Mae arnaf eisiau sêl

Oddi ar Wicidestun
Fy ngweddi, dos i'r nef Mae arnaf eisiau sêl

gan Dafydd Jones o Gaeo

Pererin wy'n y byd

440[1] Awyddfryd y Cristion...
M. B. D.

MAE arnaf eisiau sêl
I'm cymell at dy waith,
Ac nid rhag ofn y gosb a ddêl,
Nac am y wobor chwaith;
Ond gwir ddymuniad llawn
Dyrchafu cyfiawn glod
Am iti wrthyf drugarhau,
Ac edrych arna'i 'rioed.

Dafydd Jones o Gaeo


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 440, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930