Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arwystli Hen

Oddi ar Wicidestun
Arwystli Gloff Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Asaph

ARWYSTLI (HEN,) yn ol cofnodiadau Cymreig, oedd un o'r pedwar dysgawdwyr y rhai a ddaethant gyda Bran ab Llur o Rufain i bregethu Cristionogaeth i'r Brythoniaid, tua'r flwyddyn 70. Unolir ef gan rai ag Aristobulus, yr hwn y sonir am dano yn y Llythyr at y Rhufeiniaid, xvi. 10. Y mae hefyd yn nodedig, yn ol y merthyrdraeth Groegaidd a goffeir gan archesgob Usher, i Aristobulus gael ei ordeinio gan Paul fel gweinidog i'r Brythoniaid. Dywed Cressy hefyd i Aristobulus, dysgybl i Pedr a Phaul yn Rhufain, gael ei anfon fel cenad at y Brythoniaid, a'i fod y gweinidog cyntaf yn Mhrydain; iddo farw yn Glastonbury, yn y flwyddyn 90, a bod dydd ei goffadwriaeth yn cael ei gadw yn yr eglwys Mawrth 15ed. (Rees's Welsh Saints.)