Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Anwyl, (Parch. Edward)

Oddi ar Wicidestun
Anwyl, (Parch. Lewis) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

(Allen), Evan Owen

ANWYL (PARCH. EDWARD), gwr a gymerodd ran lafurus a blaenllaw yn sefydlu lluaws o achosion y Cytundeb Wesleyaidd yn Nghymru. Ganwyd ef yn Ebrill, 1786, yn Ty'nllan, Llanegryn, Meirion. Ei rieni oeddynt Owen ac Ann Anwyl. Yr oedd annuwioldeb yn uchel iawn ei ben yn yr ardal hono yn ystod ieuenctyd Anwyl, ac yntau mor hoff o rusedd ag un c'i gyfoedion. Eithr yn 1804, daeth cenadon i'r Wesleyaid ar ymweliad a'r ardal, sefydlasant yno eglwys fechan, ac yn fuan cawn ef yn ymuno â hi. Yna efe a fwriodd ei holl enaid wrth draed ei grefydd. Y pryd hwnw, yr oedd pregethwyr yn anaml; a chyrddau gweddio yn aml a dymunol; ac yn y cyrddan hyn y daeth gallu meddyliol Anwyl gyntaf i'r amlwg. Hyn a barodd i'w frodyr ei anog i arfer ei ddawn trwy roddi gair o gynghor yn awr ac eilwaith. Anogwyd ef drachefn i ddechren pregethu; eithr yr oedd o natur mor wylaidd fel na fynai ymgymeryd â'r fath waith hyd oni argraffwyd ar ei feddwl ei fod yn peryglu iachawdwriaeth ei enaid trwy guddio ei dalent yn y ddaear. Yr oedd oedd efe wedi derbyn addysg ragorol. Traddododd ei bregeth gyntaf yn nghapel bychan Abergolwyn, yn Ionawr, 1808; ac yn Awst y flwyddyn hono galwyd ef allan i'r weinidogaeth amdeithiol. Maes cyntaf ei lafur oedd Ynys Mon. Yn Awst canlynol symudodd i Gyldaith Caernarfon; ac yn 1810 i Gylchdaith Caerphili. Bu yno am ddwy flynedd, a symudwyd ef i Langollen; a thrwy ei eondra meddwl, bu yn foddion yno i ddarostwng llawer pechod penuchel. Yn 1814, symudwyd ef i Gyldaith Merthyr, ac yn y flwyddyn hono, priododd Miss Matthews, Trelai, Morganwg; bu iddynt un—ar—ddeg o blant, a threuliasant fywyd dedwydd am y cyfnod hirfaith o un mlynedd a deugain.

Dyn tal, teneu, esgyrniog, oedd Mr. Anwyl, yn meddu cyfansoddiad corphorol cryf annghyffredin, onide nid allasai byth gyflawni y gwaith mawr a gyflawnodd. Tan ei amgylchiadau ef, yr oedd yn ofynol i ddyn fod yn gerddwr rhagorol cystal ag yn bregethwr da. Dywed ei fywgraffydd yn yr Eurgrawn ddarfod iddo un Sabbath bregethu dair gwaith mewn gwahanol fanau, a cherdded 72 milldir; ac iddo ei glywed yn cwyno un tro ei fod yn teimlo braidd yn stiff wedi cerdded y dydd o'r blaen o Lanidloes yn Maldwyn i Trelai yn Morganwg—pellder o dros 80 milldir.

Yr oedd efe yn meddu ysbryd boneddigaidd a diabsen; ei gasbeth oedd ymosodiadau llechwraidd hystyngwyr enllibus; a llawer ergyd drom a roddodd efe gyda'i ddawn parod i'r cyfryw. Un o'i brif neillduolion oedd parodrwydd ei ddawn, ac yn ngwyneb ymosodiad ar rai o'i egwyddorion, gwnai ddefnydd effeithiol o'r gyneddf hon. Pan oedd ef yn teithio ar Gylchdaith Rhuthyn a Dinbych, ac yn myned i'w daith un diwrnod, cyfarfyddodd ag ef enau cyhoeddus perthynol i enwad arall, yr hwn a'i hanerchodd mewn dull trahausfalch, ac a ddywedodd fod ganddo ef eisiau ei holi. "Felly yn wir," ebai yntau, ond y mae gan yr Apostol Paul lawer gwell cynghor i'w roddi i chwi na hyny "Beth yw hyny?" ebai'r gwr dyeithr. "Holed dyn ef ei hun," ebai yntau, ac aeth ei wrthwynebydd ymaith yn ddystaw wedi cael mwy nag a ddymunasai. Bu Mr. Anwyl yn ddarllenwr mawr ar hyd ei oes, yn enwedig ar hanesyddiaeth; a gallai gofio bron bobpeth a ddarllenai. Gwnelai hyn. ef yn gydymaith addysgiadol a difyr. Meddai hefyd ddirnadaeth oleu ar byncau duwinyddol; ac yr oedd yn bregethwr parchus. Prif ddiffyg ei bregethau ydoedd trefn; yn tarddu oddiar y ffaith na byddai efe byth yn eu hysgrifenu oddieithr y penau, gan ymddibynu i raddau helaeth am y gweddill i'r hwyl a gaffai wrth eu traddodi. Ar rai adegau, prin y gallesid credu mai yr un ydoedd â'r hwn a bregethai o'r blaen, mor annysgrifiadwy o nerthol nes ysgubo pobpeth o'i flaen. Bu yn ffyddlawn a llafurus yn y weinidogaeth am chwech a deugain o flynyddau; ac yn ystod yr amser hwn symudwyd ef o'r naill fan i'r llall un ar hugain o weithiau. Yn 1854, oherwydd nerth yn pallu, a phob arwyddion nad pell awr yr ymddatodiad, rhoddodd ei swydd i fynu er mwyn ymneillduo i gael ychydig seibiant ar derfyn ei ddyddiau. Treuliodd ychydig o'i amser gweddill hwn yn Rhuthyn, a symudodd oddiyno i Dreffynon. Ni bu ei orphwysdra ond byr, os iawn ei alw yn orphwysdra, canys hyd y parhaodd ei nerth yr oedd efe yn ddiwyd beunydd yn rhyw ran o winllan ei Arglwydd. Pa fodd bynag, erbyn terfyn 1856, yr oedd pob arwyddion nad neppell y diwedd; ymollyugai ei natur yn raddol, a Ionawr 23ain, 1857, gollyngwyd yr enaid oddiwrth ei waith at ei wobr. Ei air olaf ydoedd, "Y mae yr oll yn oleu a disglaer o fy mlaen." Claddwyd ef yn Mynwent Newydd Treffynon, a dangosodd masnachwyr y dref eu parch i'w goffadwriaeth trwy gaeadlenu eu ffenestri; ac anfynych y gwelwyd yn y parthau hyny angladd mor lluosog. Dyma amlinelliad o fywyd gwr y dywedodd un a'i hadwaenai yn dda am dano, "Anwyl by name,—Anwyl by nature."

Nodiadau

[golygu]