Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/(Allen), Evan Owen

Oddi ar Wicidestun
Anwyl, (Parch. Edward) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Arawn

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Evan Owen (Allen)
ar Wicipedia

(ALLEN), EVAN OWEN. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Pant y Llin, gerllaw Llanrwst, yn y flwyddyn 1805. Amaethwyr cyfrifol oeddynt ei rieni; ac ystyrid fod y teulu oll yn bobl o gyneddfau cryfion. Ysgrifenodd lawer i'r hen Seren Gomer a chyhoeddiadau eraill i amddiffyn rhyddid gwladol a chrefyddol. Y mae yr ychydig ddarnau a adawodd o'i ol mewn llawysgrifen yn profi hefyd ei fod yn meddu yr awen wir; ac yn peri i ni resynu na buasai wedi ymarfer chwaneg â'r ddawn hono. Bu farw yn Rhutbyn, Rhagfyr 18fed, 1852, a gorwedd ei lwch wrth gapel y Bedyddwyr yn Llanfwrog. Cymerasom a ganlyn o'i ysgriflyfr:—

SIOMIANT.

Ymdeithydd tlawd i Ffair y Rhos
Foregwaith teg, o'i unig gell
Gychwynai, tra y wawrddydd dlos
Gyfarchai y Gorllewin pell;
Boreufwyd idd ei feddwl gwan
Fu cathl ber cerddorion llwyn,
A'i ysbryd isel godid pan
Fyfyriai radau'i Grewr mwyn.

Ond Och! pan prin yn ngwydd y Rhos,
Yr wybren glir a ddual'n brudd,
Ac ebrwydd iawn adchwela nos,
Pan nad oedd eto ond dechreu dydd!
Y fellten gerth ag erchyll roch
A rwygai'r cwmwl du yn gant,
Ac adsain y taranau croch
A siglent sylfaen bryn a nant!

Ac yna daeth y gawod drom
Sef DYLIF, nid dyferion man;
A'r truan ar y gefnen lom
Heb gysgod craig-heb dy-heb dan;
Darfyddai nerth y teithydd gwan,
Y gerth ystorm a'i curai i lawr.
A churid ei anfarwol ran
I ddylif tragwyddoldeb mawr!

Un wedd yw dyn yn dechreu'i daith
Yn fore i ffair pleserau'r byd,
Holl wenau anian yn eu hiaith
Addawant ddiwrnod heulawg clyd;
Ond mynych iawn yn ngwydd y nwy',
Y cyfyd rhyw ystormydd erch,
Ac odid fawr na churant hwy
Yn ddrylliau holl obeithion serch.


Nodiadau

[golygu]