Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aubrey, Richard

Oddi ar Wicidestun
Aubrey, William (bu f 1591) Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aubrey, William, Thomas a John

AUBREY RICHARD, yr hwn oedd o farn undodaidd, a ddewiswyd gan y gynulleidfa, neu o leiaf ryw nifer o bersonau yn y gynulleidfa a gyferfydd i addoli yn addoldy Heol-fawr, Abertawy, i fod yn gynorthwywri Mr. Richard Howells; yr hwn a fu yn gwasanaethu y gynulleidfa hono hyd nes iddo fethu gan henaint a methiant. Gan nad oedd y ddau yn cydweled am drefn iechydwriaeth, ymadawodd Mr. Howells, ac ymunodd fel aelod â'r Annibynwyr Seisnig, yn Heol-castell, Abertawy.