Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Abraham
Gwedd
← Aaron | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Achlen → |
ABRAHAM. Pan roes yr Esgob Sulgen ei waith o'i law tua'r flwyddyn 1076, dilynwyd of yn ei swydd gan Abraham, fel esgob Mynwy neu Dy Ddewi. Yn mhen rhyw ddwy flynedd ar ol ei gysegriad bu ef farw, ac yn yr adeg hon, ebe Brut y Tywysogion,' y glaniodd y Daniaid yn Mhenfro, ac y llosgasant Dy Ddewi yn oddaith. Lladdwyd Abraham, medd Manby, gan y Daniaid yn 1078.