Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Bach mab Carwel

Oddi ar Wicidestun
Aubrey, William, Llantryddyd Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Baglan mab Dingad ab Nudd Hael

BACH, mab Carwel, oedd benaeth, yr hwn a enciliodd i Ogledd Cymru yn y seithfed ganrif, a chyflwynodd derfyn ei oes i grefydd. Dywedir mai efe oedd sylfaenydd Eglwys Fach, yn sir Dinbych, ar lanau y Conwy; ac yn ol traddodiad y gymydogaeth, yr oedd clochdy yr eglwys yn ffurfio rhan o'i dy. Dywedir hefyd iddo ladd bwystfil oedd yn gwneud mawr niwaid yno, wrth yr afon Carog, yn agos i'r eglwys. Y mae crug yn aros eto ar y fan a elwir Bedd Carog.