Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Rhagymadrodd
← Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Aaron → |
RHAGYMADRODD
Y MAE yn ffaith anwadadwy mai un o gangenau gwerthfawrocaf Hanesyddiaeth ydyw Bywgraffiaeth, yr hyn a gynwys gofnodau o hanes bywydau a chymeriadau dynion o enwogrwydd mewn ystyr wladol neu grefyddol, ac felly a ellir ddysgwyl fod yn dra adeiladol a defnyddiol i helaethu gwybodaeth o bethau perthynol i'n dedwyddwch, i gadarnhau ein ffydd yn athrawiaethau yr Efengyl, i helaethu ein cariad at Dduw a dyn, ac i lanw ein calonau â sel dros y gwirionedd. Llawer o hiliogaeth Gomer, wrth ystyried y pethau hyn, a hiraethent er ys blynyddoedd lawer am gael hanes rheolaidd a chywir o enwogion ein cenedl, o'r hyn yr ydym yn mhell ar ol y Saeson. Tra y mae ganddynt hwy gyfrolau mawrion ar y pwnc, nid oes genym ni ddim gwerth ei grybwyll braidd, er y gallwn ymffrostio mewn mwy o Wroniaid ao Enwogion nag unrhyw genedl adnabyddus yn ol ein rhif. Hiraethem er ys talm am weled rhyw un cymwys yn ymaflyd yn y gorchwyl angenrheidiol hwn, ond yn gwbl ofer; gan hyny, penderfynasom a'n holl egni i ymgymeryd a'r anturiaeth fawrbwys, mewn hyder y derbyniem gefnogaeth unfrydol ein cyd-genedl er cwblhau y gorchwyl yn anrhydeddus, fel y peth diweddaf o'n heiddo, mae'n debyg, eto y peth pwysicaf o lawer o ddim yr ymaflasom ynddo erioed. Wele y gyfrol gyntaf o'r gwaith yn awr ar ben, am yr hyn y teimlwn yn dra diolchgar i Dad y Trugareddau. Gan nad pa dderbyniad bynag a gaiff y gwaith hwn gan y genedl yn gyffredinol, gallwn ddyweyd yn hyf na ataliasom na thraul na llafur i'w wneuthur yn deilwng o sylw y dysgedig, y deallus, a'r diduedd yn mhlith y genedl. Nid ydym yn rhyfygu dywedyd nad oes llawer o anmherffeithrwydd yn y gwaith, ond gwnaethom ein goreu na byddai ynddo ddim ond sydd wirionedd. Y mae lluoedd i'w cael yn barod i chwilio beiau a nodi gwallau, ond nid oes un o fil yn barod i estyn unrhyw gynorthwy tuag at gael yr hanes yn fwy perffaith. Y mae yn flin genym na fuasem ugain neu ddeng mlynedd ar ugain yn gynt wedi ymroddi at y gorchwyl o gasglu hanesion gwahanol Enwogion yn nghyd, pan oedd ein natur yn fwy galluog i ymgynal o dan bwys y gwaith, a phan nad oedd henaint wedi anmharu eneidiau rhai, na'r bedd wedi llyncu cyrff y lleill, a allasent fod o fawr gymorth i ni i gasglu defnyddiau at hanes llawer un teilwng o gofnodiad cenedlaethol nad ellir bellach gael braidd ddim cymorth tuag at hyny oddiwrth neb. Dengys fawr ddoethineb mewn dyn yn ei waith yn casglu addysgiadau oddiwrth bob rhyw amgylchiad a golygfa a'i cyferfydd er cyfarwyddo ei lwybr ei hun yn briodol trwy daith yr anialwch. Y mae pob cangen o wybodaeth yn cynwys rhyw wersi cymwys i'w defnyddio; ond o'r holl wersi yn nghyd nid oes yr un yn fwy manteisiol na gwersi profiad yn hanes bywydau dynion, ac yn neillduol hanes dynion fyddont wedi rhagori ar ereill mewn pethau cyoeddus, gan y ceir ynddynt dueddiadau ymarferol y gwahanol egwyddorion a fyddant yn eu cymell i weithrediad. Y mae dynion