Fy enaid, at dy Dduw

Oddi ar Wicidestun
Mewn trallod, at bwy'r af Fy enaid, at dy Dduw

gan William Williams, Pantycelyn

I Fyny at fy Nuw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

63[1] Nawdd y Dwyfol Waed.
66.66.88.

1.FY enaid, at dy Dduw,
Fel gwrthrych mawr dy gred,
Trwy gystudd o bob rhyw,
A phob temtasiwn, rhed;
Caf ganddo Ef gysuron gwir,
Fwy nag ar foroedd nac ar dir.

2.O! na allwn roddi 'mhwys
Ar dy ardderchog law,
A gado i gystudd ddod.
Oddi yma ac oddi draw;
A byw dan nawdd y dwyfol waed
Yng ngolwg hyfryd dŷ fy Nhad.

3.Mi fyddaf lawen iawn,
A'm gofid dan fy nhraed,
O fore hyd brynhawn,
Dan adain gwir fwynhad;
Nid oes dim arall is y nef
A ddaw â'm henaid tua thref.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 63, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930