Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Abel, John
← Aaron | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Abraham, esgob Tyddewi → |
ABEL, PARCH. JOHN, ydoedd fab i Mr. William Abel, o blwyf Llanstephan, yr hwn oedd yn arfer pregethu yn achlysurol yn Hen Gapel Llanybri a'r gymydogaeth hono. Cafodd Mr. John Abel felly ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, a thueddwyd ef yn moreu ei oes i roddi ei hunan i'r Arglwydd, ac i'w bobl yn ol ei ewyllys ef. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys gynulleidfaol yn Llanybri. Yn mhen ychydig amser canfyddwyd fod ynddo ddefnyddiau cymwys i fod yn bregethwr, anogwyd ef i arfer ei ddawn yn yr eglwys; a thua'r flwyddyn 1789, aeth i'r ysgol ramadegol yn Nghaerfyrddin. Derbyniwyd ef wedi hynny i'r coleg Henadurol yno; a phan oedd ei amser ar ddyfod i fyny, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys gynulleidfaol a gyfarfyddai i addoli Duw yn Nghapel Sul, Cidweli ; cydsyniodd a'r alwad. Yn 1794, cafodd ei urddo yn weinidog ar yr eglwys hono, lle y bu yn llafurio gyda gradd o lwyddiant dros 25 o flynyddoedd. Yr oedd gelyniaeth trigolion Cidweli yr amser hwnw yn fawr at Ymneillduaeth; nid oedd y gynulleidfa ond bechan, a rhif yr aelodau yn ychydig. Ond trwy fod Mr. Abel yn ŵr dysgedig, ac yn cadw ysgol yn gystal a phregethu, efe a fu yn foddion yn law yr Arglwydd i symud gelyniaeth y trigolion, a daeth i gryn ffafr gydag amryw yn y dref a'r wlad oddi amgylch. Yr oedd arwyddion amlwg o foddlonrwydd yr Arglwydd ar ei weinidogaeth yn y lle.