Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Anwyl, (Parch. Lewis)

Oddi ar Wicidestun
Anwas Adeiniog Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Anwyl, (Parch. Edward)

ANWYL, (PARCH. LEWIS). Awdwr amryw lyfrynau Cymreig. 1. "Y Nefawl Ganllaw, neu yr uniawn ffordd i fynwes Abraham; mewn ychydig o ystyriaethau eglur i gyfarwyddo y cyfeiliornus i'r porthladd dymunol hwnw." 2, "Myfyrdodau Wythnosol; sef myfyrdod am bob dydd yn yr wythnos, yn enwedig amser y Grawys." 3, "Cynghor yr Athraw i Rieni yn nghylch dwyn eu plant i fynu." 4, "Hyfforddiadau eglur i'r ienanc a'r anwybodus, yn cynwys eglurhad hawdd a chryno o Gatechism yr Eglwys; wedi ei gymhwyso i ddeall a choffadwriaeth y rhieni o'r synwyr iselaf; gan Esgob Synge. Ac wedi ei gyfieithu gan L. Anwyl, ficer Abergele." Yr oedd ef yn offeiriad plwyf Ysbytty Ifan, sir Ddinbych, yn 1740; symudwyd ef i ficeriaeth Abergele yn 1742; ac yno y bu farw, a chladdwyd ef yn eglwys y plwyf hwnw Chwefror 27ain, 1776.

Nodiadau

[golygu]