Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Rhagymadrodd
← Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Aaron → |
RHAGYMADRODD
AT FY NGHYDWLADWYR, Wrth derfynu y gwaith hwn, a'i gyflwyno i'ch nawdd ymgeleddgar chwi, goddefwch imi ymlawenhau ar gwblhad y "Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru" cyntaf a ymddangosodd yn ein hiaith. Tra y mae genym hanesiaeth mor hen, a'r fath doraeth o feibion athrylithgar yn ei britho, y mae yn syndod na chynysgyddasid y Cymro å rhestr ohonynt yn ei iaith ei hun cyn hyn. Gwir i'r llafurfawr a'r trylen Ddoethawr Owen Pugh, yn ei Cambrian Biography; ac i'r diwydbwyll a dysgedig Barch. R. Williams, o Langadwaladr, yn ei Eminent Welshmen, wneud cymwynas fawr â'n cenedl, trwy arbed enwau lluaws o'i Henwogion rhag llithro i ebargofiant, ond dylid cofio mai mewn estroniaith y cyflawnasant hwy eu gwasanaeth. Dewisasom ninaw siarad â'r wlad yn ei phriodiaith ei hun, a'r wlad sydd i benderfyna, trwy ei nawdd i'r gwaith, pa un a wnaethom yn ddoeth ai peidio. Fel yr oedd yr Eminent Welshmen yn helaethiad ar y Cambrian Biography felly y mae y llyfr hwn yn helaethiad ar yr Eminent Welshmen, ac yr ydym yn dymuno cydnabod yn ddiolchgar bob cymhorth a gawsom ynddo.
Dianmheu yr ystyria rhai ein bod wedi gadael allan rai bywgraffiadau a ddylasent fod i mewn, ac wedi dodi i mewn rai a ddylasent fod allan; tra y tybia eraill ein bod wedi talu gormod o sylw i rai, a rhy fach i eraill. Wrth y blaenaf dywedwn, mai tra anhawdd ydyw darnodi terfynau Enwogrwydd, ac y gorfodid ni i gyfarfod yr anhawsder heb gymhorth na deddf na rheol, ond cyfarwyddyd synwyr cyffredin noeth. Wrth yr olaf, nad yw pob bywyd unrhyw fywyd; arall yw y bywyd tawel, digyffro, ac anhynod ei amgylchiadau; ac arall yw y bywyd arwraidd, mewn oes a sefyllfa lawn o ddigwyddiadau dyddorol. Gall yr Enwog arwain y naill fywyd fel y llall; a dylid cofio nad yw hyd erthyglau y llyfr hwn yn unrhyw ddangoseg o syniad yr awdwr am deilyngdod eu gwrthddrychau.
Credwn nad oes odid lyfr hanesyddol ar Gymru, yn Nghymraeg na Saesneg, na bu o dan deyrnged i gyfoethogi dalenau y llyfr hwn, a chawsom dwysged o ddefnyddiau o hen ysgrif-lyfrau na welsant hyd yn hyn oleuni dydd.
Caffaeliad gwerthfawr ini ydoedd ysgrifau bywgraffiadol Gwilym Lleyn, yr hwn a dreuliodd ran fawr o oes ddiwyd i gynull a dodi ar gôf a chadw gofnodau o "Enwogion Annghofiedig Cymru;" ac yn mysg y rhai ddarfu ein cynysgacddu â bywgraffiadau, dylem enwi y Parch. R. Ellis (Cynddelw); y diweddar Glasynys; Parch. D. Silvan Evans; Parch. T. James (Llallawg), Netherthong; Creuddynfab; Parchn. J. Thomas, a N. Stephens, Liverpool; Parch. D. Saunders, Abercarn; Parch. Roger Edwards, Wyddgrug; Parch. John Foulkes, Rhuthyn, a lluaws eraill.
Gan mai at wasanaeth y genedl, ac er llanw bwlch yn ei llenyddiaeth, y cychwynwyd y Geirlyfr hwn, ac y gweithiwyd y cynllun allan i'w derfyniad, heb eiliw o ragfarn at na sect na phlaid grefyddol na gwleidyddol, dymunem ildo safle genedlaethol, a'r safon a haedda yn llyfrgell pob Cymro darllengar.
Y CYHOEDDWR.