Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Afaon mab Taliesin

Oddi ar Wicidestun
Afan Buallt Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Afarwy
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Afaon fab Taliesin
ar Wicipedia

AFAON, MAB TALIESIN. Canmolir ef yn y Trioedd fel bardd, yr hwn a gymerodd arfau er ainddiffyn ei wlad, ac a hynododd ei hunan o dan lywyddiaeth Cadwallawn ab Cadfan. Yn un Trioedd gelwir ef yn un o'r "Tritharw unben;" y ddau ereill oeddynt Cynhafal ac Elmur. Mewn rhai ereill, dar- lunir ef gyda Gwallawg ab Lleanawg, a Selyf ab Cyran Gorwyn fel y rhyfelwyr y rhai a barhasant i ladd ar eu beddau er dial eu cam- weddau. Trioedd arall a gofnoda ei farwol- aeth gan Llawgad Trwm Bargawd, fel un o'r "Tair anfad Gyflafan" Ynys Prydain. (Myv. Arch. ii. 4, 9, 13, 14, 15, 69.) Cofnodir dy- wediad o'i eiddo yn yr englynion clywed. (Myv. Arch. i. 173.)-

"A glywesti a gant Afaon
Fab Taliesin gerdd gyfion ?
Ni chel grudd gystudd calon."