Fy enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn
Gwedd
← Mi ymddiriedais ynot, Ner | Fy enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn gan Edmwnd Prys |
Molwch yr Arglwydd, cans da yw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
13[1] SALM CIII. 1-4, 11-13.
M. S.
1 FY enaid, mawl Sanct Duw yr Iôn,
A Chwbl o'm heigion ynof;
Fy enaid, n'ad fawl f'Arglwydd nef,
Na'i ddoniau Ef yn angof.
2 Yr Hwn sy'n maddau dy holl ddrwg,
Yr Hwn a'th ddwg o'th lesgedd ;
Yr Hwn a weryd d'oes yn llon,
Drwy goron o'i drugaredd.
3 Cyhyd ag yw'r ffurfafen fawr
Oddi ar y llawr o uchder,
Cymaint i'r rhai a'i hofnant Ef,
Fydd nawdd Duw nef bob amser.
4 Os pell yw'r dwyrain olau hin
Oddi wrth orllewin fachlud,
Cyn belled ein holl bechod llym
Oddi wrthym Ef a'i symud.
5 Ac fel y bydd nawdd, serch, a chwant
Tad da i'w blant naturiol,
Felly cawn serch ein Tad o'r nef,
Os ofnwn Ef yn dduwiol.
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 13, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930