Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aubrey, William, Llantryddyd
Gwedd
← Aubrey, William, Thomas a John | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Bach mab Carwel → |
AUBREY, WILLIAM, LL.D., ydoedd un o hynafiaid y teulu o'r cyfenw hwn, a ddaeth i Forganwg, gan ymsefydlu trwy briodas yn Llantryddyd. Mab y Dr. Aubrey hwn oedd y cyntaf a gafodd hawl yno. Disgynyddion oeddynt oddiwrth Sant Aubrey, o waed brenhinol Ffrainc, a ddaeth i Loegr gyda Gwilym y Gorchfygwr, yn 1066. Mab i hwnw oedd Syr Bernard Aubrey, a gynorthwyodd Bernard de Newmarch i ddarostwng y Cymry; a chafodd diroedd Abercynfig a Slough, fel ei ran o'r ysbail. Yr oedd y Dr. Aubrey hwn yn broffeswr y gyfraith yn Rhydychain, yn un o wyr Cyngor Terfynau Cymru, ac yn feistr yr ymofyniadau i'r Frenines Elizabeth. Burkes's Peerage and Baronetcy.)