i'w beio yn fawr pan yn esgeuluso talu sylw teilwng i'r cyfryw amgylchiadau er eu haddysg profiadol eu hunain yn llywodraethiad eu hachosion yn y byd. Hyn yw dyben Bywgraffiadau. Gofidus yw meddwl fod lluoedd yn treulio eu hoes heb roddi awr o'u hamser ystyriol i sylwi a barnu a ydyw dynion yn byw ai peidio er ateb dybenion eu bodolaeth yn y byd. Pan byddo dynion yn adfyfyrio ar y cofnodau a gadwyd o'r "pethau a ddygwyddasant o'r blaen yn siampl iddynt hwy, ac a ysgrifenwyd yn rhybudd i ninau," y mae eu meddyliau yn cael eu goleuo, eu teimladau yn cael eu cynhesu, eu hymddygiadau yn Cael eu cyfarwyddo i "rodio canol llwybr barn," fel y byddai iddynt lanw eu cylchoedd mewn cymdeithas megys ag y gweddai iddynt, yn ol y byddont o ran eu galluoedd a'u sefyllfaoedd wedi eu gosod yn y byd. Arddangosiad teg o gymeriadau dynion ddylai Geiriadur Bywgraffyddol fod, fel y mae darluniau cywir i fod o'u personau. Os bydd yr ardebau wedi eu tynu yn ffyddlon, byddant yn arddangosiadau o'r hyn ydoedd y dynion; felly, bywgraffiadau teilwng o'r enw a drosglwyddant i'r oesoedd a ddeuant, ac i'r plant a enir gynlluniau o'r peth ydoedd dynion o ran eu cymeriadau gwirioneddol. Nid darfolawd yw Bywgraffiad i fod, ond arddangosiad ffyddlawn o'r hyn ydoedd cymeriadau y gwrthddrychau. Er y dylid trin a thrafod yr ymadawedig yn dirion, ysgafn, a mwynaidd, eto ni ddylid gwyngalchu gormod ar eu beddau. Bydd rhai bywgraffwyr yn casglu eu holl ddoniau a'u dychymygion yn nghyd i arganmol rhagoriaethau yr ymadawedig—ei dalentau, ei alluoedd digyffelyb, ei araethyddiaeth hyawdl, ei ddybenion pur a dihalog, nes bydd yr holl frychau wedi myned o'r golwg, ac yr ymddengys fel pe buasai yn un o drigolion gwlad y perffeithrwydd. Dichon fod amcan y cyfryw yn dda, er efallai nad oedd y darlun yn gywir. Pan fyddo darluniwr ffyddlon yn myned i dynu delw un, nid ei waith fydd dyfeisio pa fodd i'w dynu brydferthaf, na pha fodd i gael y lliwiau gryfaf, ond pa fodd i'w gael debyoaf i'r cynllun; nid pa un a fyddai yn hardd ac yn dlws fyddai y pwnc, ond a fyddai mor debyg i'r gwreiddiol ag y gallai ei blant, ei wyrion, neu ei orddisgynyddion, ffurfio dychymyg cywir am dano. Felly am Fywgraffiad, nid y peth y dylasai dyn fod, ond y peth ydoedd mewn gwirionedd a ddylasai ddangos, a gadael i'r darllenydd ei hun y gwaith o dynu casgliad pa fath ddyn y dylasai fod. Nid oes neb yn y byd hwn heb ei golliadau, a phan ddarlunir y rhai hyny gan law gywrain â lliwiau priodol, y mae addysg briodol o ochelgarwch yn cael ei chyflwyno i'r darllenydd. Gwnai esgeuluso y sylwadau hyn gau allan ran fawr o ddyben Bywgraffiad. Y mae y colliadau yn y Bywgraffiadau Ysgrythyrol yn oleudai i'n cyfarwyddo i gadw ein llestr yn mhell oddiwrth y creigiau ar ba rai y syrthiasant; ac y mae rhinweddau, ar y llaw arall, yn foddion i'n tynu i hwylio ar hyd yr un llwybr, i fordeithio wrth yr un ser, a than arweiniad yr un Llywydd, nes oyraedd yr un porthladd. Felly hefyd, y duwielion diweddar, y mae y rhai a'n blaenodd "wedi marw yn llefaru eto;" y