Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aubrey, William, Thomas a John

Oddi ar Wicidestun
Aubrey, Richard Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aubrey, William, Llantryddyd

AUBREY, WILLIAM, A THOMAS, JOHN, oeddynt frodorion o blwyf Llanfyrnach, yn sir Frycheiniog, ac yn geraint i'r Dr. W. Aubrey. Bu y cyntaf yn ganghellwr Tyddewi, yn 1514, a'r ail wedi hyny. Yr oedd y trydydd o'r un teulu, ond yn byw yn East Percy, yn sir Wilts, ac a gynhorthwyodd Dugdale yn nghasglu ei "Monasticon." Yr oedd hefyd yn un o aelodau cyntaf y Royal Society, ac a gyhoeddodd amrywiol weithiau, yn mhlith y rhai yr oedd "Natural History of Surrey." Bu farw yn 1700. (Lewis's Topographical Dictionary.) Darfu i un arall, o'r un teulu, a'r un enw, gyhoeddi llyfr a elwir "Miscellanies upon Day, Fatality, Omens, Dreams, Knockings, Corpes Candles in Wales, &c. By John Aubrey. 1721."