I Fyny at fy Nuw

Oddi ar Wicidestun
Fy enaid, at dy Dduw Fy enaid, at dy Dduw

gan David Charles (1762-1834)

O! Uchder heb ei faint
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

64[1] Arglwydd, Cofia fi.
66. 66.88.

1.I FYNY at fy Nuw,
Fy enaid, cod dy lef,
Uwchlaw yr euraid lu,
I eithaf nef y nef:
Gostwng dy glust o'r bryniau fry,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

2.'Rwyf yma'n wael fy ngwedd,
Yn euog ac yn wan,
Gelynion creulon sydd
O'm hamgylch ym mhob man:
Bydd imi'n blaid yn erbyn llu,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

3.Yn wyneb uffern ddu,
Ac angau mawr ei rym,
Rho imi nerth wrth raid,
Bydd Di yn nodded im:
Yn nyfroedd cryf Iorddonen ddu,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

David Charles (1762-1834

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 64, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930