mae eu Bywgraffiad yn gynorthwy i ereill i ffurfio eu cymeriadau ar eu hol. Y mae tuedd gref mewn darluniad cyffrous o bob math o gymeriad, da neu ddrwg, er effeithio yr unrhyw ddelw ar y darllenydd. Gwnaeth darllen hanes gorchestion ambell filwr dewr gyflwyno ysbryd milwraidd i filoedd a'i darllenasant; dywedir fod darllen hanes lladron penffordd wedi llithio canoedd i ledrad; dywedir fod ymgydnabyddu a hanes ambell wleidyddwr enwog, megys Blackstone, &c., wedi denu meddyliau miloedd o ddynion at bethau gwleidyddol; a bod darllen hanes bywyd duwiol a llwyddianus rhai o Weinidogion yr Efengyl wedi enyn awydd mewn llawer bachgen ieuanc i'w hefelychu; ac felly gyda golwg ar bob gwyddoniaeth a chelfyddyd, i raddau mwy neu lai. Canfyddwn yma werth bywgraffiadau duwiolion—"gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur"—er gwrthweithio tuedd niweidiol hanesion rhai wedi hynodi eu hunain mewn pethau diles a niweidiol, ac er dyrchafu meddyliau dynion uwchlaw pethau diniwaid ynddynt eu hunain at bethau mwy gwerthfawr. Gwaith gwleidyddwr ydyw trefnu a chynllunio ar gyfer y byd hwn, ond gwaith Gweinidog yr Efengyl ydyw cyfeirio at y byd a ddaw; amcan y gwleidyddwr yw oynyg at wella amgylchiadau tymhorol y wlad, ond dyben y Gweinidog Cristionogol a gyfeiria at radd uwch—at gyflawn fuddugoliaeth ar bob gelyn, at adgyfodiad gorfoleddus o byrth y bedd, a thragywyddol ddedwyddwch yn y nef. Nls gallwn ganfod pa mor bell y mae argraffiadau cymeriad yn cyraedd yn eu dylanwad moesol. Hyn yw Bywgraffiad adeiladol, a hwn yw y ooffadwriaeth sydd fendigedig. Byddai eu defnyddio o wir werth i'r genedl ieuanc sydd yn codi. Ofnwn fod chwaeth ieuenctyd ac ereill yn myned yn ormodol ar ol pethau diwerth, gan adael pethau sylweddol heb eu ceisio.
Gan mai tir anghof ydyw y bedd, a bod y meirw yn fuan yn cael eu hanghofio, a'u gweithredoedd yn cael eu hebargofio yn y ddinas lle y gwnaethant felly, dylem fod yn dra gofalus i gadw coffadwriaeth i'r oesoedd a ddeuant o'r rhai hyny "a gawsant air da trwy ffydd," y rhai a fuont hynod yn mhlith yr apostolion, ac fel Jehoiada, a wnaethant ddaioni yn Israel tuag at Dduw a'i dy; fel pan y byddont hwy fel canwyll o dan lestr yn ngwely dystaw y bedd y byddo y grasau a'r doniau a ddysgloiriasant ynddynt yn llewyrchu gerbron cenedlaethau dyfodol, fel y gogonedder eu Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, ac y byddo i'w hesiamplau effeithio yn ddaionus ar ou holynwyr, trwy fod yn anogaeth i'r rhai a ddarllenant i fyned rhagddynt ar hyd ol traed y praidd, a bod yn ddylynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu yr addewidion. Dywedodd Crist am y wraig a eneiniodd ei gorff, "Pa le bynag y pregethir yr efengyl yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd er coffa am dani hi." Yn yr hyn a ddywedir uchod golygai yr ysgrifenydd yn ddiameu dduwiolion a rhai rhagorol mewn gras yn gyffredinol, pa un bynag a fyddent mewn swyddau yn yr eglwys neu beidio. Ac yn ychwanegol, am swyddogion y mae genym orchymyn penodol yr Apostol at