei blant ag afiechyd oherwydd rhyw bechod neilltuol, megis diffyg mewn ymgysegriad a glynu wrth ein hewyllys ein hunain; hyder yn ein nerth ein hunain ynglŷn â gwaith yr Arglwydd; ymadawiad â'n cariad cyntaf, ac anwyldeb rhodio gyda Duw; neu absenoldeb yr addfwynder a gais ddilyn arweiniad yr Ysbryd Glân yn unig. Y mae'n anodd mynegi mewn geiriau yr olwg a gawn ambell waith ar ledneisrwydd a sancteiddrwydd anhraethadwy yr ymgysegriad y'n gelwir iddo pan ofynnwn i Dduw am wellhad drwy ffydd. Llenwir ein henaid ag ofn a pharch santaidd pan ofynnwn iddo gyfrannu i'n corff ieuengrwydd tragwyddol Ei fywyd nefol, a phan fynegwn ein parodrwydd i dderbyn yr Ysbryd Glân er mwyn llanw y corff a breswylir ganddo ag iechyd, modd y gallwn fyw bob dydd mewn dibyniaeth hollol ar ein Harglwydd am ei ffyniant. Gwelwn mor llwyr y rhaid i gyflwyniad y corff i'r Arglwydd fod, i lawr hyd yn oed i'r manylion lleiaf, ac fel y mae Ef, drwy roddi a chadw iechyd drwy ffydd, mewn gwirionedd yn dwyn oddi amgylch yr undeb agosaf posibl ag Ef Ei Hun."

Yna rhydd ei brofiad pan ddaeth i Beth Shan: "Pan ddeuthum i'r Cartref, yr oedd fy mryd ar wellhad, ond cefais allan yn fuan mai prif amcan Duw oedd datblygu ffydd, a bod ffydd eto yn Ei olwg Ef o werth nid yn unig fel amod y fendith o wellhad, ond yn bennaf fel y ffordd i gymundeb llawnach ag Ef Ei Hun a dibyniaeth lwyrach ar Ei allu."

Ymhlith y cyfarwyddiadau a rydd i eraill, fe ddywaid ein bod i gredu mai ewyllys Duw yw ein gwella; i gymryd ein harwain gan Ei Air; i ganiatau i'w Ysbryd chwilio ein calonnau i'n cael i weld ac yna i gyffesu ein pechodau; i dderbyn drwy act o ffydd yr Arglwydd Iesu fel ein meddyg; i weithredu (exercise) ffydd; i beidio â synnu os profir ein ffydd; bod yn dystion yn ôl llaw i'r sawl a ddwg yr Arglwydd atom.

Daeth cyfle i mi wneud praw o un o'r cyfarwyddiadau hyn yn fuan. Yng nghwrdd dathlu canmlwyddiant Bryngwenith, trefnwyd i mi bregethu'r noson gyntaf. Nid oeddwn yn flaenorol wedi dioddef gan yr angina ond ar ôl ychydig gerdded; y nos hon, fodd bynnag, ymosododd arnaf pan oedd Mr. Evans Jones yn pregethu, ac âi'n waeth-waeth fel y tynnai ef at y terfyn. Dan amgylchiadau arferol buaswn yn gofyn i'r gweinidog (Mr. Stanley Jenkins) i derfynu'r oedfa gan fy mod yn rhy dost i bregethu, ond fflachiodd un o gyfarwyddiadau Dr. Murray, "Don't be surprised if your faith is tested," i'm meddwl.

"O'r gorau,' meddwn, "mi af i'r pulpud 'taswn i'n llewygu," a chodais i fynd, a'r boen yn mynd yn waeth gyda'r ymdrech i ddringo, eithr gyda'm bod yn gosod fy nhroed ar y ris uchaf diflannodd yn llwyr, ac ni ddaeth yn ôl y nos honno o gwbl. Pan adroddais yr hanes wrth feddyg enwog, y sylw a wnaeth oedd, "Y mae'r ysbryd yn chwarae triciau hynod â'r corff."

