Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Alan

Oddi ar Wicidestun
Ailfyw Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Alan Forgan

ALAN, sant, yr hwn a anwyd yn Armorica. Bu fyw oddeutu canol y ehweched ganrif. Yr oedd yn fab i Emyr Llydaw. Wedi gadael ei wlad enedigol efe a ddaeth yn aelod o goleg Illtyd, yn sir Forganwg. Bu iddo dri mab, o'r enwau Lleuddad, Llonio Lawhir, a Llynab, y rhai oeddynt aelodau o'r un coleg, ac a ddaethant yn addurniadau nodedig o'r eglwys Gymreig.