yr Hebreaid, Heb. iii. 5—"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw, ffydd y rhai dylynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Lle byddo blaenoriaid ysbrydol a theilwng yn yr eglwys yn cael lle mawr yn meddyliau y bobl tra byddont yn myned i mewn ao allan yn eu plith, nis gallant lai na chofio am danynt ar ol eu hymadawiad. Pa mor ffyddlon bynag y byddo gweision Crist dros eu tymor ar y maes, nid ydyw eu hamser ond byr iawn; gyda'u bod megys yn dechreu ar eu defnyddioldeb gyda'r gwaith gelwir hwynt oddiwrtho i roddi eu cyfrif. Er hyny, y rhai a dderbyniasant yr efengyl trwyddynt, ac sydd yn dal yn eu cof a pha ymadrodd yr efengylasant iddynt, nis gallant beidio meddwl am danynt ar ol myned i orphwys, "gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."
Y mae yn debyg nag oes un genedl ag sydd yn meddu gradd o ddysgeidiaeth wedi bod yn fwy difraw a diofal am gadw coffadwriaeth o wroniaid eu cenedl na'r Cymry. Gwir yw iddynt fod am oesoedd lawer yn dra amddifad o fanteision er helaethu eu gwybodaeth; nid oedd braidd neb o'r bobl gyffredin dri chant o flynyddoedd yn ol a fedrai air ar lyfr, a llawer llai yr oesoedd cyn hyny, ac nid oedd am amser maith wedi hyny ond ychydig o lyfrau Cymreig yn argraffedig; ond erbyn hyn y mae'r addewid yn dechreu cael ei chyflawni, "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Y mae yn wir fod breintiau ein cenedl yn bresenol yn bur halaeth; gall yr Arglwydd ddyweyd gyda'r priodoldeb mwyaf am ein gwlad megys y dywedodd gynt am ei winllan, "Beth oedd i'w wneuthur yn ychwaneg i'm gwinllan nag a wnaethum ynddi ?" Y mae yn ddiau mai i'r rhai y rhoddir llawer iddynt y gofynir llawer ganddynt.. Y mae y rhai a geisiant ddarllen er buddioldeb yn barnu fod y Beibl a llawer o lyfrau da ereill yn llesiol i'w darllen, ond ystyriant fod darllen llyfrau hanesyddol yn gwbl ddiles ac afreidiol. Nid ydyw y cyfryw yn ystyried fod y Beibl, neu ran fawr o hono, yn hanesyddol a bywgraffyddol, fel y gwelir yn yr Hen Destament a'r Newydd. Hyderwn nad oes neb a addefant ddwyfoldeb yr Ysgrythyrau yn edrych ar y rhanau hanesyddol o hono yn ddiles ac afreidiol, canys y mae holl Air Duw yn bar. Pe na buasai genym ond y rhanau athrawiaethol yn unig o'r Ysgrythyrau, pa fodd y delem i wybod pwy a greodd y byd, ac yn mha gyflwr y cafodd ein rhieni cyntaf eu gosod ynddo cyn y cwymp? y modd y syrthiasant o uchder dedwyddwych i ddyfnder trueni, yn nghyd a'n holl hiliogaeth i'r unrhyw bydew erchyll? Oni buasai i'r Beibl roddi i ni hanes am y cwymp a'r twyllwr, sef diafol, ni fuasai genym wybodaeth sicr, ond rhyw draddodiadau anmherffaith wedi dyfod i waered o dad i fab; ni fuasai genym unrhyw ddarluniad cywir am y dylif, dim ond rhyw ddychymygion cyfeiliornus, megys ag y sydd gan y paganiaid hyd heddyw, oni buasai Gair Duw. Yn y Beibl yr ydym yn cael hanes aneirif bethau tra rhyfedd a ddygwyddasant yn yr amseroedd gynt, megys gwaith Abraham yn aberthu ei fab Isaac, amgylchiadau trallodus Joseph, gwyrthiau Moses, teithiau yr Israeliaid, y