Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aled (Tudur)

Oddi ar Wicidestun
Albanactus Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Almedha
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Tudur Aled
ar Wicipedia

ALED (TUDUR) oedd fardd enwog, yr hwn oedd enedigol o sir Dinbych. Yr oedd yn byw yn Garth Geri, yn mhlwyf Llansanan, trwy ba un y rhed yr afon Aled, oddiwrth yr hyn y cymerai ei enw. Yr oedd yn fynach o urdd Dominic. Y mae llawer o'i ganiadau yn cael eu dyogelu yn barhaus mewn ysgrifen. Yn eu plith y mae hanes y gwyrthiau a gyflawnwyd gan ffynon St. Winifred, yn gystal a hanes dychymygol y sant hwnw. Yr oedd hefyd yn un o ganlynwyr Syr Rhys ab Thomas, o Dynefor, wrth yr hwn y mawr ymlynai, ac mewn clod i orchestweithiau yr hwn y cyfansoddodd amryw ganiadau. Tudur Aled a flodeuodd o'r flwyddyn 1480 i 1520. Yr oedd yn nai a dysgybl i Dafydd ab Edmund, ar farwolaeth yr hwn y cyfansoddodd farwnad, yr hon yn nghyd ag ychydig o rai ereill o'i ganiadau sydd wedi eu hargraffu yn "Ngorchestion Beirdd Cymru," gan Jones.