Mi ymddiriedais ynot, Ner
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Mi ymddiriedais ynot, Ner yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Mi ymddiriedais ynot, Ner,
Fel na'm gwaradwydder bythoedd;
Duw, o'th gyfiawnder, gwared fi,
A chlyw fy nghri hyd nefoedd.
Gogwydd dy glust ataf ar frys,
O'th nefol lys i waered,
A bydd i mi 'n graig gadarn siŵr,
Yn dŷ a thŵr i'm gwared.
Dodaf fy ysbryd yn dy law,
Ac af ger llaw i orwedd:
Da y gwaredaist fi yn fyw,
Arglwydd Dduw'r gwirionedd !
Mi ymhyfrydaf ynot ti,
Canfuost fi mewn amser;
Ac adnabuost wrth fy rhaid,
Fy enaid mewn cyfyngder.
Cymerwch gysur yn Nuw Iôn,
Ef a rydd galon ynoch;
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
Ei law yn gref fydd drosoch.