Môr Coch yn agor o'u blaen a hwythau yn myned drosodd ar dir sych, boddiad Pharao, dyfroedd yr Iorddonen yn troi yn ol, yr aberthau, y babell, teml Solomon, Jonah yn mol y pysgodyn, Dafydd yn lladd y cawr, y tri llanc yn y ffwrn dân, Daniel yn ffau y llewod. Ni fuasem ychwaith yn gwybod dim am Gyfryngwr y Testament Newydd oni buasai yr hanes a roddwyd am dano i ni gan yr Efengylwyr—ei genedliad goruwch—naturiol, ei enedigaeth, ei demtasiynau, ei wyrthiau, ei ddyoddefiadau annhraethol, ei angeu, ei gladdedigaeth, ei adgyfodiad buddugoliaethus, ei esgyniad gogoneddus, a'i ddyfodiad i farnu byw a meirw yn y dydd diweddaf. Ni fuasem ychwaith yn gwybod dim am yr Apostolion, eu teithiau blinion, yr erledigaethau creulawn a ddyoddefasant, a'r gwaredigaethau a gawsant, yn nghyd â llwyddiant eu gweinidogaeth. Nid oes yr un hanesyddiaeth i'w chystadlu a'r hyn a adroddwyd gan ddynion sanctaidd Duw, y rhai a lefarasant megys y cynyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glan. Eto, y mae hanesiaeth yr eglwys, yr ystormydd blinion yr aeth trwyddynt, a'r erledigaethau creulawn a ddyoddefodd Gweinidogion ffyddlawn Crist yn Nghymru, llawer o ba rai a gymerasant eu curo a'u hyspeilio o'u meddianau, a'u carcharu yn y modd mwyaf barbaraidd yn hytrach na rhoddi i fyny bregethu Crist yn geidwad i'r colledig,—y mae'r pethau hyn yn wir deilwng o'u cadw mewn coffadwriaeth. Y mae hefyd yn beth hyfryd i gael ychydig o hanes y ser boreuol a adlewyrchasant oddiwrth Haul y Cyfiawnder i ymlid cysgodau y nos a dychrynu creaduriaid aflan o'r wlad. Pe na buasai i ryw rai fod mor ffyddlawn a chadw coffadwriaeth am yr ardderchog lu o ferthyron a ddiangasant adref yn orfoleddus trwy ganol fflamiau tanllyd; ac am Calfin, Wickliffe, a Luther, yn nghyd a miloedd lawer o dystion ffyddlon ereill dros Dduw, ni fuasem ni yn gwybod fod y fath wyr enwog wedi bod erioed yn y byd; a chan fod hanesiaeth yn mhob oes a gwlad mor fuddiol ac adeiladol, a raid i'r Cymry gael eu cau mewn tywyllwch ao anwybodaeth am wroniad eu cenedl, ac am y pethau rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd yn eu mysg mewn gwahanol oesoedd. Gyda golwg ar haniad a hynafiaeth y genedl ac ystyr yr enw Cymry, peth hawdd fyddai profi mewn modd anwadadwy fod cenedl y Cymry wedi hanu oddiwrth Gomer, mab hynaf Japheth, cyntaf—anedig Noa. Gellir profi hyn yn y modd cadarnaf trwy dystiolaethau lluoedd o enwogion y cyn—oesoedd, megys Eustalius, Isidore, Tonaras, Josephus, Ptolemy, Strabo, Pliny, Dionysius, Mela, Theodoret, Pezron, Bullet, Bochart, Kaleigh, a chan luoedd o hynafyddion diweddarach. Am hyny, gallwn sicrhau yn orfoleddus yn ngeiriau awduron dysgedig yr "Universal History," fod y Cymry o ran ei hynafiaeth yn rhagori ar holl genedlaethau y ddaear. Er fod rhai o'r doetion paganaidd yn rhoddi y flaenoriaeth i'r Aifftiaid a'r Phrygiaid, ac ereill ar y dybiaeth gyfeiliornus a groch—haerant mai nid Gomer ydoedd cynfab Japheth. Eto, yn ol y tystiolaethau mwyaf cadarn ac eglur, y Cymry ydynt iawn etifeddion coron