Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Ane

Oddi ar Wicidestun
Andrews, Joshua Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aneurin

ANE, un o feibion Caw, arglwydd Cwm Cowlwyd, tiriogaeth yn Ngogledd Lloegr, yr hon a boenid gan ruthriadau parhaus y Pictiaid a'r Ysgotiaid, efe a ymfudodd gyda'i deulu i Gymru, a chafodd dir yn Mon gan Maelgwn Gwynedd. Cyfrifir Ane yn mhlith y seintiau Cymreig; a gelwir eglwys Coed Ane, yn y sir hono, ar ei enw. Efe a flodeuodd yn y chweched ganrif.