Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Almedha

Oddi ar Wicidestun
Aled (Tudur) Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Alo

ALMEDHA, sant, yr hon oedd yn byw yn y rhan flaenaf o'r bumed ganrif. Yr oedd yn un o ferched lluosog Brychan, tywysog Deheudir Cymru; a gelwir hi rai gweithiau Elevetha, ac Aled; ac yn rhestr plant Brychan yn y Myv. Arch., gelwir hi Elmed. Giraldus Cambrensis a sonia am dani dan yr enw Almedha, a dywed ei bod o'i hieuenctyd yn gyflwynedig i grefydd, ac wedi gwrthod llaw tywysog yr hwn a'i ceisiai mewn priodas, hi a ymorfoleddodd mewn merthyrdod dedwydd. Hi a ddyoddefodd ar ben bryn a elwir Penginger, ger Aberhonddu, lle yr adeiladwyd eglwys wedi hyny, yr hon a gysegrwyd iddi hi; a chedwid ei gwyl ar y cyntaf o Awst gyda difrifoldeb mawr. Byddai lluoedd o bobl yn dyfod yn nghyd o gryn bellder, y rhai a flinid gan wahanol glefydau, a dysgwylient dderbyn iachad trwy haeddiant Mair Fendigaid. (Gwel Hoare's Giraldus, i. 35.)