anrhydeddus hynaf— iaeth; a phe buasai breniniaeth ac archoffeiriadaeth y byd wedi cael eu trosglwyddo trwy ddeddf dragywyddol i gyntaf—anedigion Noa, a phe buasai llinach ei etifeddion heb ei thori hyd yn awr, CYMRO fuasai heddyw yn eistedd ar deyrn—gadair y byd, ac yn ysgwyd ei deyrnwialen dros wyneb yr holl ddaear i lywio ei thrigolion gyda rhwysg cyffredinol; a CHYMRO hefyd fuasai yn gweini yn y cysegr santeiddiolaf yn ei lys—wisgoedd archoffeiriadol, a'r meitr coronawg ar ei ben, a'r Urim Sanctaidd yn dysgleirio ar ei ddwyfron; a da yw genym allu ychwanegu mai Cymro oedd y cyntaf erioed a edrychodd ar fryniau gwynion Deheudir Prydain, a thraed Cymro oedd y cyntaf erioed a sangodd ei daear hyfrydlawn. Am eu dyfodiad i'r Ynys, anhawdd yn bresenol fyddai i neb allu nodi allan gyda manyldra a chywirdeb amser poblogiad cyntaf yr Ynys hon; ond penderfynir gan haneswyr yn gyffredinol iddi gael ei phoblogi gan DRI LLWYTH o'r Cymry—i'r cyntaf ddyfod drosodd o ororau Thrasia o gylch 3,000 o flynyddoedd yn ol; i'r ail, sef y Lloegrwys, ddyfod yn fuan wedi hyny, dan lywyddiaeth Prydain ab Aedd Mawr; ac i'r rhai hyn gael eu canlyn gan y trydydd, sef y Brythoniaid, o Llydaw. Gellir casglu gyda golwg ar ddull eu sefydliad yn yr Ynys, oddiwrth amryw o'r Trioedd a chrybwylliadau hanesyddol ereill, iddynt sefydlu mewn modd tawel ac heddychlawn, ac i'r tir gael ei ranu rhyngddynt mewn cyfiawnder, ac heb dywallt gwaed, naill ai trwy gydsyniad, yn ol trefn Abraham a Lot, neu trwy goelbren, yn ol trefn Joshua a blaenoriaid Israel. Iaith y genedl yn ddiameu ydoedd yr hen Omeraeg, yr hon, yn ol tystiolaethau y dynion enwocaf a ymddangosasant erioed ar chwareufwrdd dysgeidiaeth, ydoedd un o ieithoedd Babel, os nid un o brif gangenau iaith Eden—y iaith a arferid unwaith o godiad y Danube hyd Benrhyn Finisterre a Chyfyngfor Erclwff——y iaith a lefarwyd gan enwogion llawer oes a llawer gwlad, ar y maes, yn y llys, ac wrth yr allor—yr hon sydd eto yn fyw, ac yn cael ei siarad heddyw mor rwydd ac y llefarwyd hi erioed gan feibion a merched Gomer. Profa yr awdwr enwog Pezron tu hwnt i bob dadl fod y Cymry yn llawer henach cenedl na'r Groegiaid, ac mai o'r Gymraeg y tarddodd y Roegaeg agos yn gyflawn. Profa Josephus hefyd, yn ei lythyr at Apion, na fedrai y Groogiaid air ar lyfr yn amser brwydr Caerdroia, rhwng y Cymry a'r Groegiaid. Er cael hanes pellach ar hyn cyfeirir y darllenydd at yr haneswyr a roddwyd, ac at Hughes's Hora Britanica, Davies's Celtic Researches, Encyclopedia Londivensis (Article Britain), Camden's Britain, Universal History (Vol. II. pp. 241—246), Dysgedydd am 1848, tu—dal. 398. Y mae yn ymddangos oddiwrth yr Ysgrythyrau Santaidd i'r amryw lwythau y rhai a ymdaenasant ar hyd y ddaear ar ol y dilaw gymeryd eu henwau oddiwrth eu gwahanol deidiau neu bonau eu cenedloedd. Ar ol enwi meibion Noa, Gen. x. 22, dywedir, "Dyma deuluoedd meibion Noa wrth eu cenedlaethau yn ol eu cenedloedd, ac o'r rhai hyn yr ymranodd y cenedloedd ar y ddaear wedi y diluw." Yn epil Sem, o ganlyniad, deallwn