Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Alan Forgan

Oddi ar Wicidestun
Alan Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Alban

ALAN (FORGAN,) tywysog, yr hwn a laddwyd yn maes Camlan, O. C. 542, o herwydd bradwriaeth ei wyr, y rhai a'i gadawsant pan ar fyned i frwydr; o herwydd hyn cofnodir hwynt yn y Trioedd fel un o'r tri "Anaiwair Deulu," neu Dylwythau anffyddlon Ynys Prydain. Y ddau ereill oeddynt Llwythau Goronwy Befr, o Benllyn, a Peredur. (Gwel Myv. Arch. ii. 70.)