Fy ngweddi, dos i'r nef

Oddi ar Wicidestun
Chwi, bererinion glân Fy ngweddi, dos i'r nef

gan William Williams, Pantycelyn

Mae arnaf eisiau sêl

439[1] Pererindod y Cristion..
M. B. D.

1 FY ngweddi, dos i'r nef,
Yn union at fy Nuw,
A dywed wrtho Ef yn daer,
Atolwg, Arglwydd, clyw!
Gwna'n ôl d'addewid wych
I'm dwyn i'th nefoedd wen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i'r llen."


2 Pererin llesg a llaith,
Dechreuais daith oedd bell,
Trwy lu o elynion mawr eu brad,
Gan geisio gwlad sydd well;
Am ffoi mae f'enaid tlawd
At f'annwyl Frawd a'm Pen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i'r llen.

3 Yng nglyn wylofain trist,
Lle bu fy Nghrist, 'r wy'n byw ;
Ac wrth ryfela â'm gelyn caeth
Fy nghalon aeth yn friw ;
Iachâ bob clwyf a brath
 dail y bywiol bren;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i'r llen.

4 Mae 'mrodyr uwch y nen
Yn canu ar ben eu taith;
A minnau oedais lawer awr
Ar siwrnai fawr a maith;
Ond bellach tyn fi'n ddwys,
Ar Grist dod bwys fy mhen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i'r llen.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 439, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930