Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aaron

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Abraham

Enwogion Cymru.

AARON, Cofnodir yn ein hanesiaeth eglwysig, y Sant hwn fel un o'r rhai cyntaf a dderbyniodd goron merthyrdod yn Mhrydain. Ganwyd ef yn Nghaerlleon ar Wysg, lle pur nodedig pan oedd ein cyndadau o dan iau y Rhufeiniaid, ac yno, sef yn ei dref enedigol, y dyoddefodd of a Julius y poenydiau mwyaf arteithus a gwaradwyddus o herwydd eu ffydd yn Nghrist. Digwyddodd hyn yn amser erledigaeth greulon Diocletian, sef tua'r flwyddyn o Oed Crist 303. Nis gwyddis pa beth oedd ei enw cyn cael bedydd, a choelir mai cymeryd yr enw Aaron a wnaeth pan droes yn Gristion, oblegyd arfer gyffredin pobl yn y wlad hon oedd cymeryd enwau Hebreaidd, Groegaidd, neu Ladinaidd, ar adeg eu troedigaeth. Dywed amryw hon haneswyr fod eglwysydd heirdd wedi cael eu hadeiladu er coffhad am Aaron a Julius yn Nghaerlleon, a bod yn perthyn i'r naill urdd o Ganonau, ac i'r llall gor o Leianod. Y mae crybwylliad i'r perwyl yn Llyfr Llandaf, a dywed yr Esgob Godwin fod olion o'r eglwysydd hyn i'w gweled yn ei amser ef. Cedwid eu Gwylmabsant ar y cyntaf o Orphenaf. Dywedir hefyd fod eglwys Llanharan yn Morganwg wedi cael ei chyflwyno i Aaron Sant.

Nodiadau

[golygu]