fod yr Hebreaid yn cael eu henw oddiwrth Heber, gor— wyr Noa; deallwn hefyd i Ashur roddi ei enw i'r Assyriaid, y rhai a ddeilliasant oddiwrtho; Elam a roddodd ei enw i'r Elamitiaid, trigolion Persia—gelwir hwy felly yn Actau yr Apostoiion; ac Aram a roddodd ei enw i'r Aramitiaid neu y Syriaid; ar ol hyny cafodd y Moabiaid en henw oddiwrth Moab, yr Amoniaid oddiwrth Benamoni, a'r Edomiaid a gawsant eu henw oddiwrth Edom, sef Esay. Yn hiliogaeth Ham, rhoddodd Misraim ei enw i wlad yr Aifft, yr hon a elwir yn yr Hebraeg Mitaraim, fel y gall pob Cymro ei ddeall oddiwrth y gair Abel Misraim, sef Galar yr Aifftiaid (Gen. 1. 11), a gelwir y wlad hono Mesi hyd heddyw gan yr Arabiaid, a gelwir hi weithiau yn yr Ysgrythyrau Gwlad Ham. Canaan, mab Ham, a roddodd ei enw i wlad Canaan, a'i feibion ef hefyd a enwasant eu gwahanol lwythau yn y wlad hono yn ol eu henwau priodol, megys Heth, tad yr Hethiaid, ac. Oush, mab Ham, oedd dad i genedl luosog a alwyd gan yr Hebreaid Cushim, sef yr Ethiopiaid. Mewn perthynas i feibion Japheth, dywedir, "O'r rhai hyn y rhanwyd ynysoedd y cenedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, wrth eu cenedloedd." Jafan mab Japheth a roddodd ei enw i'r Groegiaid, o herwydd Jafan (yn hytrach Jofon, am fod cryn gymysg yn sain yr F a'r W yn rhai ieithoedd dwyreiniol) yw enw gwlad Groeg yn yr Hebraeg, a Jofonim y gelwir y Groegiaid; ac ni a wyddom fod y Groegiaid yn galw en hunain yn Ionoi, ac y mae rhan o'u gwlad yn myned dan enw "Yr Ynysoedd Ionaidd" hyd heddyw. Yn awr pan welwn yr holl enwau hyn ac amryw ereill wedi eu rhoddi i'w gwahanol genedloedd, a hyny wedi ei sicrhau i ni trwy awdurdod yr Ysgrythyr Lân—pan welwn fod cynifer o feibion ac wyrion Noa wedi rhoddi eu henwau i'w llwythi priodol, nid ydyw yn un rhyfedd os darfu i Gomer roddi ei enw i'w genedl—yn hytrach, buasai yn rhyfedd iddo beidio. Ac os parhaodd rhai o'r enwau hyn hyd y dydd heddyw, nid ydyw yn anmhrofadwy i enw Gomer barhau felly hefyd; ac oddiwrth yr enghreifftiau uchod, y mae yn debygol i'w hiliogaeth gadw ei enw yn gystal ag y bu i'r llwythau ereill gadw enwau eu gwahanol fon— cenedlaethau; ac yn ganlynol y mae awdurdod i gredu mai felly y bu, o herwydd y mae Josephus yn dywedyd mai Gomer oedd tad cenedl y Gomeri, y rhai, medd efe, yr oedd y Groegiaid yn eu galw yn Galatai; ac y mae awdurdod i brofi fod y Galatai hyn o'r un bobl a hen drigolion Ffrainc, neu dir Gal, a galwyd hwy hefyd Calatoi (Celtoi), ac ymddengys trwy dystiolaeth ddiameuol fod yr Hen Frytaniaid a hen drigolion Ffrainc wedi tarddu o'r un gwreiddyn. Deallwn hyn oddiwrth Cesar a thrwy gyffelybrwydd eu defodau a'u harferion gwladol, megys eu Beirdd a'u Derwyddon, &c., ac oddiwrth iaith trigolion Llydaw, ac am— ryw ddarnau o hen iaith tir Gal. Weithan, gwelwn fod yma gadwyn o brofiadau anwrthwynebol am darddiad y Cymry oddiwrth Gomer. Yr oedd y Cymry o'r un gwraidd a'r Galatai, hen drigolion Ffrainc; yr oedd y Galatai yr un bobl a'r Gomari; ac yr oedd y Gomari wedi deilliaw oddiwrth Gomer. Ond dichon yr