Ond er i'r boen fynd y pryd hwnnw, deuai yn ôl gyda'r ymdrech i gerdded. Yn wyneb hyn, yr oedd geiriau pellach Dr. Murray ar ddull y gwellhad sydyn neu raddol yn dra chysurlon. Yr oedd ef, pan ddaeth i Lundain, am gael gwellhad uniongyrchol, ac yn ymresymu â Dr. Boardman y gwnâi hynny ddyfnach argraff ar ei bobl yn Ne Affrig, a dwyn mwy o ogoniant i Dduw, a chael yr ateb call, "Gedwch chwi rhwng Duw â'i ogoniant, gall Ef edrych ar ôl hwnnw'n well na chwi a minnau—ein busnes ni yw ufuddhau i'r amodau gosodedig." Ac ychwanega fod Stockmayer wedi bod yn dioddef gan ei ben am dros ddwy flynedd, a bod yn alluog i wneud ei waith drwy help ffydd yn unig; y caffai ei arwain fel plentyn mewn llinynnau arwain, ond na chymerai y byd am yr hyn a ddysgodd yn ystod y ddwy flynedd hyn. Ni ddygai gwellhad uniongyrchol gymaint bendith iddo. Fe'i cyfrifai yn fraint oruchel i Dduw ei gymryd mewn llaw mor llwyr i'w gadw mewn cymundeb cyson ag Ef Ei Hun drwy gyfrwng y corff, a chyfrannu nerth uwch—naturiol iddo bob dydd.

Gan na chefais waredigaeth uniongyrchol, euthum innau i edrych ar fy nioddefaint fel cerydd, ac yna fel moddion i ddatblygu fy ffydd a dwyn fy ewyllys i gytgord llawnach ag ewyllys Duw. Cyrhaeddodd yr ymgais hon ei huchafbwynt tua diwedd 1934, pryd y cefais un o'r ychydig brofiadau eithriadol a ddaeth i'm rhan—profiad digon hynod a gwerthfawr i'm gorfodi i geisio'i ddisgrifio pan oedd ei wahanol nodweddion eto'n glir yn fy meddwl. Aethai'r angina lawer yn waeth yn Nhachwedd a Rhagfyr, 1934, yn ddiau oherwydd pryder ynghylch ein merch sydd yn genhades yn Colombia. Yr oeddwn wedi clywed ei bod mewn enbydrwydd, wedi colli ei heiddo ond a oedd amdani, a'r offeiriaid pabaidd yn ceisio ei hamddifadu o do uwch ei phen, drwy fygwth yr Indiaid â barn os agorent ddrws eu tai iddi. Oherwydd ei chyflwyno i ofal Duw, nid oeddwn yn orbryderus yn ystod y dydd, ond ar ôl tuag awr o gwsg codai rhyw ofn o'm hisymwybod i'm deffroi ar gyfrif yr ing a gynhyrchai. Dyna'r amgylchiadau a arweiniodd i'r profiad a ddisgrifiwyd trannoeth fel hyn:

"Cafodd yr adnod, 'Achub fi, Arglwydd, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid' (Salm lxix, 3) ystyr newydd i mi nos Sul a bore'r Llun (Rhag. 9—10) diwethaf. Yr oedd yr angina pectoris wedi bod yn dra phoenus y ddwy nos flaenorol, a pheri i mi ddeffroi ar ôl tuag awr o gwsg, ond y nos hon yr oedd yn waeth o lawer ac yn rhoddi i mi y teimlad o suddo mewn poen. Cofiais i un farw ryw nos yn ddiweddar yn un o hotels y dref gan flatulence yn rhwystro'i galon i guro (meddai'r meddyg), a theimlais am funud neu ddwy ias o ofn y creadur (animal fear) yn wyneb angau. Ond yn y man, meddai f'ysbryd, Nid ffydd yw hyn,' a cheisiais weddïo—yn ddigon dilun—yn y fan honno. Taflwyd darnau o adnodau ac emynau i mi, fel y teflir rhaffau i ddynion yn ymladd â'r tonnau, ond yr un a arhosodd yn fy ngafael oedd y pennill:

Mae Dy enw mor ardderchog,
Fel yng ngrym y storom gref,
Llaesa'r gwyntoedd, llaesa'r tonnau,
Dim ond im Ei enwi Ef.
Noddfa gadarn yw yn eitha' grym y dŵr.

'Noddfa gadarn yw yn eitha' grym y dŵr,' meddwn wedyn, a chael bod teimlad o oruchafiaeth yn fy meddiannu. Ond yr oedd yn rhaid dal gafael yn dynn, gan fod yr hen ofn am ddod yn ôl, a pheri tuedd i alw am help dyn. Cefais nerth i ddal gafael, ac yn fuan aeth y dŵr llwyd yn llif o risial, a'r boen yn hyfrydwch pur. Amgylchynwyd fi â chaniadau ymwared."

Nid hawdd disgrifio'r profiad, ond y nodwedd hynotaf ynddo i mi ydoedd, fod y poenau nid yn cael eu gyrru ymaith (fel ym mhulpud Bryngwenith) yn gymaint â'u trawsffurfio. Cefais brofiadau ysbrydol diriaethol o'r blaen, mewn goleuni ac ysbrydoliaeth, ac mewn nerth a adnewyddai gorff a meddwl ar gyfer gwasanaeth, ond dim fel hyn o gael fy nghodi yn y cwbl ohonof i fôr o wynfyd, a theimlo "llyncu yr hyn sydd farwol gan fywyd." Agos y cyfan a allai dyn ddweud—ynghanol teimladau cymysg o annheilyngdod a diolchgarwch—oedd, "Gogoniant !" "Glory, glory dwelleth in Emmanuel's land."

Gan gymaint gwerthfawredd anhraethadwy y profiad o'r tragwyddol, nid oedd eisiau deisyf" Gwna fi'n barod iawn i 'madael," gan y teimlwn mai" llawer iawn gwell" fuasai mynd. Ni ddatguddiwyd ei ystyr imi mewn perthynas ag ystad fy iechyd, os oedd iddo ystyr felly, ac ni fedrai fy nghyfeillion ddehongli ei ystyr; ni ellid disgwyl mwy oddi wrth feddyg na gofyn, "A ydych yn sicr mai nid breuddwyd ydoedd?" fel pe gallasai un ag y gorfyddai ei boen iddo godi ar ei eistedd i geisio'i liniaru freuddwydio! Beth bynnag am hynny, gwelais a dysgais bethau nad oeddynt yn glir i mi o'r blaen yn ad-lewyrch (afterglow) y profiad a barhaodd am rai oriau. Cefais olwg ar angau yn ei ddwy wedd, fel gelyn y bywyd naturiol—" y gelyn diwethaf"—ac fel gwas y bywyd ysbrydol—" angau sydd eiddoch chwi" (1 Cor. iii, 22); "y chwaer angau " (St. Francis). Yna, pan ddaeth ofn y nosweithiau dilynol yn ôl am foment, fflachiodd yr addewid "Nid ofni rhag dychryn nos" i'm meddwl mewn ystyr newydd sbon, yr hyn a braw fod esboniad profiad o eiriau'r Beibl yn annibynnol ar farn y critic.

Yr wyf wedi cadw at y ffeithiau syml yn y bennod hon heb nemor ddim damcanu. Yn wir, nid yw yn ddiogel gwneuthur datganiadau cyffredinol ar y mater. Tra dywaid Dr. Andrew Murray, er enghraifft, ein bod i gredu mai ewyllys Duw yw ein gwella, cedwir saint fel yr Abbé Huvelin mewn poenau ingol am flynyddoedd, a'u defnyddio yn ganolbwyntiau o nerthoedd ysbrydol er bendith i'r miloedd a ddaw atynt (gweler Pennod XII). Yn yr un modd, cyfeiria Hugh Redwood yn un o'i lyfrynnau at dair gwraig ieuanc yn slums Llundain a ddioddefant ac a orfoleddant ac a fendithiant eraill yn yr un modd. Y mae un ohonynt, er enghraifft, yn gaeth i'w gwely mewn ystafell ddeg troedfedd sgwâr, a dim ond wal bricks yn y golwg. Ni welodd yr haul ers deng mlynedd, eithr y mae ei hwyneb yn disgleirio gan oleuni na fu erioed ar dir na môr. I mi, y mae hyn yn fwy o wyrth na'i chodi ar ei thraed a gwella'i chorff. Efallai mai ychydig yw nifer y rhai a all ddal gogoneddu dioddefaint, a gogoneddu Duw mewn dioddefaint, fel hyn. "Ewyllys Duw yw eich santeiddiad chwi," a ddywaid Paul.

Nid yw yr angina pectoris yn fy mlino mwyach. Yr wyf, serch hynny, yn cadw mewn cof yr anhawster a gâi Rowlands, Llangeitho, i "gredu heb ryfygu."

So, take and use Thy work:
Amend what flaws may lurk,
What strain o' the stuff, what warpings past the aim!
My times be in Thy hand!
Perfect the cup as planned!
Let age approve of youth, and death complete the same!


Nodiadau[golygu]