ymddengys yn ddyeithr iawn fod enw Gomer wedi ei gadw gan lwyth bychan y Cymry tra mae ereill wedi colli eu hen enwau; ond cofiwn nad yw yr Ynysoedd Ionaidd, tir meibion Jafan, ond bychain iawn o faintioli. ac nad yw gwlad Mesi, sef yr Aifft, ddim yn helaeth, eto y mae y prif enwau heb eu colli. A chofier gyda hyny, er bod llwyth y Cymry yn fychan ac anaml y dydd heddyw, nid oeddynt felly yn wastad, o herwydd yr oedd cenedl luosog yn y prif oesoedd, yr hon a elwid Cimmeri, ac yn preswylio yn ngogledd—dir Europa; a dywed hen hanesyddion mai yr un oeddynt a'r Cimbri, y rhai a drigent yn rhan o'r Almaen a Denmarc. Ond pa fodd y gellir profi fod Cimbri y Cyfandir o'r un epil a Chymry Prydain? Credwn y gellir dangos hyn trwy ddau beth penodol: yn gyntaf, trwy gyffelybrwydd y ddau enw—Cimbri, Cymry; yn ail, trwy gyffelybrwydd y iaith, canys y mae dau air o'u hiaith eto ar glawr, sef yr enw Moriamarusa, rhan o For Llychlyn, yr hyn, medd Plinius, sydd yn arwyddocau Môr Marw. Cymerer oddiwrth y geiriau hyn eu terfyniadau Lladin, a doder at y dystiolaeth hyny enw y genedl, sef Cimbri, a phwy a all ameu mai Cymry oeddynt? Nid ydym yn gweled un peth idd ei wrthosod i'r daliadau uchod, oddieithr i ryw un ddywedyd am Josephus ei fod yn byw mor bell oddiwrth oes Gomer fel nad ydyw yn debygol fod ei awdurdod ef yn ddiamheuol. I hyn yr atebwn na allwn ni weled pa awdurdod oedd gan Josephus. Dichon fod ganddo hanesion y sawl ydynt yn awr wedi myned ar goll, o herwydd ni a wyddom fod amryw lyfrau hanesiol ac ereill gan yr Iuddewon gynt y rhai ydynt er ys oesoedd wedi eu colli yn llwyr; ac os cadwodd yr Iuddewon hanesion cynifer o'r cenedloedd ereill, nid yw yn annhebygol eu bod yn gwybod tarddiad y genedl Geltaidd, yr hon oedd unwaith yn cyffinio ar wlad Asia, ac mai nid heb awdurdod y dywedodd Josephus fod y Gomeri yn deilliaw oddiwrth Gomer. Pa darddiad arall a ymddengys mor resymol i'r enw? Rhai a ddywedant mai oddiwrth agwedd fynyddig Tywysogaeth Cymru y cymerodd ei thrigolion yr enw hwn; ond gwrthbrofa y Trioedd hyn, o herwydd gwelir yno fod y Cymry yn dwyn yr enw cyn dyfod i'r ynys hon. Haera ereill. mai oddiwrth cyn-bru y tardda, sef y trigolion cyntaf; ond paham y cymerai y Cymry yr enw hwn yn hytrach na thrigolion gwledydd ereill, a phaham y troent oddiwrth arfer yr oesoedd hyny yn mha rai y gelwid y prif drigolion yn ol eu gwahanol ben- cenedloedd? Y mae cefnogwyr y tarddiad cyn-bru yn cyfaddef i'r enw gael ei roddi yn foreu iawn, sef pan nad oedd trigolion ereill yn y tir, a hyn a'n dwg ni at oesoedd y gwasgariad, yr hyn a gymerodd le yn nghylch can mlynedd ar ol y diluw, pan roddwyd ynysoedd y cenedloedd i Japheth a'i hiliogaeth. Felly, pan ystyrir yr amrywiol ddaliadau hyn yr ydym yn barnu fod awdurdod hanes a thebygolrwydd amgylchiadau yn gwbl o ochr deilliad y Cymry oddiwrth Gommer . Y neb a ewyllysiant weled rhagor ar hyn darllement Herodotus; Archaiol, Vol. I p. 76, Vol. II. pp. 57, 58; Welle's Geo., Vol. I.; Celtic Researches, p. 135; Pearon Antiq. Celt, Ch